Rheoli Tir Cynaliadwy Arweinydd Tîm
Dyddiad cau: 02/04/2025 | Cyflog: Gradd 8 £52,268 - £57,726 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu - Tir Cynaladwy
Cyflog cychwynnol: £52,268
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Rhif swydd: 201462
Y rôl
Fel Arweinydd Tîm Rheoli Tir Cynaliadwy, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth lunio ac arwain tîm deinamig sy’n cyd-fynd â gwerthoedd craidd Cyfoeth Naturiol Cymru. Byddwch yn cael y cyfle i arwain amrywiaeth eang o fentrau strategol ac amgylcheddol sy'n canolbwyntio ar Reoli Tir yn Gynaliadwy, gan gwmpasu meysydd allweddol fel Coedwigaeth, Amaethyddiaeth a Phriddoedd.
Yn y swydd uwch arweinyddiaeth hon, byddwch yn cymryd y cyfrifoldeb o fod yn arweinydd technegol ar gyfer eich maes arbenigedd, gan gynnig arweiniad awdurdodol a gwybodaeth fanwl i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Bydd eich gwybodaeth yn dylanwadu ac yn llywio newid deddfwriaethol, polisïau'r llywodraeth, ac agendâu rhanddeiliaid yn eich maes arbenigol.
Yn ogystal, byddwch yn chwarae rhan hollbwysig wrth drosi deddfwriaeth gymhleth, polisïau Llywodraeth Cymru, a strategaeth sefydliadol CNC yn atebion ymarferol y gellir eu gweithredu ar gyfer cyflawni ar y rheng flaen o fewn fframwaith rheoleiddio a gweithredol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i berson gyda meddwl strategol ac angerdd dros gynaliadwyedd wneud gwahaniaeth hirdymor i bolisïau amgylcheddol a dulliau rheoli adnoddau naturiol Cymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Michelle Griffiths.
michelle.griffiths@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Arwain tîm mawr o gynghorwyr arbenigol proffesiynol ac, yn ogystal â bod yn arbenigwr cydnabyddedig yn eu maes eu hunain, arwain a rheoli materion penodol a chymhleth sy’n gofyn am ddatblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau a rhaglenni CNC.
- Arwain a rheoli materion penodol a chymhleth, megis paratoi Canllawiau, sy’n gofyn am ddatblygu polisïau, strategaethau, cynlluniau, rhaglenni ar gyfer CNC a sectorau/partneriaid perthnasol.
- Darparu cyngor statudol i Lywodraeth Cymru a chyrff a sectorau eraill yng Nghymru.
- Cadw perchnogaeth a goruchwyliaeth o'r maes polisi Rheoli Defnydd Tir er mwyn sicrhau uniondeb dulliau CNC gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Ganolog a bwriad Polisi'r UE.
- Comisiynu tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.
- Llywio trosolwg a pherchnogaeth ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y meysydd polisi penodol sy'n gysylltiedig â Rheoli Tir yn Gynaliadwy.
- Cydweithio â'r Rheolwr i ddatblygu a chyflwyno Cynllun Datblygu Personol y cytunwyd arno.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
1. Gwybodaeth o’r canlynol: deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n ymwneud â Rheoli Defnydd Tir Cynaliadwy; yr hyn sy’n sbarduno polisi Llywodraeth Cymru, y DU a’r UE yn ymwneud â Rheoli Tir yn Gynaliadwy; a’r materion a’r cyfleoedd yng Nghymru.
2. Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o sut i oresgyn y blaenoriaethau, y sbardunau a'r rhwystrau cymhleth a wynebir gan CNC, partneriaid a rhanddeiliaid sy'n ymwneud â chyflawni canlyniadau Rheoli Defnydd Tir Cynaliadwy yng Nghymru.
3. Profiad o’r canlynol: Gweithio ar lefel genedlaethol, y DU a rhyngwladol yn rheoli portffolio o raglenni gwaith sy'n gysylltiedig â Rheoli Tir.
4. Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol a/neu'n gweithio tuag at ddod yn aelod.
5. Cynrychioli'r sefydliad gyda materion proffil uchel a dadleuol yn yr arena gyhoeddus.
6. Rhannu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi pob Pennaeth Busnes yn yr adran Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl y galw.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.