Rydym ni’n recriwtio! Dewch i weithio yng Nghanolfan Ymwelwyr Coed y Brenin
Hoffech chi ymuno â thîm arlwyo sy'n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid gwych, bwyd blasus, a phrofiad positif yn un o brif atyniadau Eryri?
Coed y Brenin oedd canolfan beicio mynydd pwrpasol cyntaf Prydain ac mae'n dal i fod yn un o gyrchfannau gorau chwaraeon sy’n cynnwys llwybrau beicio mynydd o'r radd flaenaf, teithiau i'r teulu, caffi, siop feicio, man chwarae a llwybr hygyrch.
Yma, mae Emma Williams, sydd wedi bod yn rhan o'r tîm arlwyo yng nghaffi Coed y Brenin ers mis Tachwedd 2022, yn egluro mwy am y gwaith gwerthfawr y mae ei thîm yn ei gyflawni a pham y dylech ymuno â hi i weithio i #TîmCyfoeth.
Beth wnaeth eich denu i'r rôl?
Rydw i wastad wedi gweithio ym maes lletygarwch ac yn mwynhau bod gyda phobl. Er, wedi dweud hynny, roeddwn i'n teimlo'n naturiol bryderus am ddechrau swydd newydd.
Rydw i wrth fy modd yn cyfarfod pobl leol a grwpiau ymwelwyr sy'n dod i safle Coed y Brenin naill ai i gerdded neu feicio'r llwybrau, neu i fwynhau paned a chacen.
Beth yw uchafbwyntiau eich chwe mis cyntaf?
Roeddwn i’n teimlo'n rhan o'r tîm yn syth. Mae pawb sy'n gweithio yma yn gefnogol ac yn fwy na pharod i helpu. Mae yna amrywiaeth o bethau i’w gwneud a diolch byth dydw i ddim yn gaeth i un gorchwyl yn ystod y dydd, rydych chi’n cael blas ar bob agwedd.
Cefais fy synnu i ddechrau gan ba mor bell y byddai pobl yn teithio i ymweld am y penwythnos, gan fy mod wedi gweini pobl o ardaloedd fel Ynys Wyth, Ynys Manaw, Cernyw a Cumbria - ac yn fwy na hynny maent yn ymwelwyr cyson â Choed y Brenin oherwydd y lleoliad bendigedig a’r croeso cynnes a gânt wrth gyrraedd y Ganolfan Ymwelwyr.
Pam Coed y Brenin?
Bob bore pan fyddaf yn gyrru i mewn i Goed y Brenin, rwy'n teimlo mor werthfawrogol o'r amgylchoedd prydferth. Beth bynnag fo’r tywydd, a chredwch chi fi, rydyn ni’n cael bob math yma – eira, haul, niwl neu law.
Mae Coed y Brenin yn lleoliad gwirioneddol syfrdanol sy’n helpu i osod naws gadarnhaol ar gyfer diwrnod o waith.
Beth yw'r gwaith?
Fel Cynorthwyydd Bwyd a Diod byddwch yn gwneud yn siŵr bod cwsmeriaid yn hapus, a bod y caffi wrth galon eu boddhad drwy ddarparu gwasanaeth gwych. Byddwch yn cefnogi staff ar ddyletswydd i ddarparu amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid sy'n gwella'n barhaus.
Sut alla i ymgeisio?
Os ydych chi’n awyddus i ddysgu mwy am weithio mewn lleoliad mor ysblennydd, fel rhan o dîm sy’n canolbwyntio ar deuluoedd yn CNC, byddem wrth ein bodd yn clywed mwy gennych.
Cysylltwch â Nia Brunning yn nia.brunning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 0300 065 4166 i drafod ymhellach.