Ymateb i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Wrth inni gyflwyno ein hymateb i'r ymgynghoriad drwy borth Llywodraeth Cymru, rwyf wedi bod yn myfyrio ar rôl ganolog amaethyddiaeth o ran llunio tirweddau Cymru.
Hoffwn ddechrau trwy fynegi ein cefnogaeth lwyr i'r weledigaeth a fynegir yn "Cadw Ffermwyr i Ffermio." Mae’r cynllun hwn nid yn unig yn cyd-fynd â’r amcanion a amlinellir yn ein Cynllun Corfforaethol, ond hefyd yn cyflwyno cyfle arbennig i ddyfnhau’r broses o integreiddio stiwardiaeth amgylcheddol mewn amaethyddiaeth yng Nghymru.
Drwy gydol y cyfnod ymgynghori, rydym wedi ymgysylltu â ffermwyr, gan gynnal sgyrsiau i ddeall eu barn, a chasglu eu syniadau ar y Cynllun.
Ac rydym yn cytuno ar lawer o elfennau. Rydym hefyd yn argyhoeddedig y dylai ffermwyr gael eu grymuso i sicrhau buddion amgylcheddol – nid ar draul bwyd – ond fel rhan annatod o’r cynnyrch a ddarperir trwy ffermio.
Gwyddom fod pryder ynghylch elfennau’r Cynllun sy’n ymwneud â phlannu coed a chynefinoedd. Ond mae gan y fferm gyffredin eisoes 6 i 7% o orchudd coed, a gall hyn gyfrif tuag at y targed i gyrraedd y rheolau gorchudd coed o 10%. Mewn rhai achosion bydd y gorchudd coedtir llydanddail yn cyfrif tuag at dir a reolir fel cynefin hefyd.
Felly beth yw'r penawdau o'n hymateb?
Lliniaru ar gyfer newid yn yr hinsawdd
Er mwyn parhau i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, bydd angen cymorth ar fusnes fferm hyfyw i baratoi ac ymdopi â newidiadau yn yr hinsawdd. Ac felly, yn ein hymateb, rydym wedi nodi bod angen i ffermwyr fod yn barod i addasu i newid yn yr hinsawdd ar eu ffermydd. Drwy greu cynlluniau, gellir gwneud gwell dewisiadau busnes, a’r cyfan oll tra’n cyflawni dros yr amgylchedd. Gall modelau risg syml roi cyngor i ffermwyr ar sut i atal problemau, ymdrin ag argyfyngau, ac addasu i newidiadau yn y tywydd er enghraifft.
Plannu Coed – angenrheidiol, ond angen mwy o hyblygrwydd.
Rydym yn cefnogi cynyddu gorchudd coed ar ffermydd fel ateb cost-effeithiol sy’n seiliedig ar natur i ddod â gwelliannau amgylcheddol cadarnhaol i ansawdd dŵr, atal llygredd a bioamrywiaeth.
Bydd gan y rhan fwyaf o ffermydd rywfaint o allu i gynyddu gorchudd coed a gwrychoedd a gellir targedu hyn yn ofodol fel bod graddfa a dosbarthiad y coed yn briodol. Gallai coetir newydd ddarparu incwm a chynnyrch newydd i’r ffermydd a buddion ar gyfer cynhyrchiant a lles anifeiliaid yn ogystal â chefnogi cyllidebau carbon ffermydd.
Safleoedd Dynodedig – ariannu camau gweithredu nid cynlluniau
Mae safleoedd dynodedig yn allweddol i adferiad byd natur, ac mae mwyafrif helaeth ein SoDdGAau yn cael eu rheoli gan ffermwyr. Credwn fod yn rhaid gwneud rhai newidiadau i gynigion y Cynllun i wneud yn siŵr na fydd y rhai sydd â thir SoDdGA dan anfantais ariannol.
Mae tua 40% o diroedd comin Cymru hefyd wedi'u dynodi'n SoDdGAau ac rydym yn croesawu'r cynigion ar gyfer datblygu Cynlluniau Rheoli Tir Comin. Ond yr hyn sy'n allweddol i ddyfodol cyfoethog o ran natur yw bod y Cynlluniau hyn wedyn yn arwain at gamau gweithredu.
Amrywiaethu'r cyllid
Mae rhan allweddol o’n hymateb yn ymwneud â chyllid ar gyfer y Cynllun, a sicrhau nad yw’r cyfan yn disgyn ar bwrs y wlad. Rydym yn cynnig bod Llywodraeth Cymru yn cyflymu buddsoddiad gan y sector preifat. Byddai cynllun ariannu mwy creadigol, gan weithio gyda defnyddwyr a chadwyni cyflenwi, yn helpu i gyflawni gwir botensial a gwerth y Cynllun.
Gallai defnyddio cyllid gwyrdd ddod â’r buddsoddiad sydd ei angen ar gyfer arferion ffermio cynaliadwy a systemau bwyd atgynhyrchiol a darparu sefydlogrwydd hirdymor i’r ffermwr.
Rydym bellach wedi cyflwyno ein hymateb i’r ymgynghoriad ac yn edrych ymlaen at barhau â’n gwaith gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y misoedd nesaf i ddatblygu a chyflawni Cynllun Ffermio Cynaliadwy uchelgeisiol a llwyddiannus.
Rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan bob cam o’r ffordd, gan feithrin tirwedd lle mae ffermio a byd natur yn ffynnu gyda’i gilydd.