Mae ar Natur am Byth eich angen chi! – Sut y gall gwirfoddoli helpu rhywogaethau Cymru sydd fwyaf mewn perygl

Mae prosiectau cadwraeth ledled Cymru yn derbyn gwirfoddolwyr i helpu i roi hwb i boblogaethau'r rhywogaethau sydd fwyaf mewn perygl yn y wlad.
Natur am Byth (NaB) yw partneriaeth adfer rhywogaethau flaenllaw Cymru a’i nod yw gweithio ochr yn ochr â chymunedau lleol i ddiogelu rhywogaethau sydd dan fygythiad drwy reoli cynefinoedd mewn modd wedi’i dargedu, drwy hybu ymdrechion monitro, a thrwy ledaenu ymwybyddiaeth o’r planhigion, anifeiliaid a ffyngau prin a geir ar garreg drws pobl.
Diolch i’r cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, CNC ac eraill, mae rolau gwirfoddoli newydd wedi’u proffilio ar hyd a lled y wlad o fewn pob un o’r 11 prosiect seiliedig ar le, pob un yn cael ei arwain gan bartner gwahanol o fewn y cydweithrediad. Ond mae cymaint i'w wneud o hyd a dyna lle’r ydych chi'n dod i’r adwy.
Fel gwirfoddolwyr, gallech fod yn gwneud unrhyw nifer o swyddi sy'n helpu ymdrechion cadwraeth NaB, o gasglu samplau ansawdd dŵr, adeiladu blychau ystlumod a monitro blodau prin, i helpu i redeg digwyddiad cymunedol.
Mae pob ymdrech, mawr a bach, yn mynd yn bell i helpu ein timau i gyflawni eu nodau wrth ddarparu profiad gwaith ymarferol i chi mewn meysydd fel cadwraeth, ecoleg a'r gwyddorau naturiol.
Ar hyn o bryd, mae 11 o brosiectau wedi’u neilltuo ar gyfer 67 o rywogaethau mwyaf agored i niwed Cymru, pob un ar hyn o bryd yn chwilio am wirfoddolwyr awyddus i gymryd rhan. Dewiswch o blith y canlynol:
Prosiect |
Nod |
Lleoliad |
Gweithredu dros Wiberod[GE1] |
Gweithio ledled Cymru i helpu i ddeall a dechrau mynd i’r afael â’r gostyngiadau diweddar (ac a allai fod yn rhai brys) ym mhoblogaethau gwiberod. |
Gŵyr, Ynys Môn a Sir Benfro |
Y Fritheg Frown |
Ar flaen y gad yn yr ymdrechion cadwraeth ar gyfer y fritheg frown – y glöyn byw sydd fwyaf mewn perygl yn y DU.
Gallwch ddarllen am ymweliad diweddar y Prif Weinidog, Eluned Morgan, â’r prosiect yma. |
Bro Morgannwg |
Plantlife |
Cynyddu’r ymdrech fonitro ar gyfer cennau a bryoffytau prin coed hynod ledled Canolbarth Cymru. |
Powys |
Plantlife |
Gweithio gyda gwirfoddolwyr, tywyswyr mynydd, meithrinfeydd planhigion lleol, gerddi botaneg, rheolwyr tir ac arbenigwyr i adfywio poblogaethau planhigion ac infertebratau mynyddig prin yn Eryri. |
Eryri |
Plantlife
|
Cefnogi’r gwaith o reoli gwarchodfeydd natur, monitro brain coesgoch (un o adar magu pwysicaf Cymru), a helpu i ddatrys ecoleg ddirgel cen sy'n diflannu – Cladonia peziziformis, sef y cen byseddog. |
Gogledd-Orllewin Cymru |
Bae Abertawe – Arfordiroedd, Tiroedd Comin a Chymunedau Buglife |
Gweithio gyda phartneriaid a chymunedau i gynnal ymyriadau cadwraeth amserol a phenodol ar gyfer 13 o rywogaethau prin y nodwyd eu bod mewn perygl o ddiflannu’n lleol ac yn rhanbarthol. |
Abertawe |
Pryf y Cerrig Isogenus nubecula Buglife |
Mae poblogaeth olaf y DU o Isogenus nubecula (pryf y cerrig) i’w chael ar afon Dyfrdwy, ac rydym yn gweithio i ddeall yr ecoleg yn well ac ymgysylltu ag aelodau’r cyhoedd am bwysigrwydd y pryf carreg hwn. |
Gogledd-ddwyrain Cymru |
Y Gymdeithas Cadwraeth Forol |
Ystod enfawr o gyfleoedd gwirfoddoli, o gasglu samplau ansawdd dŵr mewn mannau strategol ar hyd yr arfordir, glanhau traethau, a chefnogi monitro hirdymor o wystrys brodorol a ryddhawyd yn Sir Benfro. |
Gogledd-orllewin Cymru a Sir Benfro |
Yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod |
Gyda chymorth gwirfoddolwyr lleol, rydym yn cynnal monitro acwstig goddefol mewn lleoliadau allweddol ar draws Abertawe i leoli'r llwybrau y mae ystlumod pedol lleiaf yn eu defnyddio i hedfan i mewn i Benrhyn Gŵyr, ac oddi yno, lle maent yn clwydo. |
Abertawe |
Yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn |
Mae angen mwy o ymdrech fonitro ar nifer o safleoedd ar gyfer un o wenyn cacwn y DU sydd dan y bygythiad mwyaf – y gardwenynen feinlais (Bombus sylvarum). |
Sir Benfro, Gwastadeddau Gwent a Chynffig |
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent |
Hyrwyddo’r ystlum du dirgel, Barbastella barbastellus, trwy adeiladu blychau ystlumod i’w gosod mewn coetiroedd yng ngogledd a de Sir Benfro, a gwneud gwaith monitro acwstig. |
Sir Benfro |
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o un neu fwy o’r prosiectau gwych hyn, dilynwch y dolenni prosiectau unigol neu cysylltwch â NaB yn uniongyrchol yn naturambyth@naturalresourceswales.gov.uk
Rydym yn croesawu pawb i ymuno â thaith Natur am Byth – defnyddiwch #NaturAmByth ar eich cyfryngau cymdeithasol i chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli ar draws ein platfformau, ac edrychwch ar ein gwefan neu cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr y rhaglen i gael rhagor o wybodaeth.