Sut y bydd prosiect Twyni Byw yn rhoi hwb i dwyni tywod o gwmpas de Cymru
Yn dilyn ein diweddariad ar y gwaith sydd ar y gweill yng Nghoedwig a Thywyn Niwbwrch, mae Swyddog Prosiect a Monitro De Twyni Byw, Laura Bowen, yn rhannu cynlluniau'r prosiect yr hydref hwn ar gyfer pum safle twyni tywod allweddol ar hyd arfordir de Cymru.
Wrth i deuluoedd hel atgofion melys am wyliau’r haf ar lannau môr Cymru ac wrth i amryw o degeirianau prydferth ddod at ddiwedd eu cyfnod blodeuo blynyddol, mae sylw'r tîm y tu ôl i brosiect Twyni Byw wedi troi at waith cadwraeth pwysig sydd yn yr arfaeth ar gyfer yr hydref ar bum safle twyni tywod allweddol ar hyd arfordir de Cymru.
Yng Nghynffig dros y misoedd nesaf, byddwn yn crafu ardal o laciau’r twyni i ail-greu cynefin tywod noeth sy'n diflannu’n frawychus o gyflym o dwyni tywod Cymru. Byddwn hefyd yn cael gwared ar brysgwydd sy'n bygwth llethu rhywogaethau eraill mewn rhannau o'r twyni.
Bydd llawer o waith hanfodol yn dechrau tua diwedd yr haf ym Merthyr Mawr. Byddwn yn creu un rhicyn ym mlaen y twyni ac yn crafu i adfywio un o’r llaciau oedd yno gynt. Hefyd, bydd cyfanswm o 16 o ardaloedd bach lle bydd tyweirch yn cael eu tynnu – gan ail-greu cynefin tywod noeth hanfodol.
Draw yn Nhwyni Pen-bre byddwn yn rheoli rhafnwydden y môr, sy’n rhywogaeth oresgynnol. Er bod ei haeron oren llachar yn ddeniadol, nid yw’r rhywogaeth hon yn frodorol i'n twyni tywod ac mae'n cymryd drosodd y lle sydd ei angen ar blanhigion brodorol i oroesi.
Yna draw yn Nhwyni Lacharn-Pentywyn, byddwn yn cael gwared ar brysgwydd goresgynnol ac yn cwblhau 3km o ffensys i helpu i ddiogelu'r gwartheg sy'n pori'r twyni yno. Byddwn hefyd yn torri’r llystyfiant draw yn Nhwyni Whiteford, Merthyr Mawr a Chynffig i helpu i’w gadw’n fyr.
Wrth i dymor yr hydref ddirwyn i ben, byddwn yn teneuo ac yn cwympo rhai o'r coed conwydd ar blanhigfa yn Nhwyni Whiteford. Nid yw conwydd yn frodorol i'n twyni tywod a chaent eu plannu yn y gorffennol ar gyfer pren ac i sefydlogi'r twyni a oedd yn symud ar un adeg. Fodd bynnag, mae conwydd yn gorgysgodi ac yn llethu rhywogaethau brodorol ac yn sychu ardaloedd sy’n naturiol wlyb.
Mae rhai o'r conwydd hyn yn cyrraedd diwedd eu hoes fasnachol a byddant yn dechrau dirywio a chwythu drosodd os na chânt eu cynaeafu. Bydd cael gwared ohonynt hefyd yn helpu i adfer y twyni tywod drwy greu ardaloedd agored o gynefin glaswelltir llawn blodau.
Byddwn yn ymgysylltu â'r gymuned leol i ddarparu gwybodaeth am y cynlluniau cwympo coed a rhoi cyfle iddynt wneud sylwadau a gofyn cwestiynau am y prosiect.
Mae holl waith Twyni Byw yn cael ei gwblhau i helpu i gadw cynefinoedd twyni tywod yn iach. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol lle byddwn yn parhau i bostio diweddariadau rheolaidd am ein gwaith. Gallwch ddod o hyd i ni @TwyniByw ar Twitter, Instagram a Facebook neu drwy chwilio am Twyni Byw / Sands of LIFE.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein gwaith, mae croeso i chi gysylltu â mi'n uniongyrchol drwy e-bost ar Laura.Bowen@CyfoethNaturiolCymru.gov.uk