Diogelu dŵr a phridd gyda ffermio cynaliadwy

Mae gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i wella iechyd y dŵr a’r pridd ar y tir maen nhw’n ei reoli yn agwedd bwysig ar Brosiect Pedair Afon LIFE.
Mae’r rhain hefyd yn nodweddion allweddol o arferion ffermio cynaliadwy a gallant alluogi’r diwydiant ffermio i adfer a gwella’r amgylchedd naturiol a chyflwr ein hafonydd heb gyfaddawdu o ran cynhyrchiant neu broffidioldeb eu ffermydd.
Ysgrifennwyd y blog hwn mewn cydweithrediad â Lilwen Joynson, arweinydd Agrisgôp ar ran Cyswllt Ffermio, a bydd yn esbonio pwysigrwydd iechyd y dŵr a’r pridd a’r rôl hanfodol y mae arferion ffermio cynaliadwy a rhannu gwybodaeth yn y diwydiant ffermio yn ei chwarae.
Iechyd pridd a dŵr – dylanwad y naill ar y llall
Amcangyfrifir bod cost flynyddol dirywiad pridd yng Nghymru a Lloegr yn £1.2 biliwn, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd gan Brifysgol Cranfield yn 2015. Mae hyn yn bennaf gysylltiedig â cholli cynnwys organig o’r pridd, cywasgiad ac erydiad.
Mae pridd o ansawdd gwael yn arwain at ganlyniadau hirdymor i ffermydd o ran cynaliadwyedd, cynhyrchiant, proffidioldeb a’r amgylchedd.
Bydd pridd â strwythur da yn caniatáu i wreiddiau dyfu’n ddyfnach ac ymestyn yn ehangach, sy’n hanfodol er mwyn i blanhigion allu cyrraedd y dŵr a’r maethynnau sydd yn haenau dyfnach y pridd.
Mewn tywydd eithafol fel glaw trwm, mae’r gwreiddiau amrywiol yn helpu i ddal y pridd at ei gilydd a lleihau erydiad. Mewn cyfnodau o sychder, byddant yn dal eu gafael ar fwy o ddŵr am hirach, gan helpu i gadw planhigion yn fyw.
Nid yw’n beth da colli pridd o fferm am fod y pridd yn anadnewyddadwy a’r maethynnau’n werthfawr. Mae’r pridd a gollir hefyd yn cronni ar ffyrdd ac yn mynd i mewn i gyrsiau dŵr.
Gall dulliau rheoli pridd effeithio’n uniongyrchol ar ein hafonydd drwy achosi crynodiad maethynnau a gorchuddio’r graean ar wely afonydd. Mae hyn wedyn yn effeithio ar gylch bywyd llawer o’r rhywogaethau a geir yn ein nentydd a’n hafonydd.
Er enghraifft, mae angen graean glân sy’n cynnwys ocsigen ar eogiaid a brithyllod i silio. Rhaid i ddŵr basio trwy raean er mwyn i’r wyau allu anadlu, ond gall pridd a silt fygu’r wyau neu wneud graean yn anaddas ar gyfer silio.
Pwysau yn sgil y diwydiant ffermio
Fel mewn mannau eraill yn y DU, mae natur yng Nghymru dan bwysau. Mae dulliau rheoli tir amaethyddol wedi’u nodi fel y ffactor fwyaf arwyddocaol o ran y newid ym mhoblogaethau rhywogaethau yn y DU (Adroddiad ar Sefyllfa Byd Natur 2023).
Mae natur yn hanfodol i arferion ffermio, gan ei bod yn darparu adnoddau a phrosesau hanfodol fel cylchoedd maethynnau sy’n cefnogi gweithgareddau cynhyrchu bwyd ac sy’n cynyddu gwytnwch ffermydd.
Nod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gyhoeddwyd yn ddiweddar yw cefnogi dulliau o reoli’r tir yn gynaliadwy gan ganolbwyntio ar yr amcanion o sicrhau cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, a hyrwyddo mynediad i gefn gwlad a’r Gymraeg.
