Defnyddio gwyddoniaeth i fynd i’r afael â rhywogaethau goresgynnol
Nod prosiect Pedair Afon LIFE yw lleihau effeithiau rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) fel Jac y Neidiwr, pidyn-y-gog Americanaidd, clymog Japan a’r efwr enfawr o fewn dalgylchoedd afonydd Teifi, Tywi, Cleddau ac Wysg yn ne Cymru.
Yma, mae Leila Thornton, Uwch Swyddog Adfer Afonydd prosiect Pedair Afon LIFE yn siarad am waith y prosiect ar rywogaethau estron goresgynnol a’r dull arloesol maen nhw’n ei dreialu i reoli Jac y Neidiwr yn benodol.
Beth yw INNS?
Mae INNS (Rhywogaeth Estron Oresgynnol) yn golygu unrhyw anifail neu blanhigyn sy’n gallu lledaenu, gan achosi niwed i’n hadnoddau naturiol, ein hamgylchedd, yr economi, ein hiechyd a’n ffordd o fyw.
Ar hyn o bryd mae yna dros 350 o rywogaethau estron goresgynnol o ddiddordeb i Gymru – rhai ohonynt eto i gyrraedd ac eraill eisoes yn bresennol.
Mae tua 150 o rywogaethau estron goresgynnol yn bresennol yng Nghymru. Gallwch weld y rhestr o INNS a’u dosbarthiad ar borth INNS Cymru.
Pam mae INNS yn broblem?
Mae gan bob un o’r pedair afon sy’n rhan o brosiect Pedair Afon LIFE (Teifi, Tywi, Cleddau ac Wysg) gofnodion o rywogaethau estron goresgynnol fel Jac y Neidiwr, pidyn-y-gog Americanaidd, clymog Japan a’r efwr enfawr yn eu cyffiniau. Rheoli lledaeniad ac effaith y planhigion hyn yw nod allweddol y prosiect.
Mae Jac y Neidiwr (Impatiens glandulifera) yn rhywogaeth estron oresgynnol sydd wedi hen fwrw gwreiddiau yn y DU, gan gytrefu glannau afonydd, tiroedd ar hyd y glannau a choetiroedd gwlyb.
Llun: Jac y Neidiwr uchod, NNSS GB
Mae’n cystadlu â rhywogaethau o blanhigion brodorol am ofod, golau, maetholion a phryfed peillio, yn atal twf planhigion eraill ac, o ganlyniad, yn lleihau bioamrywiaeth frodorol.
Mae Jac y Neidiwr yn marw yn ystod misoedd y gaeaf, gan adael glannau afonydd yn noeth o lystyfiant a’u gwneud yn dueddol o erydu. Gyda’i gilydd mae’r effeithiau hyn yn achosi i gynefinoedd ddirywio ac yn lleihau cadernid ecosystemau.
Gall technegau rheoli traddodiadol ar gyfer Jac y Neidiwr (sef torri, tynnu a chwistrellu) fod yn effeithiol i reoli’r rhywogaeth yn lleol, ond mae’r broses o’i rheoli er mwyn ei dileu dros ardal eang ac yn yr hirdymor yn gallu bod yn heriol.
Dyma pam mae Prosiect Pedair Afon LIFE yn ystyried profi techneg arloesol i ychwanegu at ei ddulliau o reoli Jac y Neidiwr yn yr hirdymor.
Sut mae gwyddoniaeth yn mynd i’r afael â’r goresgynwyr
Mae’r prosiect yn gweithio’n agos gyda’r Centre for Agricultural and Bioscience International (CABI) i dreialu cyfrwng rheoli biolegol ar gyfer Jac y Neidiwr.
Mae CABI wedi bod yn asesu effeithiolrwydd math o ffwng rhwd neu ffwng cawod goch (Puccinia komarovii var. glanduliferae), sy’n frodorol i fynyddoedd yr Himalaya, fel ffordd bosib o’i reoli.
Mae hwn yn ffwng sy’n heintio coesyn a dail Jac y Neidiwr gydol y tymor tyfu.
Mae profion helaeth mewn labordai wedi dangos y gall y math hwn o ffwng fod yn effeithiol i leihau gorchudd Jac y Neidiwr ac nad yw’n effeithio’n negyddol ar unrhyw rywogaethau eraill o blanhigion brodorol.
Yn 2014, fe gymeradwyodd DEFRA i’r ffwng gael ei ryddhau i’r maes. Hyd yma, mae dau is-fath o’r ffwng wedi eu rhyddhau yn y DU; y naill o India a’r llall o Bacistan.
Er y bu’r ffwng yn effeithiol wrth heintio planhigion mewn rhai safleoedd, bu’r driniaeth yn aflwyddiannus mewn lleoliadau eraill. Credir bod hyn yn rhannol oherwydd gwahaniaethau rhwng safleoedd yn yr amodau amgylcheddol, er enghraifft cysgod, lleithder a phatrwm llifogydd.
