Defnyddio’r Dull STAR wrth wneud cais am swydd
Y dull STAR
- sefyllfa - y sefyllfa y bu'n rhaid i chi ddelio â hi
- tasg - y dasg a roddwyd i chi i’w chyflawni
- gweithredu - y camau a gymerwyd gennych
- canlyniad - beth ddigwyddodd o ganlyniad i'ch gweithred a'r hyn a ddysgodd y profiad hwn i chi
Sut i ddefnyddio STAR
Gallwch ddefnyddio'r dull STAR i strwythuro'r enghreifftiau yr ydych yn eu rhoi wrth ateb cwestiynau. Gallwch ei ddefnyddio i amlygu sgiliau a rhinweddau sydd gennych yr ydym yn chwilio amdanynt.
Wrth ddefnyddio STAR, cofiwch:
- gallwch ddefnyddio enghreifftiau o’ch gwaith, o’ch cartref neu o waith gwirfoddol
- cadwch yr enghreifftiau’n fyr a pherthnasol
- byddwch yn barod i ateb cwestiynau dilynol am yr enghreifftiau y byddwch yn eu rhoi
Enghraifft
Disgrifiwch amser pan wnaethoch arddangos sgiliau arweinyddiaeth:
Sefyllfa - yn fy swydd farchnata ddigidol flaenorol, roedd y cwmni eisiau cael mwy o bobl i gofrestru ar gyfer cylchlythyr nad oedd yn cael llawer o sylw.
Tasg - fy ngwaith i oedd dod o hyd i ffordd o gael mwy o bobl i gofrestru.
Gweithredu - Trefnais gyfarfod gydag aelodau pwysig eraill y tîm marchnata er mwyn meddwl am syniadau creadigol, ac arweiniais yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i ennyn diddordeb yn y cylchlythyr ar ei newydd wedd.
Canlyniad - dros gyfnod o 3 mis, bu cynnydd o 25% yn y nifer a gofrestrodd ar gyfer y cylchlythyr a chafodd y dull a ddefnyddiais i ei ddefnyddio gan y tîm rheoli mewn adrannau eraill.