Rheoli ein hamgylchedd naturiol yn Ne Ddwyrain Cymru: ein gwaith gorfodi
Yr haf yma, mae ein tîm amgylchedd yn Sir Fynwy a Thorfaen wedi bod yn ein harwain ar daith rithwir wrth helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth a gofalu am ein hamgylchedd yma yn Ne Ddwyrain Cymru.
Y mis hwn, rydym yn ymuno ag Anthony Bruten, un o’r swyddogion amgylchedd, i siarad mwy am ein gwaith gorfodi a sut mae rheoliadau amgylcheddol yn ein helpu i ddiogelu pobl, bywyd gwyllt, tir ac afonydd Sir Fynwy.
Creu amgylchedd glanach, iachach a mwy diogel
Mae rôl swyddog amgylchedd yn un amrywiol a diddorol tu hwnt ac rydym yn cael profiadau o holl elfennau’r dirwedd – o fod yn ymatebwr categori 1 a mynychu digwyddiadau llygredd 24/7, i dreulio amser ar safleoedd trefol a gwledig i sicrhau fod ffermwyr a busnesau lleol yn cydymffurfio â’r rheoliadau.
Ein gwaith ni yw helpu i greu amgylchedd glanach, iachach a mwy diogel ar gyfer cymunedau a bywyd gwyllt yn Ne Ddwyrain Cymru.
Un o’r ffyrdd yr ydym yn gwneud hyn yw drwy weithio gyda busnesau, tirfeddianwyr ac aelodau’r cyhoedd yn ardal Sir Fynwy a Thorfaen, i sicrhau eu bod yn gweithredu’n ddiogel ac yn cydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol, fel nad ydynt yn llygru’r amgylchedd neu’n achosi niwed i bobl neu i fywyd gwyllt.
Rydym yn archwilio safleoedd trwyddedig, megis gwaith trin carthion neu ffermydd dwys i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion rheoliadol ac yn ceisio datrys unrhyw ddiffyg cydymffurfio yn wirfoddol yn y lle cyntaf os oes effaith gyfyngedig ar yr amgylchedd. Mae hyn yn helpu i osgoi archwiliadau ac achosion llys costus, ac yn caniatáu inni ddefnyddio ein hadnoddau ar gweithredu mwy positif.
Beth sy’n digwydd pan fydd angen inni gymryd camau gorfodi?
Rydym yn ymchwilio i droseddau amgylcheddol ac yn cymryd camau gorfodi pan fydd ein hymchwiliad yn nodi fod hynny’n briodol, neu pan fyddwn yn canfod fod rheoliad wedi cael ei dorri.
Mae camau gorfodi yn amrywio a gallant gynnwys unrhyw beth o lythyrau rhybuddio a hysbysiadau i wella cyfleusterau, rhybuddion ffurfiol ac erlyniadau.
Nid yw’r rhan fwyaf o’n gwaith gorfodi yn cyrraedd y penawdau gan ein bod yn ceisio datrys problemau cyn iddynt waethygu, gan ddefnyddio cyfuniad o gyngor a chanllawiau, yn ogystal â gweithio gyda busnesau a ffermwyr i wella gwybodaeth a sgiliau. Rydym hefyd yn rheoleiddio trwyddedau i sicrhau bod deiliaid yn cydymffurfio â’r amodau.
Un digwyddiad y buom yn ymdrin ag ef yn ddiweddar oedd erlyniad Persimmon Homes ar ôl i’r cwmni fethu rhwystro nifer o ddigwyddiadau llygredd, a effeithiodd ar Afon Gafenni, yn Sir Fynwy yn 2019.
Byddwn bob amser yn cymryd camau gweithredu priodol yn erbyn y rhai sy’n diystyru rheoliadau ac yn peryglu’r amgylchedd naturiol yr ydym i gyd yn ei adnabod a’i garu. Yn yr achos hwn cafodd Persimmon Homes ddirwy o £433, 331 – gallwch ddarllen mwy am yr achos yn ein datganiad i’r wasg yma.
Beth sy’n digwydd pan nad yw gwaith gorfodi yn cyrraedd y penawdau?
Rydym yn rhoi cyhoeddusrwydd i’n prif achosion sy’n diweddu yn y llys, ond pan fo effaith amgylcheddol trosedd yn isel, a’r troseddwr yn cydweithredu rydym yn sicrhau bod ein camau gorfodi yn golygu fod safle yn cydymffurfio yn hytrach nag yn cael ei gosbi am y drosedd a gyflawnwyd.
Er enghraifft, gofynnir yn gyson i swyddogion amgylchedd ddelio â materion sy’n gysylltiedig â ffermydd, fel storio slyri a silwair, storio pentyrrau o dail mewn caeau a photsio mewn caeau, yn arbennig yn ystod misoedd oer y gaeaf.
Ein nod yw rhoi cyngor ac arweiniad yn y lle cyntaf. Er enghraifft, o ran storio pentyrrau tail mewn caeau, rhaid i ffermwyr beidio â storio tail mewn unrhyw un lle am fwy na 12 mis a rhaid peidio â’i gadw eto yn yr un lleoliad am 2 flynedd. Hefyd, rhaid i’r pentyrrau beidio â bod o fewn 10m i gwrs dŵr, sy’n helpu i sicrhau cyn lleied o berygl llygredd ag sydd bosibl.
Mae’r llun hwn yn dangos pentyrrau tail mewn lleoliad gwael mewn cae ac sydd wedi achosi dŵr ffo a llygredd mewn cwrs dŵr. Derbyniodd y ffermwr lythyr rhybuddio a symudodd y pentyrrau i well safle.
Yn gynharach y mis hwn, ymatebodd ein swyddogion hefyd i adroddiadau gan y cyhoedd ynglŷn ag arogl carthion mewn cae yn Sir Fynwy.
Roedd perchennog y tir wedi cloddio ffos oedd wedi’i gorchuddio gan dyfiant ac roedd carthion yn gollwng o danc carthion ac yn dechrau cronni, ar ôl bod yn gollwng i’r ddaear cyn hynny. Roedd perygl hefyd o halogi’r cwrs dŵr gerllaw petai glaw trwm yn syrthio.
Mynychodd ein swyddogion y safle a rhoi cyngor ac arweiniad i berchennog y tir a osododd gae draenio oedd yn cydymffurfio â’r Safon Brydeinig, gan helpu i liniaru unrhyw ddigwyddiadau llygredd posibl yn ogystal â dargyfeirio gollyngiadau oddi wrth y ffos.
Cofiwch – gallwch roi gwybod am bryderon amgylcheddol inni 24/7 drwy ffonio ein Canolfan Ddigwyddiadau ar 0300 065 3000 neu drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol (naturalresources.wales)