Cynghorydd Coedwigaeth Arbenigol
Dyddiad cau: 27/04/2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg yng Ngogledd Cymru
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Cyfarwyddiaeth Datblygu Masnachol / Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol
Cyflog cychwynnol: £41,132
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: 37 awr yr wythnos
Dyddiad cyfweld: 29/05/2025
Rhif swydd: 203734
Y rôl
Bydd yr Ymgynghorydd Coedwigaeth Arbenigol yn gyfrifol am ddatblygu a darparu gwasanaethau coedwigaeth, gyda ffocws arbennig ar brosiectau ynni adnewyddadwy. Mae’r rôl yn cynnwys darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i Reolwyr Rhaglen, Rheolwyr Prosiect, a Datblygwyr o fewn y Timau Datblygu Masnachol a Chyflenwi Masnachol i gefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau masnachol cymhleth ar yr Ystâd a Reolir gan CNC.
Fel arbenigwr technegol, bydd deiliad y swydd yn arwain ar gynghori ar draws amrywiol raglenni a phrosiectau a bydd hefyd yn arwain ar brosiectau masnachol risg is penodol. Bydd cydweithio’n hanfodol, gan weithio’n agos gyda thimau seiliedig ar Le, y Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau, Stiwardiaeth Tir, y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, ac o bryd i’w gilydd y timau Gwerthu a Marchnata Pren i sicrhau dilyniant llwyddiannus mentrau sy’n ymwneud â choedwigaeth.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â James Laing ar james.laing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Gweithredu fel arweinydd technegol i ddarparu gwasanaeth coedwigaeth effeithiol.
- Ymgymryd â gwaith ar droed, asesu, monitro a goruchwylio gweithrediadau coedwigaeth (e.e. clirio coed) ar y safle gan gyfathrebu'n rheolaidd â Rheolwyr a Datblygwyr Prosiectau a nodi risgiau a materion.
- Adolygu, dadansoddi a dehongli gwybodaeth gymhleth a darparu cyngor amserol ar faterion coedwigaeth fel prisiadau.
- Caffael adnodd contract coedwigaeth a rheoli adnoddau contract fel y bo angen.
- Cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau gwaith tîm a gweithredu unrhyw gamau y cytunwyd arnynt er mwyn cyfrannu at hwyluso prosiectau masnachol.
- Cyfrannu at grwpiau technegol/strategol Cyfoeth Naturiol Cymru gan sicrhau bod polisïau a gwaith cyflenwi yn gyson a phriodol.
- Dylanwadu ar waith eraill trwy gynrychiolaeth mewn digwyddiadau tîm a datblygwyr a meithrin a chynnal cydberthnasau a llinellau cyfathrebu.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gradd mewn coedwigaeth neu bwnc cysylltiedig a/neu brofiad perthnasol o reoli coedwigoedd a gweithio tuag at aelodaeth broffesiynol.
- Gwybodaeth a phrofiad helaeth o bob agwedd ar arferion coedwigoedd, gan gynnwys cynllunio coedwigoedd a gweithrediadau coedwigoedd, stocrestr coedwigaeth, prisio cnydau coed a Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig.
- Sgiliau ysgrifenedig a chyfathrebu llafar da.
- Sgiliau rhyngbersonol da, sgiliau gwaith tîm a’r gallu i ymdrin â phobl ar bob lefel yn briodol.
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol gyda Datblygwyr, gan egluro materion cymhleth a sicrhau cefnogaeth drwy ddylanwadu.
- Y gallu i gymell eich hun a gweithio ar eich pen eich hun.
- Trwydded yrru lawn.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A1 - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon