Arbenigwr Atebion Seiliedig ar Natur

Dyddiad cau: 01/04/2025 | Cyflog: Gradd 7 £45,367 - £50,877 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i <frig y raddfa> fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol tan​ 01/04/2026

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Rhif swydd: 203805

Y rôl

Ydych chi’n barod i gael effaith drawsnewidiol ar y sector Atebion Seiliedig ar Natur? Fel ein Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, byddwch ar flaen y gad o ran llunio a dylanwadu ar bolisïau’r Llywodraeth, strategaethau sefydliadol yng Nghymru, ac agendâu rhanddeiliaid. Mae’r rôl ganolog hon yn cynnig y cyfle i arwain ac ysbrydoli’r sefydliad ehangach gyda’ch arbenigedd proffesiynol, gan sicrhau bod dulliau arloesol ac arferion gorau yn gyrru cynnydd yn y maes hwn sy’n datblygu’n gyflym.

Yn y rôl hon, byddwch yn:

  • Arwain ar y gwaith o ddatblygu dulliau amgen i reoleiddio, gan nodi a gweithredu datrysiadau creadigol ar gyfer heriau cymhleth.
  • Siapio a mireinio fframweithiau rheoleiddio amgen sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau amgylcheddol sy’n dod i’r amlwg.
  • Gyrru’r gwaith o wella prosesau gwasanaethau trwyddedu, gan sicrhau eu bod yn effeithlon, yn effeithiol ac yn flaengar.
  • Hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus, gan ymgorffori methodolegau arloesol i gefnogi canlyniadau cynaliadwy.
  • Rhoi modelau risg rheoleiddiol ar waith i lywio penderfyniadau a chefnogi blaenoriaethau strategol.

Dyma’ch cyfle chi i gymryd rôl arweiniol mewn sefydliad sydd wedi ymrwymo i sicrhau newid dylanwadol ar yr amgylchedd a chenedlaethaur dyfodol. Os ydych yn arbenigwr brwd yn y maes, yn angerddol dros arloesi a datrysiadau cynaliadwy, rydym am glywed oddi wrthoch chi.

Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Eleanor Ellick.

eleanor.ellick@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n  cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Mae’n bosibl y bydd angen gwiriadau fetio gan ddibynnu ar y rôl. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 6 wythnos i'r dyddiad cau.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Cynorthwyo neu arwain ar brosiectau cenedlaethol a strategol i gyflawni atebion integredig wedi’u cynllunio a’u rheoli’n dda sy’n ysgogi a chynyddu newid a gwelliant effeithiol yn CNC ac ar gyfer busnes ledled Cymru.
  • Datblygu a chynnal gwybodaeth am brosesau rheoleiddio mewn perthynas â chynllun gwaith y tîm
  • Yn unol â'n hegwyddorion rheoleiddio, arwain a chefnogi’r Timau i weithio i wella, symleiddio a gweithredu dulliau rheoleiddio CNC i gyflawni'r ystod o ganlyniadau a geisiwn yn y sector Atebion Seiliedig ar Natu
  • Ymgysylltu ag arbenigwyr eraill i sicrhau bod yr ystod lawn o ofynion rheoleiddiol yn cael eu hystyried a cheisio mewnbwn gan randdeiliaid mewnol ac allanol gan gynnwys Llywodraeth Cymru
  • Arwain ar ddatblygu canllawiau mewnol ac allanol
  • Arwain ar fentora a hyfforddi staff ar draws CNC i sicrhau bod gennym ddigon o gydnerthedd technegol a deddfwriaethol ar draws y sefydliad i reoleiddio'n effeithiol yr ystod lawn o Atebion Seiliedig ar Natur cyfredol a'r rhai sy'n cael eu datblygu.
  • Arwain ar ddarparu cyngor technegol i'r grŵp gwlyptiroedd adeiledig ar ddylunio, defnydd posibl a gweithredu datblygiadau yn effeithiol.
  • Sicrhau bod dulliau gwella parhaus yn cael eu defnyddio yn y meysydd gwaith y mae'r tîm yn ymgymryd â nhw.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Dealltwriaeth dechnegol ragorol o ystod o Atebion Seiliedig ar Natur ym maes rheoli maethynnau, gyda sgiliau dadansoddi cryf a phrofiad o reoli rhaglenni yn llwyddiannus – a gafwyd trwy brofiad o waith sylweddol mewn maes cysylltiedig. 
  2. Gallu gweithio’n gyflym a meddu ar brofiad cydnabyddedig o gyflawni.
  3. Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE yn ogystal â gyrwyr polisi Cymru a Llywodraeth y DU sy’n berthnasol i reoli maethynnau ac atebion sy’n seiliedig ar natur.
  4. Profiad o hysbysu a dylanwadu ar adrannau/rheoleiddwyr y llywodraeth.
  5. Profiad o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid/rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gyflawni canlyniadau swyddogaeth/prosiect/tîm penodol a’r sefydliad ehangach.
  6. Profiad o ddeall a chymhwyso egwyddorion rheoleiddio.
  7. Profiad o ddatblygu canllawiau a hyfforddiant cysylltiedig.
  8. Bod yn arloesol a dangos cymhelliant i gyrraedd targedau.
  9. Bydd disgwyl i chi fod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf mewn polisi rheoleiddio a newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth drwy fod yn aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu mewn modd arall cyfatebol.

Gofynion y Gymraeg

  •        Hanfodol: A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Diweddarwyd ddiwethaf