Samplu ein glannau: myfyrdodau ar ddiwedd tymor dŵr ymdrochi heriol

'Nôl ym mis Mai, fe wnaeth timau ledled y wlad newid i'w siwtiau sych a mynd mas i'r môr i gasglu samplau pwysig o'n 109 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig yma yng Nghymru.

Daeth hyn yn arferiad i lawer o'n staff dros yr haf, boed law neu hindda, gan sicrhau bod pob dŵr ymdrochi yn cael ei brofi o leiaf 10 gwaith.

A glaw oedd thema'r tymor yn anffodus. Yn ôl adroddiad misol y Met Office ar gyfer mis Gorffennaf, cyfanswm glawiad y DU ar gyfer mis Gorffennaf oedd 170% o'r cyfartaledd cyffredinol, sy'n golygu mai dyma'r mis Gorffennaf gwlypaf ers 2009.

Er bod yr amodau gwlyb a gwyllt wedi bod yn dda i'r syrff, mae'n anochel bod y tywydd annhymhorol wedi effeithio ar ansawdd ein dyfroedd ymdrochi ar adegau yr haf hwn.

Mae dŵr budr o'n cartrefi, ffyrdd, strydoedd a chaeau’n cael ei olchi i'n nentydd a'n hafonydd yn ystod glaw trwm, cyn sgubo allan i'r môr.

Mae gorlifoedd storm yn gollwng carthion gwanedig i'n dyfroedd pan fydd y carthffosydd yn boddi gan law drwm.

Mae Surfers Against Sewage yn derbyn data gan gwmnïau dŵr pan fydd gorlifoedd stormydd yn gollwng, ac yn darparu rhybuddion llygredd trwy eu gwasanaeth Safer Seas and Rivers.

Daw llygredd o lawer o ffynonellau gwahanol

Nid y tywydd yw'r unig beth fu'n poeni ein timau y tymor hwn.

Ddechrau Gorffennaf, caeodd Cyngor Sir Ynys Môn fynediad at ddŵr ymdrochi Bae Cemaes dros dro yn dilyn digwyddiad llygredd amaethyddol a laddodd nifer o bysgod yn Afon Wygyr, gan effeithio ar ansawdd dŵr ar y traeth.  Mae ein staff yn parhau i ymchwilio i'r amgylchiadau y tu ôl i'r digwyddiad hwn.

Ddechrau Awst, fe wnaeth ein gwaith samplu arferol yn Llandudno, Llandrillo-yn-rhos a Bae Colwyn dynnu sylw at lefelau uchel o facteria yn y dŵr, ac arwain at Gyngor Sir Conwy yn cau dyfroedd ymdrochi yno dros dro. Cafwyd ymchwiliad ond doedd dim modd canfod unrhyw achos amlwg. Roedd samplau a gasglwyd ychydig ddyddiau’n ddiweddarach yn hollol normal, ac ail-agorwyd y dyfroedd ymdrochi.

Dim ond blas ar rai o'r heriau sy'n ein hwynebu yw'r rhain. Rydyn ni'n asesu pob adroddiad am ddigwyddiad sy'n dod i law, ac yn ymchwilio iddo lle bo'n briodol.

Nid yw’n hawdd nodi achos llygredd bob amser, fel yn achos arfordir y Gogledd, er gwaethaf cryn ymchwilio i ollyngiadau cyfagos a draeniau dŵr wyneb.

Rydym yn gweithio ar brosiect gyda chyngor Bro Morgannwg a fydd yn rhoi gwybodaeth ar y pryd i ymdrochwyr ynghylch ansawdd disgwyliedig y dŵr ar draethau boblogaidd yn y Barri, Bae Jackson a Bae Whitmore.

Nod y prosiect yw defnyddio data samplu, ynghyd â data meteorolegol, fel glawiad, pelydriad UV a data lefelau afonydd ac ati i ddatblygu modelau ystadegol i ddeall yn well beth sy'n effeithio ar ansawdd y dŵr ar y traethau.

Bydd hyn yn helpu i ragweld digwyddiadau llygredd tymor byr a allai gael effaith ar Fae Whitmore a Bae Jackson.

Dyw pethau ddim fel ag y maen nhw’n ymddangos bob tro

Ac weithiau, nid llygredd yw'r hyn sy'n edrych ac yn arogli fel llygredd.

Ym mis Mehefin, cyn gwlypter yr haf, â ninnau'n mwynhau haul bendigedig ac wrth i’r tymheredd godi, dechreuon ni dderbyn adroddiadau am ewyn trwchus, brown, drewllyd ar hyd arfordir Ceredigion.

