Uwch-Gynllunydd Adnoddau Dŵr

Dyddiad cau: 11/04/2025 | Cyflog: Gradd 6: £41,132 - £44,988 | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Adnoddau Dŵr / Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu 

Cyflog cychwynnol: £41,132 yn codi i £44,988 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser). 

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Rhan amser, 22.2 awr yr wythnos

Rhif swydd: 201337

Y rôl

Fel Uwch Gynlluniwr, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth lunio dyfodol rheoli adnoddau dŵr yng Nghymru. Byddwch yn arwain y gwaith o reoli a chydlynu rhaglenni cyfalaf adnoddau dŵr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a rhaglenni refeniw. Bydd eich ymdrechion yn sicrhau bod y rhaglenni hyn yn cael eu cynllunio a'u darparu gan ddefnyddio prosesau cost-effeithiol, dibynadwy ac effeithlon sy'n cyfrannu at ein nodau ehangach o gynaliadwyedd ac optimeiddio adnoddau.

Bydd y rôl hon yn golygu y byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu asesiadau technegol, offer, prosesau a chanllawiau. Byddwch yn darparu cyngor arbenigol ac yn cefnogi cynllunio gwaith y tîm, gan helpu i ddarparu atebion effeithiol ar gyfer heriau adnoddau dŵr Cymru.

Mae cydweithredu yn greiddiol i’r rôl hon. Byddwch yn gweithio'n agos â chydweithwyr yn yr Adran Gyllid a'r tîm Rheoli Busnes Rheoleiddio i roi cyngor ar brosesau pennu taliadau adnoddau dŵr. Mae hyn yn cynnwys cefnogi ymgynghoriadau taliadau a datblygu cynlluniau codi tâl adnoddau dŵr newydd neu ddiwygiedig i sicrhau tegwch, tryloywder a phriodoldeb.

Fel rhan o’r Tîm Adnoddau Dŵr yn yr Adran Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol, o dan y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu (EPP), byddwch yn helpu i lywio polisi a chynllunio adnoddau dŵr ar draws ein hadrannau Rheoleiddio a Pholisi Rheoli Adnoddau Naturiol. Gan weithio o fewn tîm gwasgaredig ac eto hynod gydweithredol, byddwch yn gwneud cyfraniad ystyrlon i reoli adnoddau dŵr Cymru yn gynaliadwy er budd pobl, busnesau, a’r amgylchedd.

In this role, you will engage with technical specialists, regulators, and sector representatives across NRW and beyond. We are looking for an experienced, motivated professional to join us on our mission to make a positive difference in water resource sustainability.

In this role, you will engage with technical specialists, regulators, and sector representatives across NRW and beyond. We are looking for an experienced, motivated professional to join us on our mission to make a positive difference in water resource sustainability.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.  Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Caroline Harris at Caroline.Harris@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn bersonol. Bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal yn Caerdydd, Parc Cathays CP2. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Negodi gydag uwch reolwyr a'r tîm Rheoli Busnes Rheoleiddio ar osod taliadau tynnu dŵr, yr ymgynghoriad ar daliadau ac unrhyw gynllun taliadau tynnu dŵr newydd.
  • Rheoli’r gwaith o baratoi deunydd i gyfarwyddo’r gwaith o ddatblygu rhaglenni cyfalaf a refeniw adnoddau dŵr sydd wedi’u blaenoriaethu gan CNC, yn seiliedig ar anghenion CNC i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl a sicrhau bod cynlluniau’n cael eu cyflawni. Rheoli datblygiad gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain y gwaith o gyflawni ffyrdd newydd o weithio.
  • Cynghori ar anghenion a chyfleoedd tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Cefnogi ymgysylltu â sectorau a phartneriaid.
  • Cefnogi ymgysylltiad â Llywodraeth Cymru, Ofwat, Asiantaeth yr Amgylchedd, a chwmnïau dŵr a chyrff amgylcheddol eraill yn y DU;
  • Cynnal gwybodaeth am y sector(au) penodedig gan nodi goblygiadau newidiadau o ran deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad i Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector(au).
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion diffiniedig yn ôl yr angen.
  • Cydweithio â'r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chyflwyno Cynllun Datblygu Personol y cytunwyd arno
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

1. Gwybodaeth o’r canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n ymwneud ag Adnoddau Dŵr; gyrwyr polisi Cymru, Llywodraeth y DU mewn Adnoddau Dŵr yn Strategaeth Dŵr Llywodraeth Cymru; a'r problemau a'r cyfleoedd yng Nghymru.

2. Profiad o: gynllunio busnes a chynllunio ariannol, gan gynnwys cynllunio rhaglenni gwaith gyda chanlyniadau clir.

3. Dehongli gwybodaeth ariannol gymhleth.

4. Gweithio gyda/mewn cwmnïau dŵr ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

5. Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad a/neu gymwysterau ym maes Rheoli Prosiectau. 

6. Byddwch yn aelod o CIWEM neu sefydliad proffesiynol perthnasol arall a/neu'n gweithio tuag at ddod yn aelod.

7. Rhannu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi yr holl Benaethiaid Busnes yn yr adran Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl y galw.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: A1 - Lefel mynediad (gallu defnyddio a deall ymadroddion a chyfarchion syml, sylfaenol, dim Cymraeg sgyrsiol)

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Beth fyddwch chi’n ei gael: ein buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf