Cerfio gyrfa mewn coedwigaeth
Yn ystod yr Hydref, fe wnaethom ni groesawu Sarah Parker a Jack Richardson i’n timau gweithrediadau coedwig yng nghanolbarth Cymru, i wasanaethu ardal Aberystwyth ar draws Mynyddoedd Cambria a Bannau Brycheiniog.
Mae ein timau’n gofalu am 123,000 ha o dir ar ran Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru ac yn ymwneud â phopeth o weithrediadau cynaeafu a phlannu coed hyd at seilwaith hamdden a gwaith ymgysylltu cymunedol.
Dyma nhw’n rhannu eu profiad hyd yma a’r cyngor y bydden nhw’n ei roi i’r rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn coedwigaeth:
Sarah Parker
Fy rôl i o fewn tîm Gweithrediadau Coedwig CNC yw darparu Cymorth Technegol. Mae hyn yn cynnwys goruchwylio gweithrediadau (megis ail stocio a chynaeafu) i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni mewn modd diogel sy’n gynaliadwy i’r amgylchedd.
Roeddwn i eisiau gweithio i CNC gan fy mod yn credu ei bod hi’n bwysig i ni reoli ein hadnoddau’n gynaliadwy er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu eu mwynhau. Rydw i hefyd wrth fy modd yn yr awyr agored a gan fod mwyafrif fy ngwaith yn golygu bod y tu allan, roeddwn i’n teimlo y byddai hwn yn gyfle perffaith i mi!
Yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf, rydw i wedi treulio amser yn cysgodi, yn dod i adnabod yr ardaloedd lle’r ydw i’n gweithio ac yn dysgu cymaint â phosibl am fy swydd newydd. Mae gen i rywfaint o gyrsiau ar ôl i’w gwblhau ynghyd â rhywfaint o hyfforddiant cyn fy mod i’n gallu bod yn gwbl annibynnol ond rydw i’n edrych ymlaen at oruchwylio safleoedd ar fy mhen fy hun yn y flwyddyn newydd. Fy nghyngor i ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried dilyn gyrfa ym maes coedwigaeth yw mynd amdani. Mae pawb wedi bod mor gyfeillgar a chymwynasgar, a byddwch yn cael cyfle i weithio mewn lleoedd prydferth iawn!
Jack Richardson
Fe wnes i gwblhau blwyddyn o leoliad gwaith gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ddiweddar, gan weithio ochr yn ochr â gweithrediadau coedwig a rheoli tir ar draws ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Fel yr oedd y cyfnod lleoliad gwaith yn dod i ben, roeddwn i’n ddigon ffodus i gael swydd cymorth technegol yn ardal Aberystwyth a Machynlleth. Mae’r swydd hon yn golygu goruchwylio ystod eang o wahanol weithrediadau coedwig sy’n digwydd o fewn Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, o blannu a sefydlu coetiroedd newydd a choetiroedd sydd eisoes wedi’u sefydlu, i gynaeafu a phrosesu amrywiaeth o wahanol gynnyrch y mae ein coedwigoedd yn eu darparu.
Er mwyn fy ngalluogi i gyflawni fy swydd hyd eithaf fy ngallu, rydw i wedi derbyn nifer o gyfleoedd hyfforddi a datblygu mewn ystod o ddisgyblaethau, yn ogystal â chefnogaeth i ymaelodi â Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig (ICF) i ddatblygu fy ngwybodaeth ymhellach.
Ni allaf ganmol y diwydiant coedwigaeth ddigon fel llwybr gyrfa ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried newid gyrfa. Yn bersonol, mae’r gwaith o reoli coedwigoedd a choetiroedd yn rhoi boddhad mawr i mi, ac mae’n fy ngalluogi i chwarae rhan yn y broses o reoli un o adnoddau naturiol Cymru mewn modd cynaliadwy, a’u diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Ydych chi’n credu eich bod yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i ymuno â #TimCyfoeth?
Mae ein timau Coedwigaeth yn ne a chanolbarth Cymru yn cynnig cyfle gwych ar hyn o bryd ar gyfer pedwar lleoliad gwaith â thâl i fyfyrwyr sy’n cwblhau lleoliad gwaith ganol blwyddyn fel rhan o’u cwrs gradd coedwigaeth neu reoli tir mewn sefydliad addysg uwch.
Gallwch ddarganfod mwy am y Lleoliadau gwaith a dod o hyd i’r ffurflen gais ar ein gwefan.
Dyddiad cau: 31 Ionawr.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y lleoliadau gwaith, cysylltwch â: Michael.cresswell@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk