Dyddiad cau: 17/04/2025 | Cyflog: Gradd 6 £41,132 - £44,988 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu / Ecosystemau a Rhywogaethau Daearol

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)

Rhif swydd: 203687

Y rôl

Mae'r rôl hon yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o dîm y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n gweithredu ar draws swyddogaethau Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu a Phrosiectau Strategol CNC, gan helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a newid yn yr hinsawdd.  Bydd yn gweithio i leihau effeithiau datblygiadau ar amgylcheddau mawndir, ac i sicrhau bod mesurau lliniaru ac adfer ar gyfer mawndiroedd yn cael eu defnyddio'n llawn ac yn effeithiol.   Mae'r rôl yn cyfrannu at waith tîm ehangach y Rhaglen Weithredu drwy sicrhau nad yw'r cynnydd a gyflawnir drwy adfer mawndir yn cael ei wrth-wneud gan effeithiau negyddol mewn mannau eraill. 

Byddwch yn arwain y gwaith o ddarparu cyngor technegol ac arbenigol ar fawndiroedd sy'n ymwneud â cheisiadau cynllunio datblygu sy'n effeithio ar gynefinoedd mawn a/neu briddoedd mawnog, gan gymryd arweiniad cryf o ran polisi o rifyn 12 Polisi Cynllunio Cymru.  Byddwch yn cynnal asesiadau beirniadol manwl o ddigonolrwydd asesiadau effaith, eu dehongliad o ran maint yr effaith, a phriodoldeb ac effeithiolrwydd mesurau lliniaru ac adfer arfaethedig. Byddwch yn cyfrannu at ddatblygu cyngor ffurfiol CNC i ddatblygwyr a staff CNC, ac at benderfyniadau, rhaglenni, cynlluniau, canllawiau a strategaethau'r Llywodraeth a CNC.

Mae'r rôl yn rhan o'r Tîm Ecosystemau Daearol, sydd ar hyn o bryd o fewn Grŵp Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau cyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu.  Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr o dimau eraill yn CNC, swyddogion o Lywodraeth Cymru a chynrychiolwyr y sector.  Yn CNC byddwch yn gweithio'n arbennig o agos gyda staff mawndir arbenigol eraill yn y gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu - gan gynnwys arweinydd y Tîm, yr arweinydd technegol ar gyfer y maes gwaith hwn (yr Uwch Gynghorydd Arbenigol ar Fawndiroedd), a hefyd staff o fewn Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu CNC, Timau Amgylchedd CNC a'r Tîm Cynllunio cenedlaethol, a chydweithwyr o fewn y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd. 

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag James Latham yn james.latham@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Paratoi asesiadau technegol o ystod eang o ddeunydd asesu effaith, gan ddefnyddio amrywiaeth o wybodaeth a data cymhleth mewn perthynas â chynefinoedd mawn a mawndir.
  • Darparu cyngor technegol arbenigol yn fewnol i lywio’n uniongyrchol ymatebion CNC i waith achos allanol, a hefyd penderfyniadau gwaith achos mewnol pan mai CNC yw’r rheoleiddiwr. Bydd cyngor mewnol hefyd yn llywio swyddogaethau rheoli daearol CNC yn uniongyrchol.
  • Darparu cyngor technegol arbenigol yn allanol i (a) ddatblygwyr a rheoleiddwyr ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, (b) fforymau rhanddeiliaid rhanbarthol a chenedlaethol ac (c) rôl tyst arbenigol mewn ymchwiliadau fel y bo’n briodol.
  • Arwain datblygiad canllawiau gwaith achos perthnasol a darparu hyfforddiant i dimau'r Amgylchedd a DPAS.
  • Datblygu gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain y gwaith o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio. Llywio datblygiad dogfennau polisi, cyngor statudol a chanllawiau CNC, Llywodraeth Cymru a Phartneriaid eraill.  
  • Cydgysylltu â rhanddeiliaid allanol fel cynrychiolwyr sector, Llywodraeth Cymru, SNCBs a chyrff amgylcheddol eraill yn y DU i sicrhau bod rhwymedigaethau prosiectau, polisïau neu strategaethau yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol.
  • Cynghori ar fylchau mewn anghenion a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

1. Gwybodaeth o’r canlynol: deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n ymwneud ag ecosystemau daearol a sector(au) penodedig; gyrwyr polisi Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU mewn ecosystemau daearol a sector(au) neilltuedig a’r problemau a’r cyfleoedd yng Nghymru.
2. Profiad sylweddol o ddarparu cyngor technegol arbenigol, ar lefel ranbarthol neu Gymru gyfan, wrth asesu effeithiau sy’n berthnasol i ecosystemau mawndiroedd.
3. Profiad o ddadansoddi technegol a dehongli ystod o wybodaeth a data amgylcheddol; dadansoddi setiau data mawr.  
4. Gwybodaeth dechnegol arbenigol yn ymwneud â mawndiroedd.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol:A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Beth fyddwch chi’n ei gael: ein buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf