Swyddog Rheoleiddio Gwastraff Peryglus

Dyddiad cau: 03/04/2025  | Cyflog: Gradd £36,246 - £39,942 y flwyddyn | Lleoliad: Bwcle

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Rheoleiddio Gwastraff / Gweithrediadau 

Cyflog cychwynnol: £36,246

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: 37 awr yr wythnos

Dyddiad cyfweld: 14/04/2025

Rhif swydd: 200434

Y rôl

Byddwch yn gweithio fel aelod o dîm Diwydiant a Gwastraff Y Gogledd Ddwyrain fel yr arweinydd gwastraff peryglus ar gyfer eich lle. Bydd y rôl yn asesu cydymffurfiaeth cynhyrchwyr gwastraff â'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus yn bennaf, gan gynnwys dosbarthiad cywir gwastraff, cadw cofnodion a chwblhau nodiadau cludo. 

Yn ogystal, bydd disgwyl i chi gynorthwyo swyddogion eraill gyda'r gwaith o asesu cydymffurfiaeth ar safleoedd a ganiateir. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm rhithwir dros Gymru gyfan, gan gynnwys swyddogion data, ac yn helpu i gynllunio a chyflawni ymgyrchoedd cydymffurfio a phrosiectau eraill. I lawer o gynhyrchwyr gwastraff peryglus Cymru, hwn fydd eu hunig gysylltiad â Cyfoeth Naturiol Cymru a bydd yn gyfle i ddylanwadu arnynt a'u cynghori ar faterion fel atal gwastraff ac atal llygredd er mwyn helpu i gyflawni egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Carys Williams ar Carys.Williams@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Asesu cydymffurfiaeth â rheoliadau’n ymwneud â gwastraff peryglus oddi ar safle.
  • Defnyddio data am wastraff yn strategol i lywio ymyriadau/ymgyrchoedd.
  • Cyflawni a chofnodi gwaith cydymffurfio mewn perthynas â gwastraff peryglus.
  • Cymryd camau gweithredu priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
  • Cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau gwaith y tîm.
  • Cynhyrchu dogfennau gofynnol i gefnogi camau cyfreithiol.
  • Ceisio dylanwadu ar gwsmeriaid a sefydlu partneriaethau ac achosion lleol o gydweithio wrth i gyfleoedd godi er mwyn rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
  • Ymateb i ddigwyddiadau a chwynion.
  • Cyfrannu tuag at ddiwylliant iechyd, diogelwch a llesiant cadarnhaol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth a phrofiad o naill ai gweithio mewn diwydiant a reoleiddir neu fel rheoleiddiwr.
  2. Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnes masnachol.
  3. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnesau a reoleiddir a'r cyhoedd, gan esbonio materion ac ennill cefnogaeth drwy ddylanwadu.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel A1 - Lefel Mynediad  (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg)
  • Dymunol: Lefel B2 - Lefel ganolradd uwch (y gallu i ddefnyddio Cymraeg yn hyderus mewn rhai sefyllfaoedd gwaith)

 Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon


Diweddarwyd ddiwethaf