Bydd y cynllun yn cynnig cymorth i ffermwyr yng Nghymru i’w gwneud yn haws i ffermwyr gynhyrchu bwyd o safon uchel yn gynaliadwy ac mewn ffyrdd sy’n bodloni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fyd natur, i’r amgylchedd ac o ran newid hinsawdd.
Hyd nes y bydd y cynllun yn dechrau yn 2026, gall ‘ymweliadau rhannu gwybodaeth’ fod yn ffordd bwysig o ddysgu mwy am arferion ffermio cynaliadwy, gan ddangos nad oes rhaid i gynhyrchiant ffermydd fod ar draul yr amgylchedd neu nad oes rhaid i gyflawni dros yr amgylchedd fod ar draul cynhyrchiant ffermydd.
Pwysigrwydd rhannu gwybodaeth
Ar ddechrau’r flwyddyn hon trefnwyd ymweliad rhannu gwybodaeth i Iwerddon ar gyfer grŵp Agrisgôp Cyswllt Ffermio gan Lilwen Joynson a phrosiect Pedair Afon LIFE. Roedd y grŵp (gweler llun isod) yn gasgliad o ffermwyr o bob cwr o Gymru a ddaeth at ei gilydd i ddysgu mwy am ffermio cynaliadwy ac arferion ffermio biolegol.
Roedd yr ymweliad yn canolbwyntio ar ddangos sut gall ffermio cynaliadwy ddiogelu a gwella’r amgylchedd naturiol ac ar yr un pryd wella cynhyrchiant a phroffidioldeb ffermydd.
Dechreuodd gydag egwyddorion dulliau da ar gyfer rheoli pridd a fydd yn gwella gallu’r tir i amsugno maethynnau a dŵr, gan sicrhau bod mwy yn aros yn y tir ac allan o’n hafonydd, gan gadw ein hafonydd yn iachach.
Rheoli tir yn gynaliadwy ar lawr gwlad
I weld hyn ar waith ac i ddysgu mwy, ymwelodd y grŵp â nifer o ffermydd yn Iwerddon yn ystod eu hymweliad tri diwrnod.
Gellid disgrifio’r ffermwyr Gwyddelig fel ffermwyr confensiynol neu ddwys yn wreiddiol, a oedd yn dibynnu ar ddefnydd trwm o wrtaith cemegol a phlaladdwyr, yn plannu cnydau unigol dros ardaloedd mawr ac yn trin y tir yn ddwys.
Dros y 10 mlynedd diwethaf mae’r ffermwyr hyn wedi newid eu harferion yn raddol, ac er iddynt ffeindio’r newid cychwynnol i ffermio cynaliadwy yn heriol, maen nhw bellach yn gweld manteision ariannol sylweddol i’w busnes ffermio.
Mae Kevin O’Hanlon o Ballywilliam Enniscorthy, Swydd Wexford, yn rheoli fferm laeth organig a biolegol. Mae’n ffermio 320 erw, a’i nod hirdymor yw bod yn fferm laeth sy’n defnyddio dim ond glaswellt fel porthiant, heb fwydo dim grawn na dwysfwyd.
Mae wedi bod yn tyfu cymysgedd o bys, ceirch, haidd, gwenith a ffa ac o dan y rhain mae llystyfiant aml-rywogaeth neu silwair meillion coch wedi’u hau. Yna caiff hyn ei gynaeafu 14 wythnos yn ddiweddarach ar gyfer y pwll silwair ac i fod yn borthiant ychwanegol i’r gwartheg dros y gaeaf.
Y fantais o hau’r llystyfiant aml-rywogaeth neu’r silwair meillion coch ar yr un pryd â’r cnydau o rawnfwyd yw bod hynny’n helpu i atal chwyn rhag tyfu ac yn sicrhau amrywiaeth yn hyd y gwreiddiau. Mae hyn yn helpu i wella strwythur ac iechyd y pridd.
Yn 2024 darganfu Kevin 41 o rywogaethau o blanhigion glaswellt, planhigion blodeuol a chodlysiau yn ei borfeydd, o gymharu â’r fferm laeth nodweddiadol ble ceir dim ond pedair rhywogaeth weithiau, er enghraifft rhygwellt a meillion coch a gwyn.
Mae’r amrywiaeth hon o rywogaethau yn cynyddu agregiad y pridd a maint y mandyllau, gan gynyddu ymdreiddiad dŵr sydd, yn ei dro, yn gwella helaethrwydd ac amrywiaeth y bywyd yn y pridd, argaeledd maethynnau a thyfiant planhigion. Mae hyn yn gwella iechyd y pridd ac yn lleihau’r angen i brynu gwrtaith i mewn. Y flwyddyn nesaf ei nod yw ail-hadu gyda mwy o godlysiau naturiol.
Yr allwedd i bori cynaliadwy yw caniatáu cyfnodau gorffwys hirach i’r borfa neu’r cae. Weithiau gelwir hyn yn bori Aml-Borfa Addasol (ABA) neu’n bori a gorffwys.
Mae Kevin yn defnyddio pori ABA ac yn symud y gwartheg ymlaen bob dydd (yn dibynnu ar y tywydd). Mae hyn yn caniatáu cyfnod gorffwys o hyd at 80 diwrnod, o gymharu â’r 35 diwrnod a roddir mewn system pori cylchdro. Mae hyn yn rhoi mwy o amser i’r glaswellt ymadfer gan ganiatáu i arwynebedd dail y glaswellt gynyddu eto, i hadau ffurfio ac i’r glaswellt gronni egni wrth gefn.
Mae Kevin wedi sylwi ar welliannau sylweddol i iechyd y gwartheg ac i oroesiad y glaswellt o ganlyniad i’r newidiadau hyn. Mae’r gwartheg yn byw yn hirach ac yn iachach, a’r glaswellt mewn gwell cyflwr ac yn gallu ymdopi â thywydd eithafol.
Mae’r pridd wedi gwella’n ddramatig am fod y glaswellt yn hirach ac yn fwy cydnerth, gydag amodau’r tir yn well a llai o ddifrod i’r pridd yn sgil symudiad gwartheg.
Mae hyn yn galluogi Kevin i adael y gwartheg allan i bori yn hirach i mewn i fisoedd y gaeaf, sy’n golygu bod llai o fwyd yn cael ei brynu i mewn a llai o arian yn cael ei wario. Mae’r ffordd hon o reoli hefyd yn golygu gofynion is o ran llafur, costau amrywiol is a system ffermio symlach yn gyffredinol.
Y camau nesaf i’r grŵp
Yn sgil yr ymweliad roedd yn amlwg bod gwella’r pridd drwy gyfrwng llai o fewnbynnau a newidiadau i arferion ffermio yn heriau anodd, ond mae’n rhywbeth yr oedd ffermwyr Iwerddon a Chymru yn agored iddo ac yn awyddus i’w drafod a’i roi ar waith ymhellach.
Mae yna nifer o fanteision amrywiol i ffermio cynaliadwy, a hynny i ffermwyr, i’r amgylchedd naturiol ac i fywyd gwyllt.
Trwy weithio gyda’n gilydd i reoli’r tir mewn ffordd gynaliadwy, gallwn gynnal a gwella’r gwasanaethau y mae natur yn eu rhoi i ni.
Bydd hyn yn paratoi’r ffordd ar gyfer diwydiant ffermio cynaliadwy a manteision cysylltiedig eraill, er enghraifft bywyd gwyllt yn ffynnu ac afonydd o ansawdd gwell.
Mae Cynhadledd Geltaidd wedi’i chynllunio ar gyfer mis Hydref ble bydd ffermwyr ac arbenigwyr o’r naill ochr i Fôr Iwerddon yn cwrdd eto i drafod ffermio cynaliadwy a’r newidiadau ymarferol sydd wedi’u gwneud gan ffermwyr Cymru ers yr ymweliad cyntaf.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith gallwch ein dilyn ar Facebook, X (Twitter gynt) ac Instagram neu gallwch danysgrifio i’n cylchlythyr yma.