Rheoli Cotoneaster ledled Gogledd Cymru
Yn ôl ym mis Ebrill, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau gwirfoddol i fynd ati i helpu i fynd i'r afael ag ymlediad cotoneaster, rhywogaeth estron oresgynnol sy'n achosi difrod ar draws Gogledd Cymru. Cynhaliwyd y digwyddiadau gwirfoddol cyntaf yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Llanddulas a Helygain ar 21 a 26 Ebrill, ac mae digwyddiadau eraill yn cael eu trefnu ar gyfer y misoedd nesaf.
Mae hyn yn rhan o brosiect parhaus Rheoli Cotoneaster Gogledd Cymru lle mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Yma, fel rhan o’r sylw yr ydym yn ei roi i Wythnos Rhywogaethau Goresgynnol 2022. mae Christina Sheehan, Swyddog Cadwraeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn egluro mwy am y prosiect ac am yr heriau a achosir gan y rhywogaeth oresgynnol hon.
Mae Cotoneaster yn blanhigyn estron a hynod o ymledol sy'n lledaenu ac yn cymryd drosodd mewn cynefinoedd brodorol hanfodol megis gwelltiroedd calchfaen ac asid ledled Gogledd Cymru.
Mae wedi dod yn llwyn poblogaidd iawn mewn gerddi ac mae sawl rhywogaeth ohono bellach wedi dianc o erddi gan achosi problem enfawr i'n safleoedd gwarchodedig yn yr ardal.
Mae prosiect Rheoli Cotoneaster Gogledd Cymru yn helpu i ganfod lledaeniad ac amlder cotoneaster ar draws yr ardal, i flaenoriaethu’r safleoedd gwarchodedig lle mae angen ei reoli fwyaf a chodi ymwybyddiaeth o’r planhigyn fel rhywogaeth estron oresgynnol.
Pam y mae cotoneaster yn broblem?
Cafodd y cotoneaster ei gyflwyno i'r DU yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel planhigyn gardd, ac erbyn heddiw mae’n cael ei gyfrif yn un o’r deg rhywogaeth sy'n cael yr effaith negyddol fwyaf ar safleoedd gwarchodedig yng Nghymru, ac o ganlyniad, mae'n niweidiol iawn i rywogaethau brodorol o anifeiliaid, infertebratau a phlanhigion.
Os oes gennych chi blanhigyn cotoneaster yn eich gardd efallai y byddwch yn sylwi ei fod yn denu gwenyn, adar a phryfed peillio eraill ac, yn y lle iawn, gall ymddangos ei fod o fudd i fywyd gwyllt. Fodd bynnag, gall gwynt, adar ac anifeiliaid eraill wasgaru'r hadau a'u cyflwyno i'r gwyllt lle maen nhw’n niweidio llystyfiant brodorol ac yn dod bron yn amhosibl i’w dileu. Mae hyn hefyd yn arwain at golli planhigion sy’n fwyd i’r rhywogaethau brodorol sy'n dibynnu arnynt.
Mae rhywogaethau cotoneaster yn tyfu'n gyflym ac yn ffurfio llwyni sy'n lledaenu’n gyflym ac sy'n cysgodi rhywogaethau brodorol. Mae hyn yn broblem arbennig ar glogwyni calchfaen, palmentydd a sgrïau, lle ceir llawer o rywogaethau brodorol prin.
Os na fyddwn yn gweithredu, gallai achosi newid parhaol i'n tirweddau lleol, a chael effaith ddinistriol ar fywyd gwyllt drwy golli rhywogaethau a ffynonellau bwyd brodorol.
Sut allwch chi helpu?
Mae planhigion neithdar brodorol yn cynnig ffynonellau bwyd o ansawdd gwell i amrywiaeth ehangach o rywogaethau o adar ac infertebratau na’r cotoneaster estron, gan eu bod wedi'u haddasu i'r rhywogaethau lleol. Os hoffech chi ddenu adar i'ch gardd gydag aeron, byddai’r ddraenen wen, celyn, gwyddfid, gwifwrnwydd y gors, cwyrosyn yn well dewisiadau. Os hoffech chi ddenu pryfed peillio, beth am roi cynnig ar lafant, murwyll yr hwyr ac yswyd.
Efallai mai'r peth gorau allwch chi ei wneud i adar yw gadael eich planhigion lluosflwydd sy'n blodeuo'n hwyr fel y maen nhw tan ar ôl cyfnod mwyaf garw’r gaeaf. Bydd adar sy'n bwyta hadau yn gwledda ar gribau’r-pannwr, blodau-Mihangel, bwrned ac amryw fathau o lygad y dydd. Bydd y coesynnau brigog a phennau gweigion y blodau yn rhoi cysgod i bryfed mân, ac mae’r dryw bach yn hoff iawn o chwilota am fwyd yn eu mysg.
Yr awgrymiadau gorau i atal cotoneaster rhag lledaenu:
- Trin y bonion amlwg â chwynladdwr;
- Casglu’r holl aeron (e.e. drwy osod haen o ddeunydd o dan y planhigyn wrth ei dorri);
- Cludo’r toriadau i ganolfan waredu sy’n delio â rhywogaethau estron goresgynnol, neu losgi’r deunydd yn llwyr yn ddiogel.
Er mwyn dysgu mwy am brosiect Rheoli Cotoneaster Gogledd Cymru, sut y gallwch helpu ein gwelltiroedd calch neu sut i wirfoddoli, ewch i https://www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy/node/2791.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am rywogaethau goresgynnol ledled Cymru ewch i https://www.nonnativespecies.org/non-native-species/.