Dyddiad cau: 10/04/2025 | Cyflog: Gradd 7: £45,367 - £50,877 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu / Safonau Ystad

Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)

Rhif swydd: 203516

Y rôl

Darparu’r arweinyddiaeth technegol arbenigol ar Reoli Tir ar gyfer sut rydym yn rheoli’r tir yn ein gofal drwy reoli’r gwaith o baratoi polisïau, rhaglenni, cynlluniau, strategaethau a chanllawiau CNC.  Bydd y rhain yn trosi polisi Llywodraeth Cymru a’r DU, gofynion Safon Sicrwydd Coetir y DU (UKWAS) a safonau’r diwydiant yn ddulliau ymarferol o gyflawni.  Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr o dimau eraill yn yr adran Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu a Gweithrediadau, swyddogion o Lywodraeth Cymru, tirfeddianwyr eraill, a chynrychiolwyr y sector.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Sally Tansey.

sally.tansey@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams​.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain a rheoli prosiect o ran materion penodol a chymhleth sy'n gofyn am ddatblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni CNC.
  • Cadw perchnogaeth a goruchwylio maes polisi swyddogaethol gweithrediadau coedwig i sicrhau uniondeb dulliau CNC mewn perthynas â gofynion, safonau rheoleiddio a diwydiant UKWAS
  • Comisiynu a chyflwyno gweithdrefnau monitro ac archwiliadau.
  • Cynghori a diffinio bylchau gwybodaeth a chymhwysedd, comisiynu adnoddau, hyfforddiant a rhaglenni i lenwi'r bylchau; Rheoli prosiectau, yn unol â'r rhaglen y cytunwyd arni.
  • Cynnal gwybodaeth weithredol fanwl o'r materion sy'n wynebu Arweinwyr Tîm Rheoli Tir, gan nodi goblygiadau newidiadau deddfwriaethol, technolegol a'r farchnad i CNC.
  • Arwain neu gyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy'r Bwrdd Busnes Stiwardiaeth Tir, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.
  • Cydweithio gydag Arweinydd y Tîm i ddatblygu a chyflawni amcanion personol y cytunwyd arnynt.  
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

1. Gwybodaeth o’r canlynol: Deddfwriaeth ac ysgogwyr polisi Cymru a’r DU sy’n ymwneud â choedwigaeth a’r materion a’r cyfleoedd ar gyfer rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy mewn coedwigaeth gyhoeddus yn y DU. 
2. Gwybodaeth a phrofiad o Reoli Tir a/neu reoli coedwigoedd yn gynaliadwy. 
3. Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r ystod o bartneriaid a rhanddeiliaid sy'n ymwneud â Rheoli Tir a Rheoli Tir yn Gynaliadwy mewn coedwigaeth gyhoeddus yn y DU a sut i gymhwyso hyn yng Nghymru. 
4. Gweithio gyda gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol, ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol.
5. Profiad o amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau ym maes Rheoli Prosiectau. 
6. Bydd gennych aelodaeth Broffesiynol neu byddwch yn gweithio tuag at aelodaeth broffesiynol o Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig neu gorff proffesiynol perthnasol arall
7. Profiad o gynrychioli sefydliad mewn ystod o faterion proffil uchel a dadleuol yn y maes cyhoeddus, gan gynnwys:
Rheoli Tanau Gwyllt
Rheoli Digwyddiadau
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Diogelwch Coed
Rheoli Peryglon/Atebolrwydd
Stiwardiaeth Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
8. Rhannu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi yr holl Benaethiaid Busnes yn yr adran Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl y galw. 

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Beth fyddwch chi’n ei gael: ein buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf