Gall newidiadau bach gan ffermwyr wneud gwahaniaeth MAWR i’n hafonydd

Prosiect Pedair Afon LIFE yw’r prosiect adfer afonydd diweddaraf a ariennir gan raglen LIFE yr UE dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru. Ei nod yw gwella cyflwr pedair afon yn ne Cymru: afonydd Teifi, Cleddau, Tywi ac Wysg.

Yma mae Robert Thomas, Swyddog Rheoli Tir Prosiect Pedair Afon LIFE yn sôn am y gwaith y mae wedi bod yn ei wneud gyda chymorth ffermwr ar hyd un o lednentydd afon Teifi.

Rydyn ni i gyd yn caru afonydd, ac rydyn ni i gyd eisiau iddyn nhw fod yn iachach a dros y blynyddoedd nesaf bydd ein prosiect yn gweithio gyda grwpiau amrywiol i helpu i wella cyflwr ein hafonydd.

Mae ffermwyr yn un grŵp o'r fath ac yn un annatod yn hynny o beth. Mae dalgylchoedd y pedair afon i'w gweld yn llifo trwy dirweddau gwledig yn bennaf, gydag amaethyddiaeth yn cyfrif am y rhan fwyaf o'r defnydd tir yn agos at yr afonydd.

Felly, dyma pam ei bod mor bwysig i ni weithio’n agos gyda ffermwyr a’r gymuned ffermio. Gobaith y prosiect yw cynnig cyllid a chyfleoedd a fydd yn cynnal cynhyrchiant y ffermydd, gan hefyd barhau i warchod yr amgylchedd naturiol.

Beth mae'r tîm rheoli tir yn ei wneud a pham?

Fel rhan o Brosiect Pedair Afon LIFE mae yna bedwar Swyddog Rheoli Tir, ac mae gennym ni i gyd afon rydyn ni’n canolbwyntio arni.

Fel tîm, ein prif waith yw ceisio gweithio'n agos gyda ffermwyr i ddarparu cyngor a chyllid am dechnegau ffermio cynaliadwy ac arferion gorau sy'n dod i'r amlwg, yn ogystal â chadw llygad ar wella cadwraeth ac ecoleg yr afonydd.

Mae ein hafonydd yn cynnig amrywiaeth enfawr o fanteision. Mae’r rhain yn cynnwys defnydd ar gyfer busnes, cyflenwad dŵr cyhoeddus a hamdden – y cyfan yn dibynnu ar ansawdd dŵr uchel sydd hefyd yn darparu cartrefi pwysig i fywyd gwyllt a phlanhigion prin.

Mae’r prosiect yn gyfle i gyflawni gwelliannau ar lawr gwlad yn ystod oes y prosiect.

Mae fy ngwaith i yn canolbwyntio i raddau helaeth ar afon Teifi ac yn ddiweddar rwyf wedi bod allan ar afon Hirwaun sy’n un o lednentydd afon Teifi.

Nododd arolwg gan Cyfoeth Naturiol Cymru fod angen ymyriadau ar afon Hirwaun i wella ansawdd dŵr oherwydd dŵr ffo sy’n cynnwys maetholion a gwaddod o ffermydd cyfagos.

Beth mae ymweliad fferm yn ei olygu?

Dros y misoedd diwethaf rwyf wedi bod yn ymweld â ffermydd ar hyd afon Teifi ac yn trefnu ymweliadau lle gallaf siarad â ffermwyr a chynnig cyngor wyneb yn wyneb.

Mae'r ymweliad yn cynnwys edrych o gwmpas y buarth, glan yr afon a'r caeau gan gymryd nodiadau a lluniau i gofnodi arferion a defnydd tir y daliad, i'm helpu i ddeall sut mae'r fferm yn rhyngweithio â'r afon.

Yna caiff y wybodaeth hon ei hysgrifennu mewn adroddiad byr yr wyf wedyn yn ei rannu â’r ffermwr ac yn trafod rhai o’r opsiynau a’r meysydd lle rwy’n credu y gallai elwa o gyngor neu gyllid ar gyfer gwaith seilwaith.

Ar gyfer ein prosiect ni, mae ‘gwaith seilwaith’ yn golygu dulliau fel ffensio a chreu lleiniau clustogi ar hyd glannau afonydd, plannu coed sy’n cynnig sefydlogrwydd i’r glannau yn ogystal â manteision o ran cysgod i bysgod.

Cyfeirir at yr atebion hyn weithiau fel ‘atebion sy’n seiliedig ar natur’ lle rydym yn edrych ar ddulliau naturiol i helpu ansawdd ecolegol yr afonydd i wella hygyrchedd ar gyfer pysgod mudol, strwythur a swyddogaeth cynefinoedd, ac ansawdd dŵr.

Rydym hefyd yn cynghori ac yn gallu cynnig cymorth ariannol ar gyfer gwelliannau i seilwaith buarthau fel gosod cwteri ar hyd toeau i helpu i wella’r broses o wahanu dŵr glân a budr, gyda’r nod o leihau’r pwysau ar storfeydd slyri.

Mae ffocws ein prosiect ar welliannau amgylcheddol ar dir fferm a glannau afonydd. Yn yr achos hwn y nod oedd cefnogi’r ffermwr a sicrhau cynhyrchiant y fferm, gan gadw afon Hirwaun yn iach ar yr un pryd a lleihau’r cyfle i faetholion a slyri fynd i mewn iddi.

Pam mae maetholion a slyri yn ddrwg i'r afonydd?

Mae gwrteithiau sy'n cael eu gwasgaru ar gnydau i'w helpu i dyfu yn cael eu galw’n faetholion, a daw slyri o dom gwartheg.

Pan fydd y naill neu'r llall o'r rhain yn mynd i mewn i afonydd, gallant gael effaith andwyol, megis afliwio a gorfaethu, sy'n cael effaith sylweddol ar y bywyd gwyllt a'r planhigion sy'n byw yn yr afon ac o'i chwmpas.

Wrth fynd i mewn i'n hafonydd, mae maetholion a slyri yn tynnu ocsigen o'r dŵr, gan fygu a lladd y rhan fwyaf o fywyd yn yr afon; mae'r effaith hon yn parhau wrth iddynt ddisgyn i lawr llednentydd i brif afonydd.

Beth mae'r prosiect wedi'i wneud hyd yn hyn ar afon Hirwaun?

O fy ymweliad â Fferm Fron sydd wedi’i lleoli ar afon Hirwaun, cododd dau brif fater: da byw’n mynd i’r afon ac yn achosi erydiad ar glannau yn ogystal â baw anifeiliaid yn mynd i mewn i’r afon.

Yn gyntaf, cynigiwyd gosod ffensys ar hyd y cwrs dŵr gyda'r nod o atal da byw a lleihau'r risg o erydu’r glannau.

Isod mae delweddau cyn ac ar ôl peth o'r gwaith sydd wedi'i wneud.

 

Yn gyffredinol, rydym yn cynghori y dylid gosod ffensys o leiaf ddau fetr a hyd at 10 metr o lan yr afon. Mae hyn yn creu llain glustogi lle gellir plannu coed a gwrychoedd i helpu i sefydlogi'r glannau, os yw’r tir yn addas.

I osod y ffens, buom yn gweithio gyda chontractwyr lleol a ddefnyddiodd beiriannau ar draciau i sicrhau nad oedd y peiriannau'n achosi unrhyw gywasgiad na difrod i'r caeau.

Yn ail, cynigiom leihau nifer y mannau croesi ar gyfer da byw drwy’r afon o ddau i un. Byddai hyn yn lleihau'n sylweddol faint o faw anifeiliaid sy'n mynd i mewn i'r afon.

Cytunwyd ar yr opsiwn hwn gyda'r ffermwr ac mae'r lluniau isod yn dangos un o'r mannau croesi a gafodd ei ffensio

Rydym nawr yn edrych ar opsiynau o osod pont neu geuffos ddiwaelod yn y man croesi presennol i atal baw rhag mynd i mewn i’r afon yn gyfan gwbl.

Diolch i gytundeb a chefnogaeth y ffermwr, rydym wedi llwyddo i greu coridor ar lan yr afon tua 914 medr o hyd ar hyd y rhan yma o afon Hirwaun.

Gobeithiwn ymhen amser, y bydd yr atebion hyn yn arwain at ostyngiad sylweddol o ran erydiad ar y glannau a faint o faw anifeiliaid sy’n mynd i mewn i’r afon, a fydd yn ei dro yn annog bywyd gwyllt i ddod yn ôl i afon Hirwaun ac yn helpu i wella ansawdd prif afon Teifi.

Mae'r holl atebion a grybwyllir yn yr erthygl hon wedi'u hariannu gan brosiect Pedair Afon LIFE.

Os ydych yn ffermio ar hyd dalgylchoedd afonydd Teifi, Tywi, Cleddau neu Wysg ac eisiau gwybod mwy am y cyfleoedd hyn, cysylltwch â ni drwy e-bostio 4AfonLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru