Ymchwiliad ar y cyd yn helpu i olrhain problemau draenio yn Llangollen

Mae Llangollen yn dref boblogaidd iawn ar lannau afon Dyfrdwy, ac rydym yn gwybod pa mor bwysig yw amddiffyn yr afon ar gyfer y bobl, y bywyd gwyllt a'r busnesau sy'n dibynnu arni.
Fel Uwch Swyddog Amgylchedd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, rhan o fy rôl yw ymateb i adroddiadau am lygredd a gweithio gyda phartneriaid i ddod o hyd i'r ffynhonnell. Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn gweithio'n agos â Dŵr Cymru yn Llangollen i olrhain camgysylltiadau posibl â'r system ddraenio, yn dilyn adroddiadau am dwf ffwng ac arogl cryf ffiaidd ger allfa dŵr wyneb sy'n llifo i afon Dyfrdwy.
Gwiriadau cynnar ac arolygon teledu cylch cyfyng
Dangosodd y gwiriadau cyntaf, er bod gorlif carthffosiaeth gyfun (CSO) ar y system dŵr wyneb, nid oedd wedi gollwng ers 24 Ionawr 2025. Cofnododd mesuryddion glaw yn yr ardal law trwm y diwrnod hwnnw, felly mae'r gorlif carthffosiaeth gyfun wedi ymateb i hyn ac wedi gweithredu fel y bwriadwyd.
Ers hynny, mae Dŵr Cymru wedi ein helpu i symud pethau yn eu blaenau drwy gynnal arolwg teledu cylch cyfyng o'r rhwydwaith draenio. Tynnodd hyn sylw at ychydig o feysydd pryder lle gallai cysylltiadau o eiddo fod yn mynd i'r lle anghywir – o bosibl yn syth i'r afon.
Olrhain y ffynhonnell
Mae ein tîm ar y cyd wedi bod yn defnyddio llifyn i gynnal arbrofion mewn toiledau a sinciau i weld i ble maen nhw'n draenio. Mae hyn yn cynnwys rhoi llifyn yn y system a'i olrhain trwy siambrau archwilio. Hyd yma, rydym wedi cynnal yr arbrofion mewn pedwar eiddo – chwe thoiled i gyd. Mae tri o'r eiddo hynny (pum toiled) wedi'u cysylltu'n gywir â'r rhwydwaith carthffos fudr.
Nid oedd yn bosibl olrhain un toiled i'r system garthos fudr nac i'r allfa dŵr wyneb. Mae'r lluniau teledu cylch cyfyng yn dangos y gallai dŵr fod yn cronni mewn rhan o'r cwlfert, a allai olygu ei fod yn cymryd mwy o amser i symud trwy'r system. Rydym yn dilyn hyn gyda pherchennog yr eiddo i gael gwybod mwy.
Fe ddaethom o hyd hefyd i ddwy sinc sy'n ymddangos fel pe baent wedi'u cysylltu'n anghywir. Mae mwy o waith i'w wneud ar y llinell ddraenio hon i wirio am unrhyw broblemau pellach.
Ymdrech tîm i amddiffyn y Ddyfrdwy
Mae hwn yn parhau i fod yn ymchwiliad byw, ond mae gweithio gyda Dŵr Cymru wedi ein helpu i symud yn gyflymach. Mae rhannu gwybodaeth ac adnoddau yn ei gwneud hi'n llawer haws diystyru cysylltiadau i mewn neu allan.
Mae busnesau lleol a pherchnogion eiddo wedi bod yn cydweithio’n arbennig o dda gyda ni, sydd wedi bod o gymorth mawr. Drwy gydweithio, rydym yn dod yn agosach at ddeall beth sy'n digwydd yn Llangollen a beth yw’r ffordd orau o amddiffyn afon Dyfrdwy rhag llygredd posibl.
Adnabod eich draeniau
Mae’n ymddangos bod y cysylltiadau a nodwyd yn Llangollen yn rhai hanesyddol, gan eu bod wedi bodoli ers blynyddoedd lawer. Mae'r camgysylltiadau wedi parhau dros y blynyddoedd heb yn wybod i berchnogion a deiliaid yr eiddo. Wyddoch chi i ble mae draeniau eich eiddo yn mynd? Dyma ychydig o ganllawiau: