Lefel 1

Yn deall Cymraeg

Yn deall ceisiadau dros y ffôn e.e. Ga i siarad efo

Yn siarad Cymraeg

Yn ynganu termau/enwau lleoedd Cymraeg yn gywir yn y swyddfa ac mewn sefyllfaoedd maes

Yn defnyddio ymadroddion rhagarweiniol e.e. cyfarchion, tywydd mewn trafodaethau wyneb yn wyneb

Yn rhoi cyfarchiad dwyieithog dros y ffôn

Yn ysgrifennu Cymraeg

Ddim yn berthnasol


Lefel 2

Yn deall Cymraeg

Yn deall ceisiadau dros y ffôn e.e. Ga i siarad efo

Yn siarad Cymraeg

Yn cyfleu gwybodaeth syml e.e. tasgau gweinyddol syml

Yn trosglwyddo galwadau ffôn yn Gymraeg ac yn ymateb yn Gymraeg i geisiadau syml

Yn cyfathrebu wyneb yn wyneb ar lefel sylfaenol gan ddefnyddio amser gorffennol, presennol a dyfodol y ferf

Yn ysgrifennu Cymraeg

Ddim yn berthnasol

 

Lefel 3

Yn deall Cymraeg

Yn deall llawer o Gymraeg yn y swyddfa ac mewn rhai cyfarfodydd

Yn siarad Cymraeg

Yn trafod rhai materion gwaith â chydweithwyr yn Gymraeg yn y swyddfa

Yn ateb ymholidadau ffôn ac yn cymryd negeseuon syml yn Gymraeg

Yn trafod yn rhannol yn Gymraeg mewn cyfarfodydd ond yn troi’n ôl i’r Saesneg er mwyn trafod/cyfleu gwybodaeth dechnegol

Yn ysgrifennu Cymraeg

Yn ysgrifennu negeseuon anffurfiol e.e. negeseuon e-bost mewnol, yn Gymraeg

 

Lefel 4

Yn deall Cymraeg

Dealltwriaeth dda a chadarn o Gymraeg

Yn siarad Cymraeg

Yn defnyddio Cymraeg mewn sefyllfaoedd gwaith.  Yn cyfrannu ym Gymraeg mewn cyfarfodydd

Yn delio ag ymhholiadau ffôn yn hyderus yn Gymraeg.  Yn deall tafodieithoedd

Yn trafod yn Gymraeg ond yn defnyddio Saesneg ar gyfer termau anodd neu dechnegol

Yn ysgrifennu Cymraeg

Yn ysgfifennu llythyrau a negeseuon e-bost ffurfiol yn Gymraeg gyda chymorth golygyddol

 

Lefel 5

Yn deall Cymraeg

Dealltwriaeth fanwl a arbenigol o Gymraeg

Yn siarad Cymraeg

Yn rhoi cyflwyniadau yn Gymraeg; yn cyfweld ac ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg ac yn asesu cymwyseddau yn y Gymraeg

Yn cael briffiau gan gydweithwyr i ddelio ag ymholiadau ffôn Cymraeg, cyfweliadau â’r wasg ac ati

Yn trafod yn Gymraeg, gan gynnwys termau technegol/amaethyddol

Yn ysgrifennu Cymraeg

Yn ysgrifennu adroddiadau, testun ar gyfer cyhoeddiadau, cytundebau yn Gymraeg heb gymorth golygyddol

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf