Cyfres newydd o weminarau SoNaRR 2025 yn lansio ym mis Medi

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn lansio cyfres newydd o weminarau yr hydref hwn i helpu partneriaid, rhanddeiliaid ac ymarferwyr i archwilio'r dystiolaeth a'r mewnwelediadau ymarferol o Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) 2025.

Mae'r gyfres yn gyfle i ddeall yn well yr heriau sy'n wynebu amgylchedd naturiol Cymru a'r camau sydd eu hangen i ysgogi newid cadarnhaol.

Gan redeg rhwng mis Medi a mis Rhagfyr, bydd y sesiynau ar-lein rhad ac am ddim yn archwilio rhai o themâu allweddol yr adroddiad ac yn dangos sut y gall tystiolaeth lywio polisi, cynllunio, gwneud penderfyniadau a gweithredu ymarferol ledled Cymru.

Mae SoNaRR 2025 yn amlygu'r pwysau sylweddol sy'n wynebu amgylchedd naturiol Cymru a'r angen am weithredu ar draws y system gyfan i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi llwybrau ymarferol ar gyfer newid mewn meysydd fel bwyd, ynni, teithio a'r amgylchedd adeiledig.

Bydd y gyfres o weminarau yn rhoi cyfle i glywed yn uniongyrchol gan arbenigwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, gofyn cwestiynau, ac archwilio sut y gellir defnyddio'r dystiolaeth ddiweddaraf i gefnogi penderfyniadau a gweithredu yn eich maes gwaith eich hun.

Beth i'w ddisgwyl

Bydd pob gweminar yn canolbwyntio ar:

  • Beth mae'r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym
  • Pam mae'n bwysig
  • Beth sydd eisoes yn gweithio
  • Y ffactorau sy'n sbarduno newid a'r cyfleoedd i weithredu
  • Sut y gellir defnyddio'r dystiolaeth yn ymarferol

Bydd pob sesiwn yn cynnwys cyfle i ofyn cwestiynau drwy sesiwn Holi ac Ateb, a bydd recordiadau a deunyddiau ategol ar gael wedi'r digwyddiad. 

Rhaglen y gweminarau

Dyddiad

Pwnc

Teitl

16 Medi, 12pm

Morol

Tystiolaeth yn sbarduno camau gweithredu dros foroedd Cymru

14 Hydref, 1pm

Dŵr croyw a physgodfeydd

Tystiolaeth yn sbarduno camau gweithredu dros afonydd Cymru

4 Tachwedd, 2pm

Rheoli tir yn gynaliadwy a choetiroedd

Tystiolaeth yn sbarduno gweithredu dros dir Cymru

17 Tachwedd, 11am

Bioamrywiaeth

Tystiolaeth yn sbarduno gweithredu dros anifeiliaid a phlanhigion Cymru

10 Rhagfyr, 2pm

Amgylcheddau trefol

Tystiolaeth yn sbarduno gweithredu dros Gymru Drefol

 

Pwy ddylai fynychu?

Mae'r weminarau yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol adnoddau naturiol Cymru, gan gynnwys:

  • Cyrff cyhoeddus
  • Sefydliadau amgylcheddol a chadwraeth
  • Sefydliadau academaidd ac ymchwil
  • Busnesau a chynrychiolwyr diwydiant
  • Llunwyr polisi ac ymarferwyr
  • Grwpiau cymunedol ac unigolion sydd â diddordeb

P'un a ydych yn defnyddio tystiolaeth i lywio penderfyniadau, datblygu polisi neu gyflawni prosiectau ar lawr gwlad, bydd y sesiynau hyn yn cynnig mewnwelediadau defnyddiol a chyfleoedd i drafod gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru.

Cofrestrwch nawr

Mae'r sesiynau yn rhad ac am ddim, ond mae angen cofrestru ymlaen llaw.

Cofrestrwch ar gyfer cyfres weminarau SoNaRR 2025:
SoNaRR 2025: Cyfres o Weminarau - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space

Rhagor o wybodaeth

 

Archwilio mwy

Yn yr adran hon hefyd

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru