Helpwch i ddiogelu Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol - ymunwch â’n tîm Gorfodi Canolog

Yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) rydym yn gweithio tuag at ddyfodol lle mae llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf, lle mae byd natur wrthi’n gwella a lle mae cymunedau'n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd yn well.

Helpwch i ddiogelu Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol - ymunwch â’n tîm Gorfodi Canolog

Yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) rydym yn gweithio tuag at ddyfodol lle mae llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf, lle mae byd natur wrthi’n gwella a lle mae cymunedau'n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd yn well.

Mae angen mwy na rheoleiddio ar ei ben ei hun i ddiogelu amgylchedd Cymru. Mae angen gweithwyr proffesiynol medrus a all ymchwilio i droseddau amgylcheddol, casglu tystiolaeth, herio diffyg cydymffurfio a gweithio gyda phartneriaid i gymryd camau effeithiol yn erbyn y rhai sy'n achosi niwed.

Fel Rheolwr Gweithrediadau, rwy'n gweithio gyda chydweithwyr ar draws ystod o rolau gorfodi ac arbenigol ac yn gweld yn uniongyrchol y gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud bob dydd. Drwy reoleiddio, casglu gwybodaeth, ymchwiliadau a gweithgarwch gorfodi, maent yn helpu i amddiffyn cymunedau, diogelu adnoddau naturiol a dwyn troseddwyr i gyfrif.

Rydym nawr yn recriwtio ar gyfer sawl rôl gyffrous ledled Cymru ac rydym yn chwilio am bobl sydd eisiau bod yn rhan o'r gwaith pwysig hwnnw.

Sut fyddwch chi'n gwneud gwahaniaeth

Gall troseddau amgylcheddol arwain at ganlyniadau difrifol i bobl, lleoedd a bywyd gwyllt ledled Cymru. Gall lygru afonydd, tir ac aer, niweidio cynefinoedd a rhywogaethau, bygwth iechyd y cyhoedd, tanseilio busnesau cyfreithlon a gadael cymunedau yn wynebu costau glanhau sylweddol.

Dyna pam mae gorfodi effeithiol yn rhan bwysig o'r gwaith a wnawn

Mae ein timau'n helpu i sicrhau bod cyfreithiau a rheoliadau amgylcheddol yn cael eu dilyn, gan atal niwed a chymryd camau gweithredu pan fydd troseddau'n digwydd. Gan weithio ochr yn ochr â thimau gweithredol, cydweithwyr cyfreithiol a phartneriaid allanol, maent yn casglu gwybodaeth, yn ymchwilio i droseddau ac yn cymryd camau cymesur i ddwyn troseddwyr i gyfrif.

Mae gweithio dan arweiniad gwybodaeth wrth wraidd llawer o'r gweithgaredd hwn. Mae ein timau'n dadansoddi gwybodaeth o sawl ffynhonnell, gan nodi patrymau a risgiau sy'n dod i'r amlwg, ac yn asesu tystiolaeth gymhleth.

Anaml y bydd troseddau amgylcheddol yn digwydd o fewn ffiniau sefydliadau. Rydym yn gweithio'n agos gyda heddluoedd, awdurdodau lleol, Asiantaeth yr Amgylchedd, Llywodraeth Cymru a chyrff gorfodi eraill, gan rannu gwybodaeth a chydlynu gweithgaredd i fynd i'r afael â throseddu yn fwy effeithiol.

Bydd pob diwrnod yn wahanol

O ddigwyddiadau llygredd a gweithrediadau gwastraff anghyfreithlon i droseddau pysgodfeydd, torri coed yn anghyfreithlon, difrod i gynefinoedd gwarchodedig a thorri rheoliadau ehangach, mae ein gwaith yn cwmpasu ystod eang o faterion amgylcheddol.  

Un diwrnod gallech fod yn cefnogi ymchwiliad i safle gwastraff anghyfreithlon a amheuir, gan gasglu tystiolaeth ac adolygu gwybodaeth. Y nesaf, efallai y byddwch chi'n gweithio gyda sefydliadau partner ar ymgyrch orfodi wedi’i chydlynu, yn paratoi ffeiliau achos ar gyfer achosion cyfreithiol neu'n helpu i adeiladu tystiolaeth sy'n cefnogi camau erlyn.

Mae troseddau gwastraff yn parhau i fod yn un o'n blaenoriaethau gorfodi allweddol. Mae ein timau’n chwarae rhan bwysig wrth atal a tharfu ar weithgarwch gwastraff anghyfreithlon, casglu a dadansoddi gwybodaeth ac ymchwilio i unigolion a rhwydweithiau troseddol cyfundrefnol sy’n elwa o droseddau amgylcheddol.

Gall y gwaith fod yn heriol, yn feichus ac weithiau'n anrhagweladwy. Mae'n gofyn am broffesiynoldeb, uniondeb a barn gadarn, yn enwedig wrth ddelio ag ymchwiliadau cymhleth neu sgyrsiau anodd. Ond mae hefyd yn rhoi llawer o foddhad.

Mae rhai o’n canlyniadau gorfodi diweddar wedi cynnwys erlyniadau am droseddau gwastraff, camau wedi’u cymryd yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol am ddifrod i gynefinoedd gwarchodedig a throseddau sy’n gysylltiedig â chasglu cocos yn anghyfreithlon.

Mae pob ymchwiliad yn cyfrannu at ddiogelu amgylchedd a chymunedau Cymru.

Ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r hyn sydd ei angen?

Rydym yn chwilio am bobl o gefndiroedd amrywiol sy'n rhannu ein hymrwymiad i ddiogelu adnoddau naturiol Cymru.

Gallai'r rolau hyn apelio at bobl sydd â phrofiad o fewn gorfodi, cydymffurfio, gwybodaeth, ymchwilio, rheoleiddio a rheoli meysydd cysylltiedig yn amgylcheddol.

Fodd bynnag, yr un mor bwysig yw'r sgiliau, yr ymddygiadau a'r meddylfryd rydych chi'n eu cynnig.

Rydym yn chwilio am bobl sydd:

  • Yn chwilfrydig yn naturiol ac yn mwynhau datrys problemau
  • Yn gallu dadansoddi gwybodaeth o sawl ffynhonnell ac adnabod patrymau neu risgiau
  • Â’r hyder i herio diffyg cydymffurfio yn briodol
  • Dangos uniondeb a phroffesiynoldeb yn eu prosesau gwneud penderfyniadau
  • Cyfathrebu'n glir ac yn effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Gallu meithrin perthnasoedd cryf a gweithio ar y cyd â phartneriaid
  • Aros yn gadarn wrth ddelio â sefyllfaoedd heriol
  • Yn gallu rhoi sylw cryf i fanylion ac yn gallu cymhwyso deddfwriaeth amgylcheddol yn deg ac yn gyson

Boed eich cryfderau o fewn gwybodaeth, ymchwilio, gorfodi, rheoleiddio neu weithio mewn partneriaeth, byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i ddiogelu amgylchedd Cymru.

Os ydych chi'n chwilio am rôl lle mae eich gwaith yn wirioneddol bwysig, lle mae pob dydd yn dod â heriau a chyfleoedd newydd i ddysgu, a lle gallwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau a'r amgylchedd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Cyfleoedd Cyfredol

Bydd mwy o swyddi'n cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf, a byddant yn cael eu hysbysebu isod ac ar ein tudalen swyddi. Cadwch lygad am ragor o fanylion.


Swyddog Datgelu a Chymorth Ymchwilio

Swyddog Gwybodaeth

Archwilio mwy

Yn yr adran hon hefyd

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru