“Patrymau Mawnog” artist yn arddangos rhyfeddodau corsydd crynedig Cymru.

Mae Manon Awst, sy’n artist o Gymru, yn eiriolwr mawr dros fawndiroedd Cymru, ac mae ei gwaith creadigol yn adlewyrchu’r angerdd aruthrol a’r persbectif unigryw sydd ganddi tuag at y cynefin yr ydym yn gweithio mor galed i’w adfer ac yn helpu pobl i’w ddeall a’i werthfawrogi.
Mae Manon, sydd wedi derbyn Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eisoes wedi creu nifer o osodiadau trawiadol a darnau perfformio i gyfleu nodweddion a swyddogaethau niferus mawndiroedd Cymru a’i chysylltiad â nhw.
Mae ei gwaith “mawnog”, a ddechreuodd ar gorsydd Ynys Môn a Llŷn (CNC / Cyfuno celf a gwyddoniaeth i dynnu sylw at bwysigrwydd mawndiroedd) ac a gafodd ei arddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan, bellach wedi newid ei bwyslais i dirweddau cors grynedig a mignen bontio—cynefinoedd sy’n cael eu hadfer gan brosiect corsydd crynedig LIFE, a gynhelir gan CNC a’i gyflwyno mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac awdurdodau parciau cenedlaethol Arfordir Penfro ac Eryri. CNC / Corsydd crynedig LIFE.
Mae corsydd crynedig LIFE wedi bod yn gweithio’n agos gyda Manon i roi mynediad iddi i rai o fannau anoddach eu cyrraedd o gorsydd crynedig Cymru, yn fwyaf nodedig safleoedd prosiect Cors Gyfelog ger Caernarfon, tref enedigol Manon, a Chors Crymlyn ar gyrion Abertawe.
Ym mis Ionawr, ymwelodd Manon â Chrymlyn i recordio pennod o’r podlediad ‘Why Women Grow’ lle bu’n arwain Alice Vincent a’i criw cynhyrchu o amgylch y warchodfa natur genedlaethol ac yn rhoi disgrifiad emosiynol a hynod bersonol—y gellir ymgolli ynddo—o pam ei bod yn teimlo atyniad mor gryf â’r tirweddau hynafol hyn.
Trwy ei barddoniaeth ddisgrifiadol a’i dealltwriaeth ddofn o ecoleg y bydoedd gwlyptir hyn, mae Manon yn paentio darlun clir o’r hanes a’r dyfodol posibl sydd wedi’i gloi ym mawn Cymru.
Gan gydnabod sut mae adfer mawndiroedd yn arwydd o ymateb mor bwysig i argyfyngau hinsawdd a natur, mae gwaith Manon o’r enw ‘Gweld trwy’r gors’, sydd ar y gweill, yn mynd i ennyn ymateb arwyddocaol ymhlith yr hyn sy’n gymuned gynyddol o bobl sy’n gwerthfawrogi ac yn dathlu’r penodau nesaf yn hanes mawndiroedd Cymru.
Dywedodd Manon: “Mae bob amser yn teimlo fel braint i fod allan ar y gors – bob amser yn wahanol, a bob amser yn unigryw yn dibynnu ar y tywydd a’r tymor. Mae Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol wedi fy ngalluogi i gloddio’n ddwfn i’r patrymau mawnaidd ar y safleoedd hyn ac wedi fy arwain i gwestiynu sut y gallaf ddod yn gydnaws â mawn, a pha ddeunyddiau sy’n gydnaws â mawn ar gyfer fy ngwaith cerflunio. Rwy’n gyffrous ynghylch ble y gallai hyn arwain o ran fy ngwaith ymgysylltu ag adfer mawndiroedd yn y dyfodol. Hoffwn ddiolch i staff CNC a thîm LIFEquake am fod mor gefnogol i’m gwaith creadigol a’m hymchwil, a gobeithio y gall y cydweithio ffrwythlon barhau.”
Dywedodd Mark Bond, swyddog cyfathrebu ac ymgysylltu corsydd crynedig LIFE: “Mae’n gyfle gwych i ni gysylltu gwaith ein prosiect a chreadigedd Manon â’i gilydd. Mae cariad Manon at y tirweddau hyn yn ddiymwad ac mae ei hawydd llethol i ymgolli ei hun a phobl eraill ynddynt yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae ei meistrolaeth ar ei geirfa Saesneg a Chymraeg, sef ei mamiaith, yn wir yn cludo’r gwrandäwr i rannau dyfnaf y corsydd nad yw’n hawdd i’r rhan fwyaf o bobl eu cyrraedd. Mae ei hawydd i osod ei hun yn llythrennol allan yn y gors yn creu delweddau sy’n weledol syfrdanol, trawiadol a chofiadwy. Rydym mor falch o fod wedi gwneud y cysylltiad hwn â Manon, ac wrth ein bodd ein bod yn gallu ei chefnogi wrth iddi feithrin ei chysylltiad ei hun â mawndiroedd Cymru.”
Gwrandewch ar y podlediad ‘Why Women Grow’ yma: Manon Awst ar fod yn ‘fawn-gytûn’
Dysgwch fwy am waith Manon yma: Gweld trwy’r gors – Manon Awst
X: @manonawst @celfcymru
Insta: @manon_awst @celfcymru @alicevincentwrites @indiahobson
Dilynwch y gwaith adfer mawndir diweddaraf gan gorsydd crynedig LIFE ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y prosiect @LIFEQuakingBogs