Arbenigwr Polisi Rhywogaethau Daearol
Dyddiad cau: 13/04/2025 | Cyflog: Gradd 7 £45,367 - £50,877 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Ecosystemau a Rhywogaethau Daearol / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £45,367
Math o gytundeb: Cyfnod Penodol hyd am 12 mis gyda'r posibilrwydd o estyniad.
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Rhif swydd: 203766
Y rôl
Bydd y rôl ganolog hon yn eich gosod chi fel yr arweinydd arbenigol ar bolisi rhywogaethau daearol, gyda ffocws allweddol ar gadwraeth a gwarchodaeth gyfreithiol ar gyfer ein rhywogaethau mwyaf bregus. Fel Prif Gynghorydd Arbenigol Polisi Rhywogaethau Daearol, byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu polisïau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar rywogaethau a warchodir, ochr yn ochr â chreu canllawiau technegol, cynlluniau strategol, a strategaethau gweithredu.
Yn rhinwedd y swydd hon, byddwch yn chwarae rhan hollbwysig wrth drosi polisïau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn atebion effeithiol y gellir eu gweithredu, gan sicrhau bod y polisïau hyn yn cael eu rhoi ar waith yn llwyddiannus. Bydd eich gwaith yn hybu dulliau newydd o wella prosesau mewnol ac yn rhoi cyngor arbenigol i dimau mewnol a rhanddeiliaid allanol ar faterion yn ymwneud â rhywogaethau a warchodir.
Byddwch yn cydweithio'n agos â chydweithwyr ar draws timau amrywiol, gan gynnwys gyda thimau Dulliau Rheoleiddio a Rhywogaethau Gweithrediadau, yn ogystal â swyddogion y llywodraeth a chynrychiolwyr y sector. Mae'r rôl ddeinamig, draws-swyddogaethol hon yn gofyn am ddealltwriaeth ddofn o rywogaethau a warchodir, y gallu i ddatblygu cyngor technegol clir y gellir ei weithredu, a'r sgil i integreiddio mewnbwn arbenigol gan arbenigwyr rhywogaethau a rheoleiddio CNC.
Os ydych yn frwd dros warchod bioamrywiaeth ac eisiau cael effaith bendant ar warchod treftadaeth naturiol unigryw Cymru, mae hwn yn gyfle cyffrous i lunio polisi sydd ar flaen y gad o ran diogelu’r amgylchedd.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Liz Halliwell.
liz.halliwell@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain a rheoli materion penodol a chymhleth sy’n gofyn am ddatblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni CNC.
- Rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru a'r DU fel y bo'n briodol, ac adolygu dilynol a chynghori ynghylch y polisi, cynlluniau a strategaethau a gynhyrchwyd.
- Cadw perchnogaeth a goruchwyliaeth o faes polisi rhywogaethau daearol er mwyn sicrhau uniondeb dulliau CNC gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Ganolog a bwriad Polisi'r UE.
- Cynghori ar anghenion a chyfleoedd tystiolaeth, comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth cytunedig yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl o’r meysydd arbenigol technegol gan nodi goblygiadau newidiadau deddfwriaethol, technoleg a’r farchnad i Cyfoeth Naturiol Cymru a’r sector(au).
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.
- Llywio'r oruchwyliaeth a’r berchnogaeth o waith ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y meysydd polisi penodol sy'n gysylltiedig â rhywogaethau daearol.
- Rhannu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi pob Pennaeth Busnes yn yr adran Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl y galw
- Asesu’r angen am welliannau mewn rheoleiddio a phrosesau trwyddedu gan CNC.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
1. Gwybodaeth o’r canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n ymwneud â bioamrywiaeth; gyrwyr polisi Llywodraeth Cymru a'r DU sy’n ymwneud â bioamrywiaeth; a'r materion a'r cyfleoedd yng Nghymru.
2. Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o'r ystod o bartneriaid a rhanddeiliaid sy'n ymwneud â bioamrywiaeth yng Nghymru.
3. Gwybodaeth dechnegol arbenigol yn ymwneud â rhywogaethau daearol, gyda ffocws ar rywogaethau a warchodir a'u technegau cadwraeth a rheoli.
4. Profiad o’r canlynol: Dealltwriaeth fanwl o'r maes arbenigol technegol perthnasol a'r ystod gymhleth o yrwyr a rhwystrau i gyflawni.
5. Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau ym maes Rheoli Prosiectau.
6. Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol a/neu'n gweithio tuag at ddod yn aelod.
7. Cynrychioli'r sefydliad gyda materion proffil uchel a dadleuol yn yr arena gyhoeddus.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.