CNC yn annog gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd wrth i COP28 ddechrau
Wrth i arweinwyr y byd ymgynnull yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Dubai, sef COP28, mae Clare Pillman, Prif Swyddog Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru, yn pwysleisio'r angen am weithredu brys i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd. Yn ei barn hi, mae mabwysiadu dull Tîm Cymru o weithredu yn allweddol i sicrhau dyfodol sero net.
Pan fydd arweinwyr y byd yn ymgynnull i drafod newid hinsawdd, rydym yn aml yn clywed dyfyniadau o’r adroddiadau diweddaraf gan rai o wyddonwyr mwyaf blaenllaw y byd, pob un yn tanlinellu difrifoldeb yr argyfwng hinsawdd byd-eang a’r angen dybryd i weithredu.
Mae'r penawdau, sydd bob amser yn ddifrifol iawn, hefyd yn anghyfforddus o gyfarwydd erbyn hyn.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd ei Adroddiad Synthesis diweddaraf - penllanw blynyddoedd o waith yn crynhoi'r wyddoniaeth ddiweddaraf a phwysicaf ar newid hinsawdd. Fe’i disgrifiwyd gan Brif Weithredwr y Cenhedloedd Unedig fel ‘canllaw goroesi ar gyfer dynoliaeth’ – dogfen oedd yn darparu tystiolaeth gadarn o’r achosion, yr effeithiau, a'r atebion posibl i’r newid yn yr hinsawdd.
Rydym hefyd yn aml yn myfyrio ar y newid hinsawdd sydd yn digwydd ar hyn o bryd – y lluniau dirdynnol a welwn o bob rhan o’r byd o drychinebau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd, gyda thanau gwyllt ffyrnig a llifogydd difrifol yn dinistrio bywydau ac yn gorfodi miliynau i ffoi o’u cartrefi.
Ac nid dim ond problem sy'n wynebu pobl eraill mewn gwledydd pell yw hon. Mae newid hinsawdd yn digwydd nawr yn ein cymunedau ein hunain. O’r sychder y llynedd i’r llifogydd a’r pedair storm a enwyd yr ydym eisoes wedi’u dioddef yr hydref hwn, mae newid hinsawdd yn broblem drychinebus, ac yn broblem go iawn.
Mae’r drychineb yn datblygu ar hyn – a dyma’r union reswm pam fod angen gweithredu’n drawsnewidiol, a hynny ar frys.
Yn gynharach eleni, lansiodd CNC ein cynllun corfforaethol hyd at 2030 – sef ‘Byd Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda’n Gilydd’.
Yn y cynllun hwn, rydym wedi gosod tri amcan llesiant i’n hunain a fydd yn ein tywys ar ein taith er mwyn helpu i sicrhau bod Cymru’n gweithredu i gyrraedd targedau 2030 er lles yr hinsawdd – ac er lles byd natur hefyd. Mae’r cynllun yn nodi sut y byddwn yn defnyddio’r degawd tyngedfennol hwn fel sbardun ar gyfer cyflawni targedau rhyngwladol ehangach.
Mae’r cynllun hefyd yn nodi sut y byddwn yn cefnogi camau gweithredu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud Cymru'n wlad sero net erbyn 2050. Mae hefyd yn amlinellu sut y byddwn yn cyflymu camau gweithredu er mwyn addasu a lliniaru’r bygythiad i gymunedau a bywyd gwyllt a ddaw yn sgil planed sy’n cynhesu.
Mae'r cynllun yn cynrychioli newid sylweddol yn y ffordd y byddwn yn ysgogi’r newidiadau polisi sydd eu hangen i fynd i'r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd. A phan fydd cynnydd ar ein hamcanion yn cael ei arafu neu ei lesteirio gan amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth, byddwn yn defnyddio ein llais i alw am newid.
Mae’n gynllun sy’n falch o fod yn uchelgeisiol ac mae’n nodi lle gall CNC gyfrannu, mewn modd unigryw, i fynd i’r afael â her yr hinsawdd.
Gwyddom y bydd yn rhaid inni addasu'r ffordd yr ydym yn gweithio er mwyn cyrraedd cerrig milltir yn y dyfodol, ac mae ein cynllun yn amlinellu sut yr ydym yn mynd i wneud y newidiadau hynny dros y degawd tyngedfennol hwn.
Ond ni allwn ei wneud ar ein pen ein hunain.
Rhaid i ni ddod â phawb gyda ni ar y daith hon o fynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.
Tra bo arweinwyr y byd yn Dubai yn trafod camau brys i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn nes adref bydd Wythnos Hinsawdd Cymru yn cael ei chynnal yr wythnos nesaf.
Bydd y sesiynau, a fydd yn cael eu cyflwyno fel rhan o ddigwyddiad wythnos-o-hyd, yn archwilio'r thema o "degwch" yng nghyd-destun newid hinsawdd, a'r syniad y dylai'r egwyddor arweiniol o beidio â gadael neb ar ôl fod yn ganolog i'r ffordd yr ydym yn mynd i'r afael â newid hinsawdd.
Bydd CNC yn cefnogi’r wythnos pan fyddwn yn cyflwyno sesiwn ar Ymwreiddio Tegwch i'n Dull o Addasu i Newid Hinsawdd ddydd Mawrth (5 Rhagfyr).
Roedd tegwch, cyfiawnder cymdeithasol, mynediad cyfartal, defnydd teg o dir, ac atebolrwydd am ein gweithredoedd yn themâu allweddol a ddaeth i’r amlwg yn ein sgwrs genedlaethol Natur a Ni a gynhaliwyd y llynedd. Mae hyn wedi arwain at greu gweledigaeth ar gyfer 2050, wedi’i chreu a’i hysbrydoli gan bobl Cymru, a gyhoeddwyd yn ystod yr haf. Byddwn yn rhannu ein hymateb i’r weledigaeth honno fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru.
Mae ein cynllun corfforaethol ein hunain hefyd yn dangos sut yr ydym yn mynd i wella ein ffocws ar gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, gan sicrhau bod cyflawni dros gymunedau gwledig a threfol ledled Cymru wrth wraidd popeth a wnawn.
Mae'r cynllun yn ei gwneud yn glir sut y gallwn wneud gwahaniaeth gan ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym, ond mae hefyd yn nodi’r meysydd lle bydd angen inni addasu ein ffordd weithio, ac arloesi a chydweithio er mwyn sicrhau newid sy’n deg ac yn gyfiawn, gan adael neb ar ôl.
Mae cyfiawnder cymdeithasol ac adferiad amgylcheddol yn anwahanadwy – maent yn ddwy ochr i un geiniog. Ni allwn fynd i’r afael â’r naill heb fynd i’r afael â’r llall.
Ond os awn i'r afael â nhw gyda'i gilydd, gallwn ddychmygu dyfodol lle bydd byd natur a phobl wir yn ffynnu gyda'n gilydd, mewn ffordd sy'n gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Yn y sesiwn hon, bydd staff CNC yn ystyried yr angen am degwch a dull cyfiawn fel rhan o’n gwaith ar agweddau megis rheoli perygl llifogydd a rheoli’r arfordir.