Uwch gynllunydd, Amgylchedd Dŵr Croyw

Dyddiad cau: 27/04/2025 | Cyflog: Gradd 6 £41,132 - £44,988 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Tymor penodol hyd at to 31/12/2026  

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad) 

Rhif swydd: 203750

Y rôl

Fel Uwch Gynllunydd o fewn y Tîm Polisi Ansawdd Dŵr, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth ddarparu arweiniad arbenigol a modelau ansawdd dŵr arloesol i gefnogi’r gwaith o gyflawni rhaglenni buddsoddi cwmnïau dŵr yn llwyddiannus. Bydd eich arbenigedd technegol yn llywio datblygiad polisïau, rhaglenni, cynlluniau, strategaethau a chanllawiau allweddol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn uniongyrchol. Mae hwn yn gyfle gwych i lunio a dylanwadu ar safonau ansawdd dŵr wrth gydweithio ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys cydweithwyr o bob rhan o’r adrannau Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu (EPP) a Gweithrediadau, swyddogion o Lywodraeth Cymru, cwmnïau dŵr, a chynrychiolwyr y sector.

Yn y rôl hon, byddwch yn arwain drwy nodi blaenoriaethau modelu ansawdd dŵr ac yn arwain y gwaith o gyflawni asesiadau technegol. Bydd eich gwaith yn rhan annatod o lywio penderfyniadau polisi a thrwyddedu ynghylch gollyngiadau cwmnïau dŵr, gan sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu rheoli'n gynaliadwy.

Byddwch yn rhan o'r Tîm Polisi Ansawdd Dŵr o fewn y Grŵp Dŵr a Natur, uned allweddol o fewn yr adran Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol. Er bod eich tîm ar wasgar ledled Cymru, byddwch yn mwynhau hyblygrwydd trefniadau gweithio hybrid, gan gydbwyso’r cyfle i gydweithio’n bersonol ag opsiynau gweithio o bell sy’n addas i’ch ffordd o fyw.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Geraint Weber.

geraint.weber@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Paratoi asesiadau technegol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth a data cymhleth.
  • Rheoli’r gwaith o baratoi deunydd i lywio datblygiad dogfennau polisi, cyngor ac arweiniad statudol CNC, LlC a phartneriaid eraill; rheoli datblygiad gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain y gwaith o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio.
  • Cydgysylltu â rhanddeilaid allanol fel Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr sector a phartneriaid i sicrhau bod rhwymedigaethau prosiectau, polisïau neu strategaethau yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol.
  • Cynghori ar anghenion a chyfleoedd tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth, yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Cefnogi ymgysylltu â sectorau, partneriaid, Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, SEPA a NIEA a chyrff amgylcheddol eraill yn y DU; a bod yn bwynt cyswllt arweiniol ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid.
  • Cynnal gwybodaeth am y sector(au) penodedig gan nodi goblygiadau newidiadau o ran deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad i Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector(au).
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.
  • Cydweithio â'r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chyflwyno Cynllun Datblygu Personol y cytunwyd arno.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth o’r canlynol: deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n ymwneud â’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr; gyrwyr polisi Llywodraeth Cymru a'r DU sy’n ymwneud â’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr; a'r materion a'r cyfleoedd yng Nghymru.
  2. Profiad o: ddadansoddi technegol a dehongli ystod o wybodaeth a data amgylcheddol a dadansoddi setiau data mawr.
  3. Gweithio gyda/o fewn cwmnïau dŵr, awdurdodau lleol, cyrff anllywodraethol a Pharciau Cenedlaethol.
  4. Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau ym maes Rheoli Prosiectau.
  5. Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol megis CIWEM a/neu'n gweithio tuag at ddod yn aelod.
  6. Rhannu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi'r holl Benaethiaid Busnes yn yr adran Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl y galw.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf