Rhowch hwb i’ch gyrfa gyda help CNC
Graddiais o Brifysgol Abertawe gyda gradd mewn Daearyddiaeth, a hynny yng nghanol y cyfnod clo Covid 19 cyntaf.
Gyda busnesau’n cau a phawb yn gweithio o gartref, roeddwn i’n gwybod y byddai chwilio am waith yn anodd, ond doeddwn i heb sylweddoli pa mor gystadleuol oedd y farchnad swyddi mewn gwirionedd.
Felly, penderfynais ddilyn cwrs ôl-raddedig mewn Dynameg Amgylcheddol a’r Newid yn yr Hinsawdd, hefyd ym Mhrifysgol Abertawe.
Fe wnes i gwblhau’r cwrs y llynedd a gadael y brifysgol gyda’r cymwysterau angenrheidiol i ddod o hyd i swydd yn y maes yr oeddwn wedi’i ddewis, ond nid oedd gen i brofiad gwaith.
Er fy mod wedi gweithio yn Domino’s a Tesco i enwi ambell un wrth astudio fy nghwrs gradd, roedd y farchnad swyddi proffesiynol yn codi ofn arnaf i raddau, ac roeddwn i’n digalonni ar ôl i nifer o’m ceisiadau gael eu gwrthod, felly fe wnes i gofrestru am Gredyd Cynhwysol nes i mi ddod o hyd i swydd sefydlog.
Dechreuodd fy lwc newid pan welais hysbyseb am Raglen Kickstart Cyfoeth Naturiol Cymru, ac fe wnaeth hynny ennyn fy niddordeb.
Mae rhaglen Kickstart Llywodraeth y DU yn darparu cyfleoedd lleoliad gwaith â thal i bobl ifanc sy’n derbyn Credyd Cynhwysol a’r rhai y mae’r argyfyngau economaidd ac iechyd cyhoeddus wedi effeithio ar eu cyfleoedd gyrfa.
Dechreuais weithio i CNC fel ymchwilydd Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) ym mis Rhagfyr 2021.
Roeddwn i’n gyffrous i gael dechrau fy ngyrfa mewn asiantaeth amgylcheddol adnabyddus ac yn hapus fy mod i’n gallu rhoi’r wybodaeth a ddysgais yn ystod fy astudiaethau ar waith o’r diwedd.
O’r diwrnod cyntaf un yn CNC, roeddwn i’n teimlo fy mod i’n derbyn cefnogaeth a’u bod yn gofalu amdanaf.
Fy rôl o fewn CNC yw ymchwilio canllawiau achredu Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a cheisio nodi themâu cyffredin sy’n nodi lle mae’n cael ei weithredu’n llwyddiannus, unrhyw fylchau a beth y gellir ei wneud i oresgyn y rhwystrau hyn i sicrhau bod pob gweithiwr yn mabwysiadu’r ffordd hon o weithio.
Roedd rhai o’r themâu a oedd yn dod i’r amlwg dro ar ôl tro ar draws y sefydliad yn cynnwys diogelu ecosystemau’n llwyddiannus yn ogystal â chynllunio a monitro gwaith CNC yn effeithiol. Ar y llaw arall, gwelsom fylchau yn y data a’r wybodaeth sydd ar gael yn ogystal â bylchau mewn gwybodaeth/profiad ar draws y sefydliad.
Mae’r prif rwystrau sy’n atal gweithrediad egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn tueddu i gynnwys cyfathrebu gwael gyda chyrff allanol a rhanddeiliaid, a phrinder adnoddau – cyllid ac amser yn benodol.
Roedd mwyafrif y gweithwyr yn ein sampl yn awgrymu mai gwell cyfathrebu o fewn CNC a thu allan fyddai’r newidiadau pwysicaf a fyddai eu hangen er mwyn gallu ymgorffori egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn eu gwaith. Ond crynodeb cyffredinol yn unig yw hwn. Mae angen casglu sampl mwy er mwyn gallu gwneud dadansoddiad manwl.
Rydw i wedi mwynhau fy amser gyda CNC yn fawr hyd yn hyn, gan wneud cyfraniad go iawn a chyflawni gwaith ystyrlon sydd â photensial i greu Cymru fwy cynaliadwy.
Rydw i wedi ennill chwe mis o brofiad gwerthfawr sy’n berthnasol i’m nodau gyrfa at y dyfodol, ac unwaith y bydd fy nghytundeb Kickstart yn dod i ben, rwy’n bwriadu astudio cwrs Doethuriaeth, gan ddefnyddio’r sgiliau gwerthfawr yr wyf wedi’u meithrin yn ystod fy nghyfnod yn CNC.