Mae angen cynnal treialon maes arbrofol pellach i nodi’r ffactorau sy’n pennu llwyddiant ffwng rhwd, ac i ddatblygu ei ddefnydd fel dull rheoli posibl.
Dyma lle llwyddodd Prosiect Pedair Afon LIFE i helpu gan ei fod yn gyfle gwych i gynnal profion pellach.
Sut mae’r driniaeth yn gweithio?
Mae Tîm y Prosiect a chydswyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio gyda chydweithwyr o Fannau Brycheiniog i nodi wyth safle posibl i’w trin ar draws dalgylchoedd Teifi, Tywi, Cleddau ac Wysg, gan ddilyn y meini prawf a argymhellir gan CABI.
Mae’r meini prawf yn rhagnodi ardal tua 10x10 metr lle mae trwch o Jac y Neidiwr yn bodoli. Maent hefyd yn rhagnodi ardal nad yw’n cael ei phori, nad yw yn y cysgod, sy’n llaith ac sy’n annhebygol o gael ei heffeithio gan lifogydd na gweithgarwch pobl.
Nid yw holl boblogaethau Jac y Neidiwr yn y DU yn agored i gael eu heintio gan ffwng rhwd. Felly, cyn derbyn safleoedd newydd i raglen ryddhau CABI, mae angen cynnal profion tueddiad ar blanhigion o’r safleoedd hyn dan amodau naturiol a labordy i weld pa mor agored ydynt i gael eu heintio.
Casglwyd hadau Jac y Neidiwr o wyth safle ar draws pedair dalgylch yn ystod 2022 a’u cyflwyno i CABI ar gyfer profion tueddiad.
O’r wyth safle a brofwyd yn 2022, roedd chwech yn agored i gael eu heintio gan y ddau is-fath o ffwng a oedd ar gael ac felly fe’i derbyniwyd fel safleoedd prawf addas.
Mae’r rhain yn cynnwys dau safle ar brif afon Wysg, un safle ar brif afon Tywi ac un ar y Gwili (un o lednentydd y Tywi), a dau safle ar lednentydd afon Teifi (Hirwaun a’r Cych).
Rhyddhawyd ffwng rhwd yn y chwe safle hyn yn ystod haf 2023. Rhyddhawyd sborau’r ffwng deirgwaith dros y tymor tyfu (Mehefin, Gorffennaf, Awst) er mwyn sicrhau lefel uchel o sborau ym mhob safle.
Yn ystod y broses inocwleiddio, caiff y ffwng ei gymysgu â dŵr a’i chwistrellu ar ymyl isaf dail y planhigyn, gan fod yr ymyl isaf yn fwy agored i gael ei heintio. Mae’n cymryd ychydig wythnosau i’r ffwng gydio.
Yna, cynhaliwyd ymweliadau monitro tua 4-6 wythnos ar ôl pob inocwleiddiad i gofnodi nifer y planhigion a oedd wedi’u heintio a pha mor bell oedd y ffwng wedi lledaenu, a chyflwynwyd y data i CABI i’w ddadansoddi. Bydd ymweliad monitro pellach yn cael ei gynnal yn ystod gwanwyn 2024 i asesu a yw’r ffwng yn heintio’r planhigyn dros y gaeaf yn y chwe safle hyn.
Mae’r canlyniadau cychwynnol wedi dangos tystiolaeth o glorosis yn y dail ym mhob safle (gweler y lluniau isod). Mae’r lluniau hyn yn dangos Jac y Neidiwr yn Ystâd Dinas ger Aberhonddu, gyda ffwng rhwd yn ymddangos fel smotiau brown a gwyn.
Beth nesaf?
Gan na nodwyd unrhyw safleoedd prawf addas yn nalgylchoedd afonydd Cleddau yn ystod 2022, bydd prosiect Pedair Afon LIFE yn cyflwyno hadau o ddau safle ychwanegol i’w profi yn ystod gaeaf 2023.
Mae’r safleoedd arfaethedig ar y rhan uchaf o afon Cleddau Ddu ynghyd â safle ar un o lednentydd afon Cleddau Wen (Nant Cartlett).
Bydd canlyniadau’r profion tueddiad ar y safleoedd hyn ar gael yn ystod gwanwyn 2024 a bydd rhagor o driniaethau inocwleiddio yn cael eu cynnal yn ystod haf 2024 os caiff y safleoedd hyn eu derbyn fel safleoedd prawf pellach.
Bydd y Prosiect yn parhau i fonitro datblygiad ffwng rhwd ym mhob safle prawf rhwng blynyddoedd tri a phump i gofnodi lledaeniad a chwmpas effaith y ffwng.
Ochr yn ochr â gwaith y treialon ffwng, bydd y prosiect hefyd yn cyflawni gwaith rheoli penodol ar Jac y Neidiwr, clymog Japan, yr efwr enfawr a phidyn-y-gog Americanaidd mewn lleoliadau strategol ar draws dalgylchoedd y pedair afon.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith, dilynwch ein cyfrifon Facebook, Twitter ac Instagram neu tanysgrifiwch i’n cylchlythyr yma.