Diweddariad tywydd sych 2025

Diweddariad ar y tywydd sych a’i effeithiau ledled Cymru.

23 Mai 2025

Rydym yn datgan tywydd sych estynedig ar gyfer Cymru gyfan oherwydd gwanwyn eithriadol o sych.

Ein statws

Rydym wedi gwneud y penderfyniad i newid statws Cymru gyfan o statws ‘arferol’ i statws ‘tywydd sych estynedig’ yn dilyn cyfnod eithriadol o sych yn y gwanwyn.

Mae ein penderfyniad yn seiliedig ar ffactorau hydrolegol ac amgylcheddol ar hyn o bryd. Mae ein penderfyniad i ddatgan statws o ‘dywydd sych estynedig’ wedi’i rannu â Grŵp Cyswllt Sychder Cymru, sy’n cael ei gadeirio gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cynnwys gwneuthurwyr penderfyniadau uwch o CNC, y Swyddfa Dywydd, cwmnïau dŵr a phartneriaid eraill.

Yr ardaloedd yr effeithir arnynt gan y newid statws heddiw yng Nghymru yw:

  • Afon Dyfrdwy (Cymru)
  • Rhannau uchaf afon Hafren
  • Gogledd Gwynedd (Conwy, Ynys Môn, Arfon, Dwyfor)
  • De Gwynedd (Meirionydd)
  • Gogledd Ceredigion (afonydd Rheidol, Aeron ac Ystwyth)
  • Afon Teifi
  • Sir Benfro (afon Cleddau Ddu ac afon Cleddau Wen)
  • Caerfyrddin (afonydd Tywi a Thaf)
  • Abertawe a Llanelli (afonydd Tawe a Llwchwr)
  • Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr (afonydd Nedd, Afan ac Ogwr)
  • Afon Gwy (Cymru)
  • Afon Wysg
  • Y Cymoedd (afonydd Taf, Ebwy, Rhymni ac Elái)
  • Bro Morgannwg (afon Ddawan)
  • Afon Clwyd

Rydym yn cydweithio’n agos ag Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch y dalgylchoedd trawsffiniol. 

 

Y sefyllfa dŵr

Mae Cymru ar hyn o bryd yn profi cyfnod o dywydd sych estynedig.

Hyd at 19 Mai 2025, nid oes llawer o law wedi disgyn ym mis Mai hyd yn hyn ar draws dalgylchoedd Cymru, sef dim ond 0–17% o gyfartaledd hirdymor mis Mai (1981–2010). Mae hyn yn dilyn cyfnod o dri mis eithriadol o sych rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2025, pan oedd y glawiad cronnus dros y tri mis hyn ond yn 59% yr hyn a ddisgwylid ar gyfer yr adeg honno o’r flwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i un o’r cyfnodau tri mis sychaf a gofnodwyd erioed.  

Mae’r diffyg glawiad wedi golygu bod llif y rhan fwyaf o afonydd yng Nghymru ar hyn o bryd yn sylweddol is na’r disgwyl, neu’n eithriadol o is na’r disgwyl, ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn.  Mae afonydd yn cael eu rheoli i gefnogi eu llif, gan gynnwys ar afonydd Dyfrdwy, Hafren, Clwyd a Gwy.

Mae lefelau dŵr daear yn gostwng ac yn amrywio o eithriadol o isel i arferol ledled Cymru. 

Mae lefelau cronfeydd dŵr ledled Cymru yn gostwng fel y disgwylir ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn, ond mae rhai lefelau dŵr yn is nag y byddent fel arfer yr adeg hon o’r flwyddyn. 

Gweler gwybodaeth am lefelau cronfeydd dŵr ar gyfer Dŵr Cymru.

Gweler gwybodaeth am lefelau cronfeydd dŵr ar gyfer Hafren Dyfrdwy.

 

Pryderon

Rydym yn pryderu am y pwysau y mae diffyg glawiad sylweddol wedi’u rhoi ar afonydd, lefelau dŵr daear, rheoli tir, amaethyddiaeth, bywyd gwyllt a’r amgylchedd naturiol ehangach ledled Cymru. 

Rydym eisoes yn delio ag effeithiau’r cyfnod estynedig o dywydd sych ar yr amgylchedd, gan gynnwys:

Darnau o welyau afonydd eithriadol o isel a sych mewn llawer o lednentydd uchaf / blaenddyfroedd gyda phryder y bydd hyn yn effeithio ar silod mân a phariaid yng nghyfnodau cynnar eu bywyd. Hefyd, gallai digwyddiadau llygredd a pherygl i bysgod gynyddu o ganlyniad i lif isel a photsio anghyfreithlon sy’n manteisio ar y llif isel. Rydym yn cynghori pysgodfeydd a physgotwyr i fod yn arbennig o ofalus wrth bysgota am eogiaid mewn tymereddau uchel, ac i atal pysgota pan mae tymheredd y dŵr yn cyrraedd 20 gradd Celsius.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod:


 

Mae pryderon hefyd ynghylch safleoedd gwarchodedig fel ffeniau, mawndiroedd, rhostiroedd a glaswelltiroedd sy’n gartref i lawer o rywogaethau. 

Mae tanau gwyllt wedi bod ledled Cymru, sydd wedi bygwth tir a bywyd gwyllt. Rydym yn darparu cymorth i wasanaethau tân ac achub er mwyn mynd i’r afael â’r rhain. Gallai rhai ardaloedd hefyd fod yn fwy agored i danau gwyllt. Os gwelwch chi danau gwyllt, ewch i le diogel, ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân.

Mae pryderon hefyd i’r sectorau amaethyddol a rheoli tir gan fod y tywydd sych estynedig yn effeithio ar argaeledd glaswellt ar gyfer da byw, gwair a silwair, sefydlu a thyfu cnydau a choed/gwrychoedd newydd, ac argaeledd dŵr ar gyfer da byw. Rydym yn annog ffermwyr i ddilyn y cyngor a ddarperir ar ein gwefan os oes ganddynt unrhyw bryderon ynghylch tywydd sych.

Darllenwch y cyngor ar ein gwefan.

Mae pryderon/adroddiadau ychwanegol yn cynnwys cyfyngiadau llif isel trwyddedau tynnu dŵr yn dod i rym ac yn cyfyngu ar fynediad at ddŵr, gordyfiant algâu (glas/gwyrdd a brown), a mynediad at ddŵr ar gyfer hamdden a mordwyo, ynghyd â phroblemau camgysylltu carthffosiaeth.

Rydym yn gweld dirywiad yn y lefelau sy’n cael eu storio mewn cronfeydd dŵr, fel y disgwylir ar yr adeg hon o’r flwyddyn, ond mae rhai yn is nag y byddent fel arfer ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Rydym yn ymgysylltu â’r cwmnïau dŵr ynghylch y camau maen nhw’n eu cymryd i reoli eu hadnoddau trwy weithgareddau gweithredol a rheoli gollyngiadau. Rydym yn cefnogi eu cyngor yn llwyr i bobl ledled y wlad ddefnyddio dŵr yn ddoeth a helpu i amddiffyn cyflenwadau dŵr a’r amgylchedd ar hyn o bryd. 

Darllenwch gyngor Waterwise ar sut i ddefnyddio dŵr yn ddoeth.

Darllenwch gyngor Dŵr Cymru ar sut i arbed dŵr.

Darllenwch gyngor Hafren Dyfrdwy ar sut i arbed dŵr.

Wrth fwynhau’r awyr agored, cofiwch fod bywyd gwyllt ac ecosystemau o dan fwy o straen. Dylai aelodau’r cyhoedd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol trwy gysylltu â’r llinell gymorth 24/7 ar 0300 065 3000.

Os ydych chi’n mynd i mewn i gyrsiau dŵr i badlo, ystyriwch y cyngor a gyhoeddwyd gan Canŵ Cymru.

Darllenwch y cyngor gan Canŵ Cymru.

 

Diffinio sychder

Er bod gwahanol raddfeydd, lefelau a diffiniadau o sychder, nodweddir pob cyfnod o sychder gan ryw raddau o brinder glawiad. Mae pob sychder yn wahanol gyda’r natur, yr amseriad a’r effeithiau’n amrywio yn ôl lleoliad a pha sectorau sy’n cael eu heffeithio. Rydym yn diffinio tri math o sychder (a all ddigwydd gyda’i gilydd):

  • Sychder amgylcheddol – llif isel a lleithder pridd is yn effeithio ar amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau. Gall sychder o’r math hwn arwain at effeithiau hirdymor sylweddol os bydd yn parhau dros gyfnod estynedig.
  • Sychder amaethyddol – diffyg dŵr ar gael ar gyfer dyfrhau a llai o leithder pridd yn effeithio ar gynnyrch cnydau (a/neu ansawdd) a lles da byw.
  • Cyflenwad dŵr – llai o ddŵr ar gael ar gyfer cyflenwad cyhoeddus oherwydd llif afonydd is, lefelau is o ddŵr yn cael eu storio mewn cronfeydd dŵr neu ddŵr daear is.

Mae gan unrhyw gyfuniad o’r rhain hefyd y potensial i effeithio ar iechyd a llesiant pobl yn ogystal ag arwain at effeithiau amgylcheddol ac economaidd.

Rhan o’n gwaith ni yw monitro’r sefyllfa hydrolegol ac ecolegol, monitro a rheoleiddio cwmnïau dŵr, a chasglu gwybodaeth am effeithiau ehangach tywydd sych. Rydym yn rhannu sychder yn bedwar cam:

  • Arferol – Dangosyddion o fewn yr ystodau disgwyliedig ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn, a all gynnwys cyfnodau byr o lif isel a llai o ddŵr ar gael.
  • Tywydd sych estynedig – Mae dangosyddion yn dangos lefelau afonydd a glawiad isel am gyfnod hir ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn, llai o leithder pridd, a mwy o adroddiadau o effeithiau ar ecosystemau, tir, y cyflenwad dŵr neu sectorau eraill.
  • Sychder – Cyfnod sylweddol o lefelau afonydd isel a phrinder glawiad. Yn effeithio’n sylweddol ar ecosystemau a phwysau ar y sector amaethyddol. Straen uchel ar y system cyflenwi dŵr gyda chyfyngiadau difrifol o bosibl.
  • Adfer ar ôl sychder – Dychwelyd i’r ystodau arferol ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y sychder blaenorol, efallai y bydd difrod amgylcheddol, allbwn amaethyddol llai neu gyfyngiadau ar ddefnyddio dŵr o hyd.

Mae gan gwmnïau dŵr eu cynlluniau sychder eu hunain sydd ar gael i’r cyhoedd. Gall eu statws sychder amrywio hefyd.  Maent fel arfer yn defnyddio’r camau ‘arferol’, ‘sychder sy’n datblygu’, ‘sychder’ a ‘sychder difrifol’ a byddant yn defnyddio eu sbardunau eu hunain i ddiffinio eu safle, sy’n aml yn gysylltiedig â’u sefyllfa gyflenwi. 

 

Yr hyn rydym yn ei wneud

Unwaith y bydd tywydd sych estynedig wedi’i ddatgan, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynyddu ei gamau gweithredu i helpu i liniaru’r effeithiau ar yr amgylchedd, tir, defnyddwyr dŵr a phobl. Mae’r camau gweithredu hyn yn cynnwys:

  • Mwy o waith monitro a chynyddu nifer y gwiriadau mewn lleoliadau pwysig.
  • Sicrhau bod cwmnïau dŵr yn dilyn eu cynlluniau sychder (unwaith y byddant yn cael eu rhoi ar waith) ac yn paratoi ar gyfer unrhyw fesurau ychwanegol yn ôl yr angen.
  • Sicrhau bod cynlluniau rheoleiddio ar waith i gefnogi tynnu dŵr a chefnogi’r amgylchedd.
  • Sicrhau bod tynwyr dŵr yn cydymffurfio ag amodau eu trwydded,  gyda nifer ohonynt yn cyfyngu ar faint y gellir ei dynnu yn ystod cyfnodau llif isel.
  • Ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol a chymryd y camau gorfodi priodol yn ôl yr angen.
  • Darparu cyngor ac arweiniad megis cyngor ar dywydd sych i ffermwyr.
  • Ymgysylltu â Grŵp Cyswllt Sychder Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd (trawsffiniol) a phartneriaid eraill.

Os byddwn yn mynd i mewn i gyfnod o sychder, bydd ein gweithredoedd yn cael eu dwysáu eto ac yn cynnwys gweithgareddau fel ymateb i geisiadau am drwyddedau a gorchmynion sychder neu weithredu cyfyngiadau pellach ar ddefnyddwyr dŵr, fel chwistrellwyr dyfrhau. 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru