Diwrnod Ymfudo Pysgod y Byd – Llysywen bendoll y môr

Mae’n Ddiwrnod Ymfudo Pysgod y Byd ar ddydd Sadwrn 25 Mai ac i ddathlu rydym yn rhoi sylw i rywogaeth brin llysywen bendoll y môr.

Yma mae Sophie Gott, Swyddog Monitro Prosiect Pedair Afon LIFE yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn siarad am y creadur hynod ddiddorol hwn a’r hyn sydd ei angen arno ar gyfer ei daith fudo lwyddiannus.

Mae llysywod pendwll yn bysgodyn siâp llyswennod cynhanesyddol sydd wedi bodoli ers bron i 400 miliwn o flynyddoedd.

Mae ganddyn nhw geg gwpan sugno siâp disg wedi'i chylchu â dannedd miniog, y maen nhw'n ei defnyddio i'w glynu wrth eu hysglyfaethau wrth fwydo neu i symud cerrig wrth adeiladu eu claddau silio (nythod).

Mae yna tair rhywogaeth o lysywen bendoll – afon, nant a môr – ac mae pob un i'w chael yn y Deyrnas Unedig.

Mae niferoedd wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac maent i gyd bellach yn cael eu dosbarthu fel rhywogaethau prin a warchodir. Ni chaniateir pysgota ar gyfer unrhyw un o'r rhywogaethau.

Fe'u rhestrir fel Rhywogaethau â Blaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth y DU ar ôl 2010 ac maent yn rhywogaeth ddynodedig a warchodir ar gyfer Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Teifi, Afon Tywi, Afon Cleddau ac Afon Wysg.

Maent hefyd wedi'u rhestru ar Restr Goch o Rywogaethau Dan Fygythiad yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur.

Bridio a mudo

Llysywen bendoll y môr (Petromyzon marinus) yw’r mwyaf o’r tair rhywogaeth o lysywod pendwll yn y Deyrnas Unedig, gyda rhai yn mesur hyd at un metr o hyd (gweler y llun isod).

Mae llysywod pendwll y môr yn esgynnol, sy'n golygu eu bod yn mudo o'r môr i silio (bridio) mewn dŵr croyw, fel eogiaid.

Yn ystod y mudo hwn, sy'n digwydd yn ystod Mai a Mehefin, nid yw'r oedolion yn bwydo, gan ganolbwyntio eu holl egni ar gyrraedd mannau silio addas.

Mae llysywod pendwll y môr yn aml yn silio mewn rhannau dyfnach o'r afon na llysywod pendwll y nant neu lysywod pendwll yr afon. Dilynir hyn gan gyfnod larfaol (cyfnod amoset) a dreulir mewn gwelyau silt addas mewn nentydd ac afonydd.

Unwaith y maen nhw wedi eu deor, mae'r larfaod (amosetau) yn drifftio gyda'r llif i gladdu eu hunain yn silt ymylol meddal yr afon i dyfu, gan fwydo ar yr algâu, bacteria a malurion yn y mwd.

Ar ôl sawl blwyddyn yn y gwelyau silt hyn, mae amosetau llysywod pendwll y môr a'r afon yn rhoi'r gorau i fwydo ac yn dechrau trawsnewid (newid ffurf). Yna, rhwng canol a diwedd yr haf, maent yn ymffurfio’n oedolyn gyda llygaid gweithredol ac mae'r geg yn newid yn sugnwr (neu ddisg geneuol) gyda dannedd.

Yna byddant yn mudo allan i'r môr ac yn dechrau bwydo'n barasitig ar bysgod fel penfreision, mecryll neu gathod môr. Bydd y llysywen bendoll yn cydio ar bysgodyn gyda'i dannedd torchog ac yn rhygnu, gan fwyta cnawd a gwaed a hyd yn oed organau mewnol.

Ar ôl treulio rhwng blwyddyn a dwy flynedd yn y môr yn bwydo, mae llysywen bendoll y môr yn mudo yn ôl i afonydd dŵr croyw i silio ac mae'r cylch yn ailddechrau.

Yn wahanol i eogiaid, ni chredir bod llysywod pendwll y môr yn ‘mynd adref’ i'r nant y cawsant eu geni ynddi, ond maent yn gallu dod o hyd i nentydd silio addas trwy synhwyro fferomonau o amosetau sydd eisoes yn byw yno.

Mae llysywod pendwll y môr yn silio mewn parau neu grwpiau bach, mewn pant bas (cladd silio) sy'n cael ei greu trwy lithro eu cyrff yn y swbstrad neu ddefnyddio eu sugnwyr i symud cerrig o gwmpas. Gwyliwch fideo Jack Perks ar lysywod pendwll i weld hyn drosoch eich hun 300 Million Year Old Fish:Chasing Scales Species Hunt (EPISODE 10) (youtube.com)

Yn aml, gellir gweld y claddau silio (nythod) hyn o lan yr afon neu o bontydd, yn edrych fel ardaloedd glân o tua 1-2 metr o ddiamedr yng ngwely’r afon (gweler y llun isod).

Bydd y fenyw yn dyddodi'r wyau wedi'u ffrwythloni yn y clawdd silio, lle cânt eu hamddiffyn rhag y rhan fwyaf o ysglyfaethwyr, a lle maent yn cael dŵr glân, wedi'i ocsigeneiddio'n dda, i ddatblygu a deor ynddo.

Ar ôl iddynt bridio, mae llysywod pendwll benywaidd a gwrywaidd yn marw.

Beth yw'r pwysau sy'n wynebu poblogaethau llysywod pendwll y môr?

Fel gyda llawer o'n rhywogaethau dŵr croyw, y bygythiad mwyaf i lysywod pendwll yw colli cynefinoedd a llygredd.

Gall pridd a gwaddod sy’n erydu o dir wrth ymyl afonydd lenwi bylchau rhwng coblau a graean ar waelod ein hafonydd, gan fygu’r cynefin sydd ei angen ar lysywod pendwll i ddodwy eu hwyau ac atal ocsigen rhag cyrraedd yr wyau.

Yn ogystal, gall adeileddau o waith dyn fel coredau ac argaeau rwystro mudo. Nid yw llysywod pendwll yn gallu neidio ac yn lle hynny bydd yn rhaid iddynt nofio neu ‘sugno’ eu ffordd dros rwystrau.

Mae hyn yn eu harafu ac yn gwastraffu egni gwerthfawr sydd ei angen arnynt wrth iddynt chwilio am ardaloedd bridio ymhellach i fyny'r afon.

Sut ydyn ni'n helpu llysywod pendwll y môr?

Mae prosiect Pedair Afon LIFE yn gweithio gyda sefydliadau partner, ffermwyr, tirfeddianwyr, cymunedau lleol a chontractwyr i helpu i adfer poblogaethau llysywod pendwll y môr.

Bydd y prosiect yn lleihau gormodedd o silt a gwaddod rhag mynd i mewn i afonydd trwy greu cynefin glan afon ac yn gwella prosesau naturiol mewn afonydd trwy gyflwyno graean a chlogfeini i greu cynefinoedd bridio pwysig.

Bydd y prosiect hefyd yn addasu neu'n cael gwared â chyfyngiadau fel coredau ac adeileddau eraill yn yr afonydd, a bydd hyn yn agor mynediad ymhellach i fyny'r afon i ardaloedd lle gall y llysywod pendwll bridio.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith, gallwch ein dilyn ar Facebook, X ac Instagram neu gallwch danysgrifio i'n cylchlythyr yma.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru