Beth yw Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd, a pham y dylech gymryd rhan?
Ydych chi'n mwynhau treulio amser yn ein dyfroedd neu o’u cwmpas? Ydych chi'n poeni am gyflwr ein dyfroedd a'n cynlluniau i'w gwella?
Os felly, dyma’r amser i gymryd rhan yng ngham cyntaf Cynlluniau Rheoli Basn Afonydd nesaf Cymru.
Mae Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd (RBMP) yn nodi’r hyn a wyddom am afonydd, llynnoedd, camlesi, dyfroedd daear, aberoedd a dyfroedd arfordirol Cymru. Maen nhw’n cwmpasu'r hyn y mae angen i ni ei wneud i'w gwella a sut y byddwn yn gwneud hyn. Mae gennym ddyletswydd i greu’r rhain fel rhan o Reoliadau Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD) 2017. Defnyddir Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd ar draws gweddill y DU a'r Undeb Ewropeaidd a chânt eu diweddaru bob chwe blynedd. Mae tri Cynllun Rheoli Basnau Afonydd sy'n cwmpasu Cymru — Dyfrdwy, Gorllewin Cymru a Hafren.
Statws cyfredol dŵr Cymru
O fewn pob cynllun, rydym wedi diffinio adrannau unigol o ddŵr fel 'cyrff dŵr' a chânt eu dosbarthu fel ‘uchel’, ‘da’, ‘cymedrol’, ‘gwael’ neu ‘ddrwg’. Mae hyn yn seiliedig ar eu hecoleg ac ansawdd y dŵr. Yn ein Cynllun Rheoli Basnau Afonydd a gyhoeddwyd diwethaf roedd statws tua 40% o gyrff dŵr Cymru yn gyffredinol dda neu ar lefel uchel, mae'r graff isod yn rhoi mwy o wybodaeth.
Heriau sy'n wynebu dŵr yng Nghymru
Er bod llawer o gynnydd wedi'i wneud i wella ansawdd ein dŵr, rydym yn gwybod bod llawer mwy i'w wneud i gyrraedd y cyflwr yr ydym i gyd eisiau ei weld. Bydd yr argyfyngau hinsawdd a natur y mae Cymru'n eu hwynebu yn ychwanegu at yr her hon. O fewn pob corff dŵr nad yw'n cyrraedd statws ‘da’ rydym yn ymchwilio i'r rhesymau am hynny. Rhai o'r heriau mwyaf yr ydym yn eu hwynebu yw:
- Addasiadau ffisegol — er enghraifft amddiffynfeydd llifogydd a choredau, a newidiadau i'r sianeli afon naturiol. Gallant newid llif afonydd, a’r ffordd mae gwaddod yn symud gan arwain at golli cynefin a chreu rhwystrau i bysgod.
- Llygredd o ardaloedd gwledig — effeithiau arferion amaethyddol gwael, rheolaeth tir gwledig, a choedwigaeth ar amgylchedd y dŵr, sy’n achosi i waddod, maetholion a phlaladdwyr lifo i gyrff dŵr.
- Llygredd o ddŵr gwastraff — gall carthion gynnwys llawer iawn o faetholion (fel ffosfforws a nitradau), amonia, bacteria ysgarthol a chemegau a all niweidio ein hamgylchedd dŵr.
- Llygredd o drefi, dinasoedd a thrafnidiaeth - gall dŵr glaw sy'n rhedeg dros ffyrdd ac arwynebau caled eraill gludo llygryddion i gyrff dŵr. Gall cemegau o dir halogedig, a dŵr o dai ac offer sy'n cael eu 'camgysylltu' â draeniau dŵr wyneb yn hytrach na charthffosydd hefyd fod yn broblem.
- Llygredd o fwyngloddiau — dŵr halogedig sy’n draenio o fwyngloddiau, a’r rhan fwyaf o’r rhain yn rhai segur.
- Newidiadau i lif naturiol a lefel y dŵr — mae tynnu gormod o ddŵr o afonydd, camlesi, llynnoedd a dŵr daear, yn golygu bod llai o ddŵr ar gael. Gall newid lefelau dŵr effeithio ar gynefinoedd a rhywogaethau fel pysgod.
Yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud i wella ein dŵr
Yn y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd rydym yn nodi'r hyn sydd ei angen i:
- amddiffyn ein cyrff dŵr ac atal dirywiad.
- anelu at gael pob corff dŵr i gyflawni statws da
- hyrwyddo gwerth yr amgylchedd dŵr.
Er mwyn cyflawni'r rhain ar gyfer pob corff dŵr mae gennym amcanion. Er mwyn cyrraedd yr amcanion hyn, mae'r Rhaglen o Fesurau wedi cael ei rhoi ar waith - mae'r rhain yn gamau gweithredu cenedlaethol a lleol. Mae rhai ohonynt yn berthnasol i Gymru gyfan, fel deddfwriaeth, polisi, neu ddull strategol newydd. Er enghraifft, gwaharddiad cenedlaethol ar ddefnyddio cemegyn niweidiol, neu strategaeth genedlaethol ar gyfer blaenoriaethu ac ariannu gwaith adfer mwyngloddiau segur. Rydym hefyd yn gosod camau gweithredu ar lefel leol i fod yn glir ynglŷn â’r hyn sydd ei angen ar gorff dŵr penodol i amddiffyn ac adfer ein dyfroedd.
Ni allwn wneud y gwaith hwn ar ein pennau ein hunain, rydym yn gweithio gyda sefydliadau a rhanddeiliaid eraill i gyflawni'r nodau hyn.
Sut y byddwn yn diweddaru'r cynlluniau hyn
Ers 2009 rydym wedi bod yn diweddaru ein cynlluniau bob chwe blynedd ac wedi dechrau cynllunio ar gyfer y diweddariad nesaf a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2027.
Mae gennym ddull sefydledig o ddiweddaru'r cynlluniau hyn. Mae hyn yn cynnwys ymgynghoriadau cyhoeddus lle gofynnwn am eich barn ar sut yr hoffech weld dyfroedd Cymru yn cael eu diogelu, eu hadfer a'u hyrwyddo. Rydym wedi agor ein Ymgynghoriad Gweithio Gyda'n Gilydd i ofyn sut yr hoffech weithio gyda ni yn y gwaith pwysig hwn. Y flwyddyn nesaf (2025) byddwn yn cynnal ail ymgynghoriad cyhoeddus i gael gwell dealltwriaeth o’r materion a'r atebion sydd bellach yn effeithio ar ein dyfroedd. Mae'r ddau ymgynghoriad hyn yn siapio'r Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd drafft sydd wedi'u diweddaru lle bydd y cyhoedd yn cael cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad terfynol 2026.
Ymgynghoriad Gweithio Gyda’n Gilydd
Mae'r Ymgynghoriad Gweithio Gyda'n Gilydd bellach ar agor ac yn cau ar 20 Rhagfyr 2024.