Roedd pobl yn bryderus wrth reswm, ond ar ôl anfon samplau i'r labordy i'w profi, gwelwyd mai algâu brown diniwed, naturiol oedden nhw. Er ei fod yn annymunol, ni fydd blŵm algaidd o’r fath yn effeithio ar ansawdd dŵr ymdrochi.

Dewch o hyd i wybodaeth am gor-dyfiant algâu’r môr ar ein wefan.

Mae'r hyn rydych chi'n ei weld (a'i arogli!) yn bwysig

Fel pob corff a ariennir yn gyhoeddus, mae ein hadnoddau’n gyfyngedig. Rydyn ni'n canolbwyntio ar y digwyddiadau sy'n cael yr effaith fwyaf difrifol, a lle gallwn ni wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Mae adroddiadau am ddigwyddiadau gan gymunedau, busnesau neu bobl ar eu gwyliau yn hollbwysig i'n helpu i greu darlun o effeithiau llygredd hirhoedlog.

Felly, os oes gennych chi unrhyw amheuaeth, cofiwch roi gwybod i ni am unrhyw beth sy’n peri pryder. Gallwch wneud hyn drwy ffonio ein llinell gymorth digwyddiadau 24/7 ar 03000 65 3000 neu lenwi ffurflen digwyddiad ar ein gwefan.

Diogelu ein dyfroedd ymdrochi at y dyfodol

Mae ein dyfroedd ymdrochi mor bwysig – ar gyfer ein hiechyd a'n lles, ein heconomi ac i'r planhigion a'r bywyd gwyllt maent yn eu cynnal.

Mae gan Gymru rai o'r dyfroedd ymdrochi gorau yn y DU, ac rydyn ni'n falch o'n record gydag ansawdd dŵr ymdrochi. Y llynedd, roedd 99% o'n dyfroedd ymdrochi’n cyrraedd y safonau gofynnol, gydag 80% yn bodloni'r meini prawf uchaf.

Mae llawer o waith wedi'i wneud i ddod â’n dyfroedd i'r safon hon. Mae hyn yn cynnwys gwaith ein timau ac eraill sy'n ymchwilio ac yn mynd i'r afael â ffynonellau llygredd lleol yn ogystal â buddsoddiad gan Dŵr Cymru. Mae'r graff canlynol yn dangos sut mae ein dyfroedd ymdrochi wedi gwella dros y blynyddoedd.

Graph showing bathing water compliance between 2004-2022

Mae'r gwaith o wella ein dyfroedd ymdrochi’n parhau. Rydyn ni'n cymryd camau cynhwysfawr i leihau llygredd o ffynonellau cyfarwydd fel llygredd amaethyddol a gollyngiadau carthion.

Er na allwn ni ragweld canlyniadau eleni, mae ein timau'n cytuno mai eleni oedd un o'r blynyddoedd mwy heriol i ddyfroedd ymdrochi.

Gyda'r holl samplau wedi'u casglu erbyn hyn, bydd y canlyniadau'n cael eu defnyddio, ynghyd â samplau o flynyddoedd blaenorol, i raddio'r dŵr fel rhagorol, da, boddhaol neu wael yn unol â rheoliadau Dŵr Ymdrochi y DU.

Bydd y dosbarthiadau'n cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yr hydref hwn, ac wedyn byddwn ni'n diweddaru'r holl broffiliau dŵr ymdrochi ar ein gwefan.

Gallwch ddarllen yr adroddiad dŵr ymdrochi llawn ar gyfer y llynedd (2022) ar ein gwefan.

Camau bach allwn ni gyd eu cymryd

Mwynhewch ein traethau a'n dyfroedd ymdrochi, ond peidiwch â gadael unrhyw olion ar ôl. Cofiwch fynd ag unrhyw sbwriel neu farbeciws wedi'u defnyddio oddi ar y tywod ac i fin cyfagos.

Os oes croeso i gŵn ar draeth cyfagos, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n glanhau unrhyw faw ci a gadael dim ond ôl pawennau ar y tywod.

Gartref, byddwch yn ofalus am yr hyn rydych chi'n ei fflysio i lawr y toiled neu'n ei arllwys 'lawr y sinc. Peidiwch â fflysio weips gwlyb na thywallt saim coginio i lawr y sinc. Gall y rhain flocio'r sinc neu'r toiled a chreu talpiau saim neu 'fat bergs' sy'n achosi i orlifoedd stormydd ollwng carthion i'n dyfroedd yn ddiangen.

Mae rhagor o wybodaeth am sut allwch chi helpu ar gael trwy ymgyrch Stopio'r Bloc Dŵr Cymru.

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru