Gŵyl y Môr yn cynyddu ymwybyddiaeth o'r môr

Y mis diwethaf, bu ein timau morol yn ymwneud â dau ddigwyddiad Gŵyl y Môr a helpodd gannoedd o bobl i ddysgu am amgylchedd morol Cymru. Yma, mae'r tîm yn sôn wrthym am y digwyddiadau llwyddiannus hyn.

Dathlodd Gŵyl y Môr amgylchedd morol Cymru trwy ledaenu ymwybyddiaeth o lythrennedd morol a’n perthynas â’r môr ar lefel leol.

Bu’r ŵyl yn gweithio gyda phobl, cymunedau a sefydliadau lleol i helpu i adnabod a gwella llythrennedd morol. Bu hefyd yn gweithio gyda grwpiau cymunedol i greu agenda o weithgareddau Gŵyl y Môr gyda’r bwriad o nodi a chael gwared ar y rhwystrau posibl y mae cymunedau’n eu hwynebu wrth gysylltu â’r môr a’r arfordir.

Buom yn ymwneud â chynllunio’r ŵyl yn ogystal â’r gweithgareddau a’r cyflwyniadau dros y penwythnosau. Rhannwyd y diwrnodau rhwng stondinau, gweithgareddau, a chyflwyniadau ar brosiectau penodol yn ymwneud â’r môr ac ymwybyddiaeth o’r môr. Roedd nifer o’n staff yn bresennol dros y penwythnosau i arddangos rhywfaint o’r gwaith morol sydd wrthi’n cael ei wneud ar hyn o bryd.

Gŵyl Aberdaugleddau

Cynhaliwyd yr Ŵyl gyntaf yn Aberdaugleddau ar 8 a 9 Mawrth. Roeddem yn cynnig arddangosion a sgyrsiau am Barth Cadwraeth Forol Sgomer a’r prosiectau Rhwydweithiau Natur morol.

Fe wnaethom sefydlu arddangosiad o wely’r môr i blant (a’r Dirprwy Brif Weinidog!) i roi cynnig ar dechnegau monitro morol go iawn gan ddefnyddio cwadradau a chamerâu tanddwr.

Bu ymwelwyr hefyd yn siapio cynnwys pwll glan môr gan ddefnyddio clai i'w helpu i ddelweddu'r amrywiaeth enfawr o rywogaethau sydd i'w cael yn y cynefin pwysig hwn.

Gŵyl y Fflint

Cynhaliwyd yr ail ŵyl yn adfeilion Castell y Fflint ar lannau Aber Afon Dyfrdwy ar 22 Mawrth.

Bu’r rhai a ddaeth draw i’n stondin yn mwynhau cribinio am gocos yn y pwll tywod a siarad â ni am effaith gwahanol rywogaethau estron goresgynnol yn Aber Afon Dyfrdwy ac o amgylch arfordir Cymru.

Y llwyddiant mwyaf ar ein stondin oedd gêm sbwriel morol y ‘Bocs Teimlo’, lle gofynnwyd i ymwelwyr deimlo a nodi beth oedd yn y gwahanol focsys, ac yna penderfynu a ddylai fod yn y cefnfor ai peidio.

Sbardunodd y gemau rhyngweithiol hyn gwestiynau a sgyrsiau ardderchog am iechyd a pa mor werthfawr yw ein hamgylchedd morol.

Gwella llythrennedd morol

Roedd y penwythnosau yn llwyddiant ysgubol a dywedodd llawer o bobl pa mor ddifyr ac addysgiadol oedd y gwahanol stondinau a chyflwyniadau. Roedd amrywiaeth o sefydliadau morol ac arfordirol yn gysylltiedig, a thynnodd hyn sylw at yr ystod amrywiol o randdeiliaid yn y sector morol.

Gŵyl y Môr yw un o allbynnau diriaethol cyntaf strategaeth Y Môr a Ni. Paratowyd y strategaeth hon gan Gynghrair Llythrennedd Morol ar gyfer Cymru ar ran Partneriaeth Arfordir a Moroedd Cymru.

Ewch i wedudalen Y Môr a Ni i ddarganfod mwy: Y Môr a Ni - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru