Sut i gael cip ar gigfrain gosgeiddig Niwbwrch
Graham Williams, aelod o Dîm Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoedwig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch, sy’n ysgrifennu am gigfrain a'u perthynas â'r safle.
Yn aml, ystyrir cigfrain yn arwydd o anffawd ond mae rhai yn eu parchu hefyd. Mae eu plu du, eu galwadau a’u crawcian cryg uchel yn aml yn atseinio oddi ar glogwyni serth a llethrau mynyddoedd Eryri.
Fe'u gelwir yn gigfrain neu’n adar corff oherwydd eu harfer o ymweld â maes y gad yn yr Oesoedd Canol. Y gred oedd eu bod yn ymweld â milwyr marw a chlaf i gymryd eu heneidiau.
Mewn gwirionedd, cigfrain yw un o'n hadar mwyaf deallus a hynod, ac mae ganddynt ymennydd sydd gyda’r mwyaf o blith unrhyw aderyn yn ôl y sôn. Mae eu stôr o alwadau yn cynnwys mwy na 30 o synau gwahanol ac maen nhw hefyd yn gallu dynwared bleiddiaid neu lwynogod.
Mae cigfrain yn hollysol, gyda deiet amrywiol iawn. Ar ddiwrnodau tawel yn Niwbwrch, gallwch eu gweld yn aml ar y traethau yn chwilota yn y broc môr a’r gwymon am fwyd neu'n hedfan ac yn galw dros y gwningar neu'r goedwig.
Er bod bwydo'n cymryd cryn dipyn o'u hamser, gan eu bod yn gorfod chwilio ac weithiau deithio'n bell at ffynonellau bwyd, gellir eu gweld yn chwarae hefyd. Un o'u hoff fannau yw Twyni Penrhos, yn enwedig pan fydd gwynt da ar y tir sy'n eu galluogi i lithro, plymio a disgyn ar wib uwchben crib y blaendwyni. Mewn amodau ffafriol gall fod dwsinau o adar, sy'n dipyn o olygfa.
Mae cigfrain yn byw hyd at 30 mlynedd. Maen nhw’n paru am oes a phan fyddant yn eu llawn dwf maen nhw’n byw mewn parau mewn tiriogaeth. Pan fydd cigfrain ifanc yn cyrraedd eu glasoed, maen nhw'n gadael eu cartref ac yn ymuno â gangiau o gigfrain ifanc eraill. Mae'r heidiau hyn yn byw ac yn bwyta gyda'i gilydd nes eu bod yn paru ac yn sefydlu tiriogaeth.
Yr adar ifanc hyn sydd heb fagu eto yw’r adar a geir yn Niwbwrch ac nid ydynt yn dal tiriogaethau sefydledig. Mae'n rhyw fath o glwb ieuenctid ar gyfer cigfrain digartref. Ar ei anterth ym 1999, roedd coedwig Niwbwrch yn gartref i un o'r mannau clwydo mwyaf yn y byd ar gyfer cigfrain, gydag oddeutu 2,000 o adar. Yn ôl ymchwil a wnaed gan Brifysgol Bangor ar y pryd, roedd adar yn Niwbwrch yn defnyddio'r man clwydo fel canolbwynt i rannu gwybodaeth ac i fanteisio ar eu niferoedd i gynyddu eu siawns o gystadlu am fwyd a dod o hyd iddo.
Defnyddiodd ymchwilwyr garcasau defaid gyda gleiniau treuliadwy â chod lliw, i ddangos sut roedd yr adar yn bwydo gyda’i gilydd, gan weithredu mewn grwpiau bach. Roedd dadansoddiad o belenni oedd wedi’u hadgyfogi a ddarganfuwyd o dan y glwyd yn profi bod yr adar yn clwydo mewn grwpiau bach ar wahân, gan rannu lleoliad ffynonellau bwyd ymhlith aelodau eu grŵp eu hunain yn unig.
Mae cyfanswm yr adar wedi gostwng yn raddol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Heddiw rydym yn amcangyfrif bod tua 300 i 400 o adar yn clwydo yn y goedwig yn ystod misoedd y gaeaf, gyda niferoedd llai yn ystod gweddill y flwyddyn. Er bod hyn yn ymddangos yn ddirywiad sylweddol, credwn fod llawer o ffactorau cymhleth ar waith.
Yn gyntaf, mae'n ymddangos bod dirywiad mewn cigfrain nad ydynt yn magu ar draws Gogledd Cymru yn gyffredinol gyda newid i lawer o fannau clwydo niferus ond llai fel y rhai ym Mynydd Bodafon a Llanddona. Gwelwyd bod mannau clwydo ar draws Prydain a thir mawr Ewrop hefyd yn rhai byrhoedlog o ran amser a lle o ganlyniad i fynediad at fwyd, sy’n aml yn gysylltiedig â ffactorau dynol fel polisi ac arferion ffermio a gwaredu gwastraff.
Gan fod cigfrain yn adar deallus, mae ganddynt y gallu mewn amgylchiadau o'r fath i addasu i ffynonellau bwyd amgen; ac mae tystiolaeth bod adar sydd yn eu glasoed bellach yn gwasgaru'n ehangach wrth i diriogaethau magu yma ddod yn orlawn ac maen nhw bellach yn ehangu tiriogaethau yn siroedd y gororau yn Lloegr.
Felly, y tro nesaf y byddwch yn mynd am dro yn y gaeaf yn Niwbwrch, gwrandewch am y galwadau a gwyliwch symudiadau gosgeiddig un o'n hadar mwyaf hynod a deallus.