Cynghorydd Rhywogaethau Gwarchodedig

Dyddiad cau: 13/04/2025 | Cyflog: Gradd 5 £36,246 - £39,942 flwyddyn | Lleoliad: Parc Cathays, Caerdydd

Cyflog cychwynnol: £36,246 yn codi i £39,942 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)

Rhif swydd: 202072

Y rôl

Ydych chi am wneud gwahaniaeth hirdymor i bobl ac amgylchedd Cymru? Ydych chi'n frwdfrydig am ddiogelu rhywogaethau prin ac yn ymroddedig i gefnogi'r broses o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?

Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â’n Tîm Rhywogaethau a Warchodir sy’n gweithio ledled Cymru, yn ein Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm sy’n cynghori ar effeithiau posibl croestoriad eang o gynigion ar rywogaethau gwarchodedig, gan ganolbwyntio’n benodol ar geisiadau am drwyddedau rhywogaethau a chyngor ar gynlluniau datblygu. Ar adeg o argyfwng o ran yr hinsawdd a byd natur, bydd y cyngor a ddarparwch yn cyfrannu’n uniongyrchol at warchod rhai o rywogaethau mwyaf eiconig a bregus Cymru.

Yn y rôl hon, bydd yr ymgeisydd penodedig yn darparu arweiniad ac arbenigedd technegol i gwsmeriaid mewnol ac allanol mewn perthynas â'r rhywogaethau anifeiliaid canlynol a ddiogelir gan y gyfraith:  Ystlumod (pob rhywogaeth), Dyfrgwn, Madfallod Dŵr Cribog, Llyffantod y Twyni, Pathewod, Madfallod y Tywod, Gwiwerod Coch, Beleod a Llygod Pengrwn y Dŵr.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a hyblyg sy’n frwdfrydig am yr amgylchedd i ymuno â'n tîm; chwaraewr tîm trefnus sydd â sgiliau pobl ardderchog.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos profiad o ran ecoleg, cadwraeth ac egwyddorion lliniaru ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau gwarchodedig gan gynnwys ystlumod, madfallod dŵr cribog, pathewod a dyfrgwn, sgiliau cyfathrebu da a gallu i reoli cwsmeriaid.

Bydd yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws CNC a gyda chwsmeriaid allanol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Jane Garner, jane.garner@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau wyneb yn wyneb (rhannir manylion amser a lleoliad ymlaen llaw)​. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Darparu cyngor technegol ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol a strategaethau a chynlluniau isranbarthol eraill (gyda chymorth yr Uwch-gynghorydd Rhywogaethau mewn achosion cymhleth), gan sicrhau bod y cyngor yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei ddarparu yn unol â therfynau amser.
  • Darparu cyngor i brosiectau datblygu, gan gynnwys prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol (gyda chymorth oddi wrth yr Uwch-gynghorydd Rhywogaethau mewn achosion cymhleth), gan sicrhau bod y cyngor yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei ddarparu yn unol â therfynau amser.
  • Darparu cyngor technegol ar geisiadau am drwyddedau, diwygiadau ac ymgynghoriadau perthnasol i’r Gwasanaeth Trwyddedu Rhywogaethau i gefnogi’r gwaith o benderfynu ar drwyddedau a gwaith cysylltiedig, gan sicrhau bod y cyngor yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yn cael ei ddarparu yn unol â therfynau amser.
  • Cyfrannu at y gwaith o baratoi gwybodaeth mewn perthynas â heriau yn erbyn cyngor cynllunio datblygu CNC neu benderfyniadau ar drwyddedau, gan gynnwys mynychu apeliadau ac ymchwiliadau.
  • Cyflenwi’r Gwasanaeth Cyngor Domestig.
  • Darparu cyngor i gefnogi’r gwaith o reoli safleoedd dynodedig lle mae rhywogaethau a warchodir yn bresennol.
  • Datblygu a chynnal perthnasau effeithiol â chwsmeriaid (yn fewnol ac yn allanol) i sicrhau dealltwriaeth dda a darpariaeth effeithiol o wasanaeth cynghori sy’n addas i’r diben.
  • Rhoi cyngor ar gyfer gwaith cynllunio mewn perthynas â lleoedd amlswyddogaethol megis Datganiadau Ardal a chynlluniau a rhaglenni gwydnwch bioamrywiaeth.
  • Darparu cymorth i’r heddlu ar ffurf cyngor technegol wrth iddynt ymchwilio i droseddau yn ymwneud â rhywogaethau a warchodir a chyfrannu at weithgareddau cydymffurfio ehangach yn ymwneud â rhywogaethau a warchodir lle y bo’n briodol.
  • Cyfrannu at y gwaith o adnabod rhaglenni gwyliadwriaeth a monitro.
  • Cyfrannu at y gwaith o gyflenwi rhaglenni gwyliadwriaeth a monitro.
  • Cynnal cofnodion archwiliadwy o gamau gweithredu a chanlyniadau er mwyn cyfiawnhau’r holl ofynion cyfreithiol a threfniadol a dangos eu bod wedi cael eu bodloni.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth am ecoleg, cadwraeth a dulliau lliniaru sy’n addas ar gyfer yr amrywiaeth o rywogaethau sydd wedi eu gwarchod gan ddeddfwriaeth bywyd gwyllt.
  2. Gwybodaeth ddigonol am ddeddfwriaeth bywyd gwyllt a’i defnydd.
  3. Gwybodaeth ymarferol o'r broses cynllunio datblygu.
  4. Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno ysgrifenedig a llafar da, gyda’r gallu i ysgrifennu’n glir ar gyfer amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd targed.
  5. Y gallu i gyd-drafod a gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl, gan gynnwys tirfeddianwyr, sefydliadau partner a’r cyhoedd.
  6. Y gallu i weithio’n effeithiol mewn tîm / sefyllfaoedd cydweithredol.
  7. Y gallu i yrru car yn y DU yn gyfreithlon ar hyn o bryd.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg) 
  • Dymunol:  Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith) 

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf