Rheoli coed a rhwystrau mewn afonydd: dod o hyd i'r cydbwysedd cywir
Mae coeden sydd wedi cwympo ar draws afon yn aml yn achosi pryder. A fydd yn achosi llifogydd? A ddylid ei symud ar unwaith? A phwy sy’n gyfrifol am ddatrys y sefyllfa?
Dyma gwestiynau y mae ein timau'n eu derbyn yn rheolaidd, yn enwedig yn ystod cyfnodau o law trwm neu yn dilyn stormydd. Yn reddfol, ein hymateb yw bod angen clirio pob rhwystr cyn gynted â phosibl, ond mae'r realiti yn aml yn fwy cymhleth. Mewn sawl achos, gall coed a deunydd pren mewn afonydd gynnig buddion amgylcheddol pwysig, ac mewn rhai lleoliadau, gallant hyd yn oed helpu i leihau'r perygl llifogydd.
Dyna pam mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn mabwysiadu dull cytbwys, sy'n seiliedig ar risg, wrth benderfynu a oes angen ymyrryd.
Deall rôl CNC
Mae llawer o bobl yn synnu o glywed mai dim ond un o blith sawl sefydliad sy'n gyfrifol am reoli perygl llifogydd yng Nghymru yw CNC. Ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, awdurdodau priffyrdd, cwmnïau dŵr, perchnogion seilwaith a thirfeddianwyr preifat, mae gennym ni i gyd gyfrifoldebau gwahanol dros gyrsiau dŵr a rheoli risg llifogydd.
Mae pwerau Rheoli Perygl Llifogydd CNC yn berthnasol i 'Brif Afonydd' statudol y gallwch weld map ohonynt gan ddefnyddio'r dolenni isod. Fodd bynnag, yn gyffredinol mae ein pwerau yn ganiataol yn hytrach nac yn orfodol. Mae hyn yn golygu, er y gallwn ymgymryd â gwaith lle bo'n briodol, nid oes yn rhaid i ni yn ôl y gyfraith gael gwared ar bob rhwystr na gwneud gwaith cynnal a chadw ym mhob lleoliad.
Felly mae ein penderfyniadau'n canolbwyntio ar reoli risg lle bydd ymyrryd o'r budd mwyaf i bobl, cymunedau a seilwaith hanfodol. Gallwch ddarllen mwy am y dull hwn o flaenoriaethu cyllid ar gyfer cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf yn Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru
Pam mae rhwystrau mewn afonydd yn bwysig
Gall coed, canghennau a malurion eraill rwystro llif dŵr weithiau. Mewn ardaloedd lle mae cartrefi, busnesau a seilwaith allweddol yn aml wedi'u lleoli'n agos at afonydd, mae gan rwystr sylweddol y potensial i gynyddu'r perygl llifogydd.
Er enghraifft, gallai coeden fawr sydd wedi cwympo sy'n culhau sianel afon gyfyngu ar lif a chynyddu lefelau dŵr i fyny'r afon yn ystod glaw trwm. Os yw eiddo cyfagos eisoes dan fygythiad llifogydd, gall hyn gyfiawnhau ymchwiliad neu gamau gweithredu pellach.
Fodd bynnag, nid yw pob rhwystr yn creu problem. Mae angen ystyried y lleoliad, y defnydd tir cyfagos, nodweddion yr afon a'r canlyniadau posibl cyn gwneud penderfyniad.
Pryd y gallai CNC ymyrryd
Ein blaenoriaeth yw amddiffyn pobl a chymunedau rhag llifogydd.
Byddwn fel arfer yn ystyried ymyrryd pan fydd rhwystr:
- Yn creu perygl llifogydd uniongyrchol i gartrefi, busnesau neu gymunedau.
- Yn bygwth seilwaith perygl llifogydd hanfodol, fel amddiffynfeydd rhag llifogydd y mae CNC yn eu cynnal.
- Yn gallu niweidio asedau sy'n chwarae rhan bwysig wrth reoli perygl llifogydd.
- Yn rhan o ymateb ehangach i lifogydd yn ystod digwyddiad llifogydd gweithredol.
Mae diogelwch hefyd yn ffactor pwysig. Er y gellir cyfiawnhau symud ambell rwystr, yn aml mae'n anniogel ymgymryd â gwaith yn ystod llif uchel afonydd neu amodau llifogydd. Yn y sefyllfaoedd hyn, gall ceisio eu symud roi staff, contractwyr ac offer mewn perygl diangen.
Pan fydd achosion brys yn codi, efallai y bydd angen i CNC weithredu ar dir sy'n berchen i eraill er mwyn rheoli perygl llifogydd ar unwaith, gan sicrhau bod tirfeddianwyr yn cael gwybod cyn gynted â phosibl wedi hynny.
Pryd y gallem ddewis peidio â gweithredu
Mae'r un mor bwysig cydnabod nad yw pob rhwystr afon yn niweidiol.
Yn y lle iawn, mae coed sydd wedi cwympo a malurion pren yn rhan naturiol o systemau afonydd. Gall y nodweddion hyn arafu symudiad dŵr, storio dŵr dros dro, lleihau anterth llifogydd i lawr yr afon a chreu cynefinoedd gwerthfawr i bysgod, pryfed a bywyd gwyllt arall.
Gallwch wylio'r fideo byr hwn i ddysgu mwy - Afonydd iach - Mae pren yn dda.
Byddai cael gwared ar bob coeden neu rwystr o bob cwrs dŵr nid yn unig yn gostus ond gallai hefyd gael gwared ar lawer o'r prosesau naturiol sy'n cyfrannu at amgylcheddau afonydd iachach a mwy gwydn.
Fel sefydliad a ariennir yn gyhoeddus, rhaid i CNC hefyd wneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael. Felly rydym yn blaenoriaethu gwaith lle mae'r risgiau a'r buddion ar eu mwyaf, yn hytrach na cheisio cael gwared ar bob rhwystr waeth beth fo'i effaith.
Rôl tirfeddianwyr a pherchnogion asedau
Mae perygl llifogydd yn gyfrifoldeb ar y cyd.
Yn aml, mae gan dirfeddianwyr gyfrifoldebau o dan egwyddorion cyfraith gyffredin perchnogaeth glannau afonydd i gynnal cyrsiau dŵr sy'n llifo trwy eu tir neu ar ei hyd. Yn yr un modd, disgwylir i sefydliadau sy'n berchen ar strwythurau fel pontydd, cwlfertau ac asedau eraill yn y sianel reoli a chynnal y nodweddion hynny a'u cadw'n glir lle bo'n briodol.
Lle mae rhwystrau'n effeithio ar strwythurau neu dir preifat ac yn peri perygl llifogydd ar unwaith i bobl a / neu gymunedau, yr ateb mwyaf effeithiol yn aml yw i'r perchennog cyfrifol gymryd camau, gan mai nhw sydd fel arfer yn y sefyllfa orau i ddeall amodau lleol a gofynion rheoli parhaus.
Adlewyrchir y dull hwn yn Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru, sy'n tynnu sylw at y rôl bwysig y mae perchnogion a gweithredwyr asedau yn ei chwarae wrth helpu i reoli perygl llifogydd yn lleol.
Cydbwyso perygl llifogydd ac adfer byd natur
Mae pob penderfyniad y mae CNC yn ei wneud yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cynnwys cydbwyso ystod o ffactorau.
Mae ein timau arbenigol yn defnyddio mapiau llifogydd, modelu, gwybodaeth am asedau, gwybodaeth leol ac asesiadau risg i benderfynu a oes angen ymyrryd. Rydym hefyd yn ystyried effeithiau amgylcheddol a chyfleoedd i weithio gyda phrosesau naturiol afonydd lle bynnag y bo'n briodol.
Yn aml iawn, gall caniatáu i ddeunydd pren addas aros o fewn afon gefnogi amcanion bioamrywiaeth a’r gallu i wrthsefyll llifogydd. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad ehangach CNC i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ac i feithrin gwydnwch o fewn cymunedau ac ecosystemau.
Dull sy'n seiliedig ar risg i Gymru
Anaml y bydd un ateb sy'n datrys pob sefyllfa pan ddaw hi at reoli coed a rhwystrau mewn afonydd.
Weithiau mae ymyrryd yn hanfodol i amddiffyn pobl a chymunedau. Dro arall, yr ateb mwyaf cynaliadwy yw caniatáu i brosesau naturiol barhau. Drwy fabwysiadu dull sy'n seiliedig ar risg, mae CNC yn anelu at ganolbwyntio adnoddau lle byddant yn cael yr effaith fwyaf tra hefyd yn cefnogi amgylcheddau afonydd iachach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae deall y penderfyniadau hyn yn helpu i esbonio pam y gellir gadael coeden sydd wedi cwympo mewn un lle ond sy'n ysgogi gweithredu mewn lle arall. Caiff pob safle ei asesu’n unigol, gyda pheryg llifogydd, diogelwch, budd amgylcheddol a gwerth am arian cyhoeddus o adnoddau cyfyngedig i gyd yn chwarae rhan yn y penderfyniad terfynol.
Eisiau mwy o wybodaeth?
Os ydych chi'n berchen ar dir wrth ymyl afon neu nant, neu os hoffech ddysgu mwy am gyfrifoldebau rheoli perygl llifogydd yng Nghymru, mae canllawiau defnyddiol ar gael drwy:
Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Llywodraeth Cymru) - Rolau a Chyfrifoldebau Tudalen 17 ymlaen
Perchnogion Glannau'r Afon: Cynnal a Chadw Cyrsiau Dŵr (Llywodraeth Cymru)
Cyfrifoldeb dros afonydd, nentydd, cwlfertau a chamlesi (CNC) (yn cynnwys y map prif afonydd)
Bod yn berchen ar gwrs dŵr (CNC)
Gwirio a oes angen trwydded gweithgaredd perygl llifogydd neu FRAP (CNC) arnoch
Mae deall pwy sy'n gyfrifol am beth yn helpu i sicrhau bod afonydd yn cael eu rheoli'n effeithiol, bod perygl llifogydd yn cael ei leihau lle bo angen, a bod dyfrffyrdd Cymru yn parhau i gefnogi cymunedau a natur.