Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Modelu Ansawdd Dŵr

Dyddiad cau: 27/04/2025 | Cyflog: Gradd 7 £45,367 - £50,877 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Polisi Ansawdd Dŵr / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)

Rhif swydd: 203863

Y rôl

Fel Cynghorydd Arbenigol Arweiniol Modelu Ansawdd Dŵr, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth lunio dyfodol rheoli ansawdd dŵr o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Byddwch yn darparu cyngor a gwybodaeth arbenigol i lywio datblygiad polisïau, rhaglenni, cynlluniau, strategaethau a chanllawiau ansawdd dŵr CNC. Drwy droi polisïau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ddulliau gweithredu ymarferol, byddwch yn cyfrannu’n uniongyrchol at ganlyniadau effeithiol sy’n hybu ansawdd dŵr ledled Cymru.

Yn y rôl hon, byddwch yn arwain y gwaith o nodi anghenion modelu ansawdd dŵr CNC, gan ddatblygu rhaglen wedi’i blaenoriaethu i sicrhau y darperir yr offer, y canllawiau, y wybodaeth a’r capasiti sydd eu hangen ar gyfer asesiadau technegol. Bydd yr asesiadau hyn yn hollbwysig wrth gyflawni amcanion a chanlyniadau ansawdd dŵr allweddol. Bydd eich arweinyddiaeth yn allweddol i sicrhau bod rhaglen fodelu ansawdd dŵr CNC yn cael ei chyflawni, gan weithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws gwahanol dimau o fewn CNC, yn ogystal â rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, cwmnïau dŵr, a chynrychiolwyr sector eraill.

Mae'r rôl hon yn cynnig y cyfle i fod yn ddylanwadwr allweddol wrth lunio'r dirwedd ansawdd dŵr, gan ddarparu cyswllt hanfodol rhwng polisi a gweithrediad ymarferol. Byddwch yn ymuno â'r Tîm Polisi Ansawdd Dŵr, sy'n rhan o'r Grŵp Dŵr a Natur o fewn yr isadran Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol. Mae'r tîm yn gweithio'n hyblyg ac ar y cyd ledled Cymru, gyda threfniadau gweithio hybrid ar waith i sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith swyddfa a gwaith o bell.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Geraint Weber at geraint.weber@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Gosod y dull strategol o fodelu ansawdd dŵr yn CNC, ac mewn perthynas â hyn arwain at ddatblygu a darparu cyngor ac arweiniad, fel bod penderfyniadau cynllunio rheoleiddio ac ansawdd dŵr CNC yn gadarn ac yn cael eu gweithredu'n gyson.
  • Cadw perchnogaeth a goruchwyliaeth o'r maes polisi dŵr er mwyn sicrhau uniondeb dulliau CNC gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Ganolog a bwriad Polisi'r UE.
  • Arwain ar y gofynion ar gyfer modelau a chynlluniau ansawdd dŵr, a'u comisiynu, gan weithredu hefyd fel y cleient deallus ar gyfer yr asesiadau hyn fel y bo'n briodol.
  • Darparu cyngor statudol i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru a'r DU fel y bo'n briodol.
  • Darparu a / neu gomisiynu archwiliadau ar gyfer gwerthuso modelau.
  • Arwain a rheoli prosiect ar faterion penodol a chymhleth, gan gynnwys cymorth ar waith achos sy'n newydd, yn ddadleuol neu sydd o ddiddordeb cyhoeddus mawr mewn perthynas â'n dull o fodelu effeithiau ansawdd dŵr.
  • Sicrhau cyswllt priodol ag Asiantaeth yr Amgylchedd, sefydliadau academaidd ac arbenigwyr modelu WQ eraill yng Nghymru a'r DU i hyrwyddo cysondeb lle bo angen mewn dalgylchoedd trawsffiniol, datblygu arfer gorau a chynnal arbenigedd drwy dyfu rhwydwaith proffesiynol.
  • Cynghori ar anghenion a chyfleoedd tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Cynnal a gwella eich gwybodaeth a'ch profiad helaeth mewn modelu ansawdd dŵr ac egwyddorion a chymhwyso modelu ansawdd dŵr at ddibenion rheoleiddio a chynllunio. Hefyd, cynnal gwybodaeth weithredol o fodelu ansawdd dŵr yn y diwydiant dŵr a sectorau eraill.
  • Cefnogi datblygu offer a gweithdrefnau i hwyluso dadansoddi a phrosesu data gan alluogi dehongli ac adrodd ar ddata amgylcheddol a throi data yn dystiolaeth sy'n berthnasol yn lleol.
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

 1. Gwybodaeth o’r canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n ymwneud ag ansawdd dŵr a rheoleiddio amgylcheddol; gyrwyr polisi Llywodraethau Cymru a'r DU a’r UE o ran ansawdd dŵr fel y nodir yn Strategaeth Dŵr Llywodraeth Cymru; a'r materion a'r cyfleoedd yng Nghymru. 
2. Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o'r amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chyflawni polisi ac amcanion ansawdd dŵr yn ogystal â gweithio gyda'r rhai sy'n elwa o ymyriadau ledled Cymru.
3. Gwybodaeth sylweddol a phrofiad blaenorol o ddatblygu a chymhwyso pob agwedd ar fodelu ansawdd dŵr ac egwyddorion a chymhwyso modelu WQ at ddibenion rheoleiddio a chynllunio WQ.
4. Yn gallu datblygu/gwerthuso gwybodaeth a data technegol cymhleth i ystod o gynulleidfaoedd, o fedrusrwydd technegol i rai nad ydynt yn dechnegol.  
5. Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau ym maes Rheoli Prosiectau. 
6. Cynrychioli'r sefydliad gyda materion proffil uchel a dadleuol yn yr arena gyhoeddus.

 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf