Uwch Gynghorydd Rhywogaethau Gwarchodedig

Dyddiad cau: 13/04/2025 | Cyflog: Gradd 6 £41,132 -  £44,988 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Rhywogaethau Gwarchodedig / Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £41,122 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).

Math o gytundeb: Penodiad cyfnod penodol (12 mis o ddyddiad y penodiad, gyda phosibilrwydd o estyniad)

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos  (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)

Rhif swydd: 203768

Y rôl

Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â’n Tîm Rhywogaethau a Warchodir sy’n gweithio ledled Cymru, yn ein Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm sy’n cynghori ar effeithiau posibl croestoriad eang o gynigion ar rywogaethau gwarchodedig, gan ganolbwyntio’n benodol ar geisiadau am drwyddedau rhywogaethau a chyngor ar gynlluniau datblygu. Ar adeg o argyfwng o ran yr hinsawdd a byd natur, bydd y cyngor a ddarparwch yn cyfrannu’n uniongyrchol at warchod rhai o rywogaethau mwyaf eiconig a bregus Cymru.

Bydd deiliad y swydd yn arwain ar arbenigedd ac arweiniad proffesiynol a thechnegol i gwsmeriaid mewnol ac allanol mewn perthynas â’r rhywogaethau anifeiliaid canlynol a warchodir gan y gyfraith: Ystlumod (pob rhywogaeth), Dyfrgwn, Madfallod Dŵr Cribog, Pathewod, Llyffantod y Twyni, Madfallod y Tywod, Gwiwerod Coch, Beleod y Coed a Llygod Pengrwn y Dŵr, a bydd yn chwarae rhan hanfodol yn darparu cefnogaeth a chyngor i aelodau eraill y tîm. 

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a hyblyg sy’n frwd dros yr amgylchedd i ymuno â’n tîm; chwaraewr tîm trefnus sydd â sgiliau pobl ardderchog.

Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos profiad o ran ecoleg, cadwraeth ac egwyddorion lliniaru ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau gwarchodedig gan gynnwys ystlumod, madfallod dŵr cribog, pathewod a dyfrgwn, sgiliau cyfathrebu da a gallu i reoli cwsmeriaid.
Bydd yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a gyda chwsmeriaid allanol.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Jane Garner, jane.garner@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd cyfweliadau wyneb yn wyneb (rhannir manylion amser a lleoliad ymlaen llaw)​. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Goruchwylio a chynnig sicrwydd technegol ar gyfer mewnbwn timau i Gynlluniau Datblygu Lleol a strategaethau a chynlluniau isranbarthol eraill gan sicrhau bod y cyngor yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei ddarparu o fewn amserlenni.
  • Cynnig cyngor ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol neu waith achos / ymgynghoriadau ar Drwyddedau Rhywogaethau sy’n gymhleth ac uchel eu risg, gan sicrhau bod y cyngor yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei gyflwyno o fewn amserlenni.
  • Cyfrannu barn a chymorth proffesiynol at y broses o wneud penderfyniadau mewn perthynas â gwaith achos / ymgynghoriadau ar Drwyddedau Rhywogaethau sy’n strategol a chymhleth ac a reolir gan aelodau eraill o’r tîm.
  • Cyfrannu at baratoi gwybodaeth mewn perthynas â heriau i gyngor datblygu neu benderfyniadau trwyddedu CNC, gan gynnwys mynd i Apeliadau ac Ymchwiliadau.
  • Cynnig cyngor i gefnogi’r gwaith o reoli safleoedd dynodedig lle bo Rhywogaethau Gwarchodedig yn bresennol.
  • Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu polisi/proses a chanllawiau CNC a chynghori ynghylch gweithrediad effeithiol yn y tîm i sicrhau bod dull cyson ac effeithiol yn cael ei gynnal.    
  • Datblygu a chynnal cysylltiadau effeithiol â chwsmeriaid (mewnol ac allanol) i sicrhau dealltwriaeth dda a darpariaeth effeithlon o wasanaeth cynghori sy’n addas i’r diben.
  • Mentora, hyfforddi ac annog aelodau eraill o’r tîm a’r Gwasanaeth Cynllunio ehangach ar bolisïau, gweithdrefnau, arferion a thechnegau gan roi’r wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen arnynt i gyflawni eu gwaith mewn modd effeithiol, cyson ac effeithlon.
  • Cyfrannu cyngor ar gyfer gwaith cynllunio lleoedd amlswyddogaethol, er enghraifft Datganiadau Ardal a chynlluniau a rhaglenni gwytnwch bioamrywiaeth.
  • Cyfrannu at ddatblygiad cynllun gwaith y tîm.
  • Sicrhau datblygiad technegol aelodau’r tîm.
  • Darparu gallu technegol fel tyst arbenigol ar gyfer Apeliadau ac Ymchwiliadau ar faterion yn ymwneud â Rhywogaethau Gwarchodedig sydd o fewn cylch gwaith y tîm.
  • Cynnig cymorth gyda chyngor technegol i’r Heddlu wrth ymchwilio i droseddau mewn perthynas â Rhywogaethau Gwarchodedig a chyfrannu at weithgareddau cydymffurfio ehangach o ran Rhywogaethau Gwarchodedig fel y bo’n briodol.
  • Cyfrannu at bennu/comisiynu rhaglenni tystiolaeth/gwyliadwriaeth a monitro.
  • Cyfrannu at gyflawni rhaglenni gwyliadwriaeth a monitro.
  • Llunio cofnodion y gellir eu harchwilio o weithredoedd a chanlyniadau i gyfiawnhau a dangos bod yr holl ofynion cyfreithiol a gweithdrefnol wedi’u bodloni.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth a phrofiad rhagorol o ecoleg a chadwraeth, a dulliau lliniaru sy'n addas ar gyfer yr amrywiaeth o rywogaethau y mae'r tîm yn gyfrifol amdanynt.
  2. Dealltwriaeth ragorol o fframweithiau deddfwriaethol a rheoleiddiol sy'n ymwneud â rhywogaethau gwarchodedig, a’r gwaith o’u gwarchod a'u gwella.
  3.  Profiad helaeth o ystyried rhywogaethau a warchodir mewn datblygiadau a chynlluniau cymhleth
  4.  Gallu cyfathrebu a thrafod yn effeithiol gyda rhanddeiliaid ar bob lefel reoli.
  5. Sgiliau hyfforddi a mentora.
  6. Gallu gyrru car yn gyfreithlon yn y DU.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 
  • Dymunol:  Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf