Datganiad o Fuddiannau gan y Tîm Gweithredol
Gofynnir i'r Tîm Gweithredol ddatgan unrhyw fuddiannau unigol neu fuddiannau unrhyw deulu agos (a ddiffinnir fel partner, plant, rhieni a brodyr a chwiorydd) yn enwedig lle mae ar hyn o bryd neu gallai fod rhyngweithiadau busnes sy’n berthnasol i rôl a chylch gwaith CNC.
Mae yna chwe chategori ar gyfer buddiant:
- Categori 1 – Aelodaeth o'r Bwrdd Gweithredol neu'r Bwrdd Anweithredol, y Pwyllgor neu'r Ymddiriedolaeth
- Categori 2 – Cyflogaeth â thâl, masnach, proffesiwn neu alwedigaethau
- Categori 3 – Ecwiti/Cyfranddaliadau Perthnasol
- Categori 4 – Tir ac Eiddo
- Categori 5 – Gweithgaredd Gwleidyddol
- Categori 6 – Unrhyw fuddