Dyddiad cau’n agosáu ar gyfer gwneud cais am drwyddedau newydd ar gyfer rhai boeleri, injans, generaduron a thyrbinau
Os ydych chi'n rhedeg eich boeler, injan, generadur (gan gynnwys rhai wrth gefn/parod) neu dyrbin ar gyfer cynhyrchu gwres, stêm, pŵer neu drydan, efallai eich bod chi'n rhedeg Cyfarpar Hylosgi Canolig (MCP) a/neu eneradur penodedig, ac mae'n debygol y bydd yn rhaid i chi wneud cais am drwydded gennym i barhau i'w defnyddio oherwydd rheolau newydd sy’n dod i rym.
Yma yn Cyfoeth Naturiol Cymru, rydyn ni yma i'ch helpu a'ch cefnogi i wirio a fydd y rheolau newydd yn effeithio arnoch chi ac i'ch helpu i wneud yr hyn sydd ei angen i sicrhau eich bod yn cydymffurfio.
Beth yw'r rheolau newydd?
Mae'r rheolau newydd yn golygu y bydd angen trwydded ar rai boeleri, injans, generaduron a thyrbinau penodol i helpu i reoli allyriadau NOx, SO2 a llwch a gwella ansawdd aer.
Gelwir y boeleri, injans, generaduron neu dyrbinau hyn yn Gyfarpar Hylosgi Canolig neu MCP.
Offer a ddefnyddir i losgi deunyddiau (gan gynnwys gwastraff) yw MCP, gyda mewnbwn thermol sydd â sgôr o rhwng un a 50 megawat, gan gynnwys:
- uned hylosgi, fel boeler, injan, generadur (gan gynnwys rhai wrth gefn/parod) neu dyrbin
- unrhyw gyfarpar lleihau
- y strap neu ffliw sydd ynghlwm
- uned oeri aer, lle mae'n rhan o'r uned hylosgi
A fydd angen i mi gael trwydded newydd ar gyfer fy Nghyfarpar Hylosgi Canolig?
Er mwyn darganfod a oes angen trwydded arnoch ar gyfer eich Cyfarpar Hylosgi Canolig, mae yna ambell beth y bydd angen i chi ei wybod yn gyntaf:
- Maint eich cyfarpar hylosgi canolig (wedi'i fynegi fel mewnbwn thermol megawat). Os nad ydych chi'n gwybod maint eich cyfarpar hylosgi canolig, gallwch ddefnyddio canllawiau'r MCP ar gov.uk i'ch helpu i'w gyfrifo.
- Y dyddiad y cafodd eich cyfarpar hylosgi canolig ei roi ar waith gyntaf
- Y tanwydd a ddefnyddir gan eich cyfarpar hylosgi canolig
- P'un a yw'ch cyfarpar hylosgi canolig yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwres, stêm, pŵer a/neu drydan
Pan fydd gennych chi’r holl wybodaeth hon, gallwch ddefnyddio'r offeryn hwn i'ch helpu i weithio allan pa drwydded sydd ei hangen arnoch: A oes angen trwydded cyfarpar hylosgi canolig a/neu drwydded generadur penodedig arna i? (smartsurvey.co.uk)
A oes unrhyw eithriadau?
Oes, mae sawl Cyfarpar Hylosgi Canolig wedi'i eithrio o'r rheoliadau gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) rai boeleri symudol, y rhai sydd ond yn defnyddio tail dofednod fel tanwydd, y rhai a ddefnyddir ar gyfer gwresogi neu sychu deunyddiau yn uniongyrchol. Gellir dod o hyd i restr lawn o eithriadau yma.
Pryd mae angen i mi gael fy nhrwydded Cyfarpar Hylosgi Canolig?
Os oes gennych chi Gyfarpar Hylosgi Canolig a ddaeth i rym gyntaf cyn 20 Rhagfyr 2018 (a elwir yn Gyfarpar Hylosgi Canolig presennol) a’i fewnbwn thermol rhwng 5-50MW, mae angen i chi wneud cais am drwydded nawr i fodloni gofynion trwyddedu 1 Ionawr 2024.
Os oes gennych chi Gyfarpar Hylosgi Canolig a ddaeth i rym gyntaf cyn 20 Rhagfyr 2018 (a elwir yn Gyfarpar Hylosgi Canolig presennol) a’i fewnbwn thermol rhwng 1-5MW, mae angen i chi wneud cais am drwydded yn 2028 i gydymffurfio â gofynion trwyddedu 1 Ionawr 2029.
Os hoffech ddechrau defnyddio Cyfarpar Hylosgi Canolig newydd sydd a’i fewnbwn thermol rhwng 1MW a llai na 50MW, rhaid i chi wneud cais am drwydded newydd os nad oes gennych chi un eisoes, neu wneud cais i newid eich trwydded bresennol, fel y gallwch fodloni'r rheolau newydd.
Sut ydw i'n gwneud cais am drwydded?
Ewch i'n gwefan: Cyfoeth Naturiol Cymru / Darganfyddwch a oes angen trwydded arnoch ar gyfer eich boeler, injan neu dyrbin a chewch gyfoeth o wybodaeth am drwyddedau'r Cyfarpar Hylosgi Canolig a manylion am sut i wneud cais am drwydded.
Faint fydd yn ei gostio?
Bydd cost trwydded yn dibynnu ar y math o Gyfarpar Hylosgi Canolig sydd gennych chi a pha fath o drwydded sydd ei hangen yn seiliedig ar y risg i iechyd pobl a'r amgylchedd. Gellir dod o hyd i'n costau trwyddedu yma.
Rwy'n dal yn ddryslyd am drwyddedau'r Cyfarpar Hylosgi Canolig a'r rheolau newydd - sut all Cyfoeth Naturiol Cymru fy helpu?
Os nad ydych chi’n siŵr o hyd a oes angen trwydded arnoch chi, neu beth sy'n rhaid i chi ei wneud, cysylltwch â ni am gyngor – byddwn ni’n hapus i helpu: mcpd.queries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk