Ymateb ac adfer o Stormydd Dudley, Eunice a Franklin
Ddwy flynedd ar ôl y dinistr a achoswyd gan lifogydd Chwefror 2020, wynebodd y DU ddicter tair storm o fewn llai nag wythnos (16 – 21 Chwefror 2022).
Tarodd stormydd Dudley, Eunice a Franklin lannau'r DU mewn olyniaeth gyflym, gan ddod â gwyntoedd a glaw a fyddai'n arwain at broblemau eang mewn cymunedau ledled y wlad.
Mae'r effeithiau ar bobl, eiddo, bywoliaeth a'n hamgylchedd naturiol wedi bod yn helaeth, ac rydym yn meddwl am y rhai sy'n parhau i deimlo'r effeithiau heddiw.
Mae amlder a ffyrnigrwydd digwyddiadau tywydd o'r fath yn cael eu hystyried fwyfwy yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd, gan godi cwestiynau sylweddol am sut yr ydym yn ymateb i ddigwyddiadau o'r fath yn awr a sut y mae'n rhaid inni addasu i'r hyn a ddaw yn y dyfodol.
Mae Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn myfyrio ar y digwyddiadau ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth i baratoi am, ymateb i ac adfer o dywydd mwy eithafol yn y dyfodol.
Rhoi'r paratoadau ar waith
Yn sicr, mae wedi bod yn wythnos brysur i Cyfoeth Naturiol Cymru a'n partneriaid. Am y tro cyntaf ers i'r Swyddfa Dywydd ddechrau enwi stormydd yn 2015, cawsom dri mewn wythnos, a chyhoeddwyd dau Rybudd Tywydd Coch ledled y DU - un ohonynt yn rhychwantu Arfordir de Cymru - wrth i Storm Eunice dresmasu ar ein glannau.
Yn y cyfnod paratoi, sawl diwrnod yn flaenorol, roeddem wrthi’n ymgysylltu â'n cydweithwyr yn y Swyddfa Dywydd a'r Ganolfan Darogan Llifogydd (FFC), gan fynychu sesiynau briffio a rhannu gwybodaeth am effeithiau posibl gyda Llywodraeth Cymru a'n partneriaid er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi mesurau cyflym a phriodol ar waith.
Mae'r wybodaeth y maent yn ei rhoi i ni, ac asiantaethau eraill ledled y DU yn amhrisiadwy – yn enwedig pan fo llwybr ac effeithiau'r stormydd mor anrhagweladwy â'r rhai a brofwyd gennym yr wythnos diwethaf.
Maen nhw’n rhannu data a dadansoddiadau manwl, technegol ar yr ystod o bosibiliadau yn y rhagolygon, gan ein helpu i wneud penderfyniadau sy'n ymwneud ag effeithiau posibl llifogydd ac amgylcheddol yma yng Nghymru.
Mae eu harbenigedd hefyd yn llywio sut rydym yn cyfleu risgiau posibl i'r cyhoedd er mwyn sicrhau eu bod yn gallu paratoi a chymryd y camau angenrheidiol i amddiffyn eu hunain rhag effeithiau gwaethaf y stormydd. Wrth i'r sefyllfa ddwysáu, gwelwyd ein llefarwyr rhagorol ar gyfryngau cenedlaethol a rhanbarthol, gan rybuddio a hysbysu gwrandawyr a gwylwyr am y risgiau oedd yn esblygu a'r hyn yr oedd angen iddynt ei wneud i sicrhau eu diogelwch eu hunain a diogelwch eu hanwyliaid.
Ar lawr gwlad Cymru, roedd ein timau gweithredol medrus iawn yn dechrau gweithredu, gan wirio bod amddiffynfeydd rhag llifogydd mewn lleoliadau allweddol ar hyd yr arfordir a'r mewndirol mewn cyflwr da i leihau'r perygl o lifogydd i bobl ac eiddo. Roedd ein cydweithwyr sy'n rheoli a gofalu am Ystâd Goed Llywodraeth Cymru hefyd wrthi’n sicrhau bod ein coetiroedd, ein llwybrau a'n canolfannau ymwelwyr yn barod am yr effeithiau, gan wneud penderfyniadau hanfodol i gau ein safleoedd i ymwelwyr er mwyn sicrhau eu diogelwch parhaus.
Storm Dudley
Bu i Storm Dudley lanio ar Ddydd Mercher 16 Chwefror, gan sbarduno rhybudd melyn am wynt a ledaenodd ar draws y rhan fwyaf o Gymru. Er bod ei effeithiau'n cael eu teimlo fwyaf ar draws Gogledd y DU, roedd rhywfaint o ddifrod i'r gwynt yng Nghymru, gyda Chapel Curig yn cofrestru hyrddiau o hyd at 81mya.
Storm Eunice
Heb ysbaid, roedd Storm Eunice yn cryfhau wrth iddo lwybro ar draws yr Iwerydd, gan ddod â'r bygythiad o wyntoedd cryfion iawn a'r potensial ar gyfer effeithiau llifogydd arfordirol a fyddai'n rhychwantu arfordir Cymru gyfan.
Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd ddau Rybudd Coch prin ar gyfer Gwynt ar gyfer 18 Chwefror, gan nodi y byddai 'perygl i fywyd' i'r rhai oedd byw yn yr ardaloedd rhybudd. Roedd hyn yn cynnwys cymunedau ar hyd arfordir De Cymru.
Roedd yr ansicrwydd o ran amseriad a lleoliad gwyntoedd cryfaf Eunice yn peri anawsterau sylweddol wrth geisio rhagweld effeithiau posibl.
Penderfynodd ein timau rheoli tir i gau ein canolfannau ymwelwyr, llwybrau cerdded a beicio mynydd ar safleoedd ledled Cymru, gan gynnwys Coed y Brenin a Choedwig Afan. Roedd y maes parcio ar Draeth Llanddwyn ar Ynys Môn hefyd ar gau i ymwelwyr.
Roedd posibilrwydd realistig iawn y byddai’r gwyntoedd cryfaf ar y tir ag anterth y storm yn cyd-daro â'r llanw uchaf. Byddai hyn yn creu cymysgedd grymus a pheryglus iawn a gallai fod wedi arwain at ymchwydd stormydd o 2 fetr a mwy ynghyd ag a llifogydd sylweddol i gymunedau arfordirol.
Roedd hwn yn ystyriaeth barhaol i’n tîm rhagweld arbenigol. Roedd hon yn senario eithriadol ac yn her i nodi ble yn union y byddai'r cyfuniad hwnnw'n digwydd.
Drwy'r amser, roeddem yn parhau i weithio gyda'n partneriaid proffesiynol i gynllunio ar gyfer ac ymateb i'r tywydd, gan gadeirio a mynychu nifer o gyfarfodydd ymateb strategol a thactegol a gweithio ar lawr gwlad i wirio a chodi amddiffynfeydd a chau ein coetiroedd, ein llwybrau a'n meysydd parcio er diogelwch staff ac ymwelwyr.
Doedd dim gwadu mai'r neges gan y Swyddfa Dywydd, pob lefel o lywodraeth, CNC a'n partneriaid oedd bod gan Storm Eunice y potensial i fod yn un o'r stormydd mwyaf arwyddocaol a brofwyd erioed ar lannau'r DU, ac roedd yr angen i baratoi'n effeithiol yn hanfodol.
Mae'r Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd mae CNC yn ei weithredu yn elfen allweddol o’n gwasanaeth rheoli perygl llifogydd. Mae'r gwasanaeth am ddim hwn yn darparu gwybodaeth hanfodol i gwsmeriaid sydd wedi cofrestru mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd a'r môr, gan roi rhybudd ymlaen llaw ac felly amser i bobl gymryd camau i ddiogelu eu hunain a'u heiddo.
Cyn i Storm Eunice gyrraedd, oherwydd y potensial sylweddol ar gyfer effeithiau eang ar draws arfordir Cymru gyfan a'r heriau o ran nodi ble yn union y byddai'n gweld yr effeithiau gwaethaf, gwnaethom y penderfyniad i gyhoeddi Rhybuddion Llifogydd ar gyfer ein holl ardaloedd rhybuddion llifogydd arfordirol – cyfanswm o 113 – er mwyn sicrhau bod gan bobl yr amser i baratoi yn unol â hynny.
Gweithiodd ein timau rhagweld, rhybuddio ac ymateb i ddigwyddiadau yn ddiflino i ddelio â darlun deinamig oedd yn newid yn barhaus, i ddehongli'r data, gwneud penderfyniadau, hysbysu pobl a gweithredu ar lawr gwlad.
Wrth i lanw uchel fynd heibio ledled Cymru yn ystod bore Gwener, dilynodd y tonnau a'r ymchwydd yr amcangyfrifon gorau. Roeddem yn ffodus iawn nad oedd y gwyntoedd cryfaf yn cyd-daro â llanw uchel – roedd yr ymylon yn eithriadol o agos. Pe bai'r posibilrwydd realistig iawn hwnnw wedi'i wireddu, byddai arfordir Cymru siwr o fod wedi profi effeithiau llifogydd sylweddol a difrifol iawn. Diolch byth, ni welsom yr amcanestyniadau achos gwaethaf a gwnaeth ein hamddiffynfeydd arfordirol eu gwaith i helpu i ddiogelu'r cymunedau sydd y tu ôl iddynt.
Arweiniodd gwyntoedd cryfion at rywfaint o ddifrod i goed ar draws ystâd y coetir ond ychydig iawn o effaith a gafwyd i'n coedwigoedd a'n coetiroedd. Rydym yn parhau i archwilio am ddifrod ac yn gwneud ardaloedd yn ddiogel yn ôl yr angen. Rydym bob amser yn gwneud hynny yn dilyn cyfnodau o dywydd garw.
Storm Franklin
Yn ddi-oed, cafodd Storm Franklin ei henwi, gan ddod â bandiau pellach o law trwm a gwyntoedd cryfion i Gymru dros y penwythnos - yn enwedig ar draws Canolbarth Cymru ar Ddydd Sul 20 Chwefror 2022.
Gyda'r tir eisoes yn ddirlawn a lefelau afonydd yn uchel, byddai effaith glawiad pellach yn gweld afonydd yn ymateb yn gyflym, cyhoeddwyd rhagor o Rybuddion Llifogydd ar gyfer Canolbarth Cymru yn benodol.
Parhaodd ein hymgysylltiad â Llywodraeth Cymru, ein partneriaid a'r cyhoedd wrth i ni annog y rhai sy'n byw mewn ardaloedd sydd mewn perygl i fod yn wyliadwrus ac i fod yn barod i weithredu pe bai rhybudd yn dod i law.
Roedd rhannau helaeth o dir isel yn nalgylchoedd Hafren, Tefeidiad, Efyrnwy, Gwy ac Wysg wedi'u gorlifo gan ddŵr llifogydd gydag adroddiadau o tua 50 o eiddo wedi dioddef llifogydd.
Cofnodwyd lefelau dŵr uchaf erioed mewn rhai ardaloedd – gan dorri rhai o'r cofnodion a osodwyd yn ystod Storm Dennis ddwy flynedd yn ôl.
Gwelwyd lefelau uchaf erioed ar Afon Hafren yn y Drenewydd, Llanidloes a Munlyn; ar Afon Tefeidiad yn Dutlas a Threfyclo ac ar Afon Efyrnwy ym Meifod. Cofnodwyd lefelau afonydd eithriadol o uchel hefyd ar Afon Efyrnwy a Gwy Uchaf.
Ein hamddiffynfeydd a'n Rhybuddion Llifogydd
Er bod rhai pobl wedi profi llifogydd, mae ein hamddiffynfeydd, sydd o fudd i 73,000 o eiddo, wedi gwneud eu gwaith o ran lleihau'r risg i filoedd o bobl. Mae buddsoddiadau a wnaed i'r seilwaith hanfodol hyn ers digwyddiadau llifogydd mawr blaenorol wedi gwella ein gwydnwch yn sylweddol ac wedi lleihau'r perygl o lifogydd i'r cymunedau y tu ôl i’r amddiffynfeydd.
Roedd yr ansicrwydd ynghylch ble yn union y byddai'r effeithiau arfordirol ar eu mwyaf a lle byddai'r glawiad trymaf yn disgyn yn gwneud y gwaith o ragweld lle byddai’r effeithiau mwyaf yn llawer anoddach. Ond gwnaethom ein gwaith a chyhoeddi rhybuddion yn gyflym ac yn fanwl wrth i'r stormydd ein cyrraedd.
Ac roedd nifer y rhybuddion a'r rhybuddion a gyhoeddwyd dros y cyfnod hwn yn sylweddol. Cyhoeddom 142 o Rybuddion Llifogydd a 68 o Rybuddion Llifogydd gyda dros 76,550 o eiddo wedi'u rhybuddio o bosibl.
Er ei bod yn dorcalonnus clywed am yr effeithiau llifogydd a brofwyd, mae gwaith diflino ein holl staff wedi ein galluogi i sicrhau ein bod wedi gallu rhybuddio am y rhagolwg yn gynnar, gan helpu i leihau’r effeithiau ar gyfer llawer o bobl.
Y camau nesaf
Nid yw ein gwaith yn dod i ben ar ôl i'r stormydd fynd heibio. Mae ein timau wedi bod allan o gwmpas y wlad yn gwirio amddiffynfeydd rhag llifogydd ar gyfer difrod a chlirio malurion, a hefyd yn gwirio’n gwarchodfeydd natur ar gyfer difrod a’n coedwigoedd am goed sydd wedi cwympo. Byddwn hefyd yn gwirio ein rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio mynydd ac yn clirio unrhyw rwystrau. Mae rhai yn parhau i fod ar gau tra bydd y gwaith pwysig hwn yn mynd rhagddo.
Yn union fel y gwnawn ar ôl pob digwyddiad arwyddocaol, byddwn yn adolygu'r gwaith a wnaethom yn y cyfnod cyn, yn ystod ac yn dilyn y stormydd i weld a oes gwersi i'w dysgu a gwelliannau y gallwn eu gwneud.
O'n rheolwyr tir i'n timau perygl llifogydd, i bawb sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni, rwy'n falch o gydnabod y gwaith gwych sydd wedi'i wneud - ac sy'n parhau i fynd ymlaen - yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Newid yn yr hinsawdd
Mae newid yn yr hinsawdd yn achosi tywydd mwy eithafol ac rydym yn sicr o weld mwy o'r mathau o stormydd a welsom yn ddiweddar yn y dyfodol.
Mae'r adroddiad diweddaraf heddiw gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yn rhybudd amlwg o wir raddfa'r addasiad byd-eang a'r gwydnwch brys i’r newid yn yr hinsawdd sydd ei angen yn awr os ydym am arfogi ein hunain ar gyfer yr heriau hinsawdd sydd o'n blaenau.
Rhaid inni dderbyn na allwn atal y glaw a bod rhywfaint o lifogydd yn anochel. Mae ein neges i bobl yn glir - dim ond am nad yw llifogydd wedi digwydd i chi yn y gorffennol, nid yw'n golygu na fydd yn digwydd yn y dyfodol.
Bydd amddiffynfeydd rhag llifogydd bob amser wrth wraidd rheoli risg, ond mae angen i bob un ohonom addasu i'r hinsawdd sy'n newid. Mae hyn yn golygu gwneud penderfyniadau mawr am sut a ble rydym yn byw a gweithio a dysgu byw gyda mwy o ddŵr - a gwneud hynny'n well nag erioed o'r blaen.
Mae angen inni adeiladu neu drosi eiddo i fod yn fwy gwydn i ddŵr llifogydd, fel y gall pobl a busnesau fynd yn ôl yn gyflymach pan fydd y dyfroedd yn dechrau codi.
Bydd angen i ni hefyd fod yn fwy arloesol ac edrych ar ddulliau newydd o weithio'n fwy effeithiol gyda thirfeddianwyr i wneud lle i'r cyfaint enfawr o ddŵr rydym yn ei weld yn ystod llifogydd.
Mae'n amlwg, er nad yw hyn yn ymwneud â chynllunio ar gyfer y dyfodol yn unig, fod effeithiau newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn awr, ac mae'r angen i addasu i'r newidiadau hyn yn real ac yn bwysig.
Yr hyn y gallwn ni i gyd ei wneud
Rhaid i bob un ohonom addasu'r ffordd rydym yn byw ac yn gweithio wrth i'r argyfwng hinsawdd esblygu – i ddysgu byw gydag amrywiadau mewn tymheredd a mwy o ddŵr ac i gefnogi ein cymunedau i fod yn wyliadwrus ac yn fwy gwydn i dywydd eithafol amlach.
Mae datblygiadau yn yr ystod o wasanaethau sydd ar gael ar ein gwefan yn golygu bod gan bobl bellach fwy o wybodaeth ar gael iddynt i gymryd eu camau paratoadol eu hunain. Gall pobl nawr nodi eu perygl llifogydd yn y dyfodol drwy roi cod post. Mae ein gwefan hefyd yn cynnwys gwybodaeth am beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd a sut i ymuno â system rhybuddion llifogydd rhad ac am ddim CNC. Mae ein Map Llifogydd newydd ar gyfer Cynllunio hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar berygl llifogydd dros y ganrif nesaf.
Mae effaith newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth i bob un ohonom fynd i'r afael ag ef ar y cyd ac mae'n fater y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef yn ddi-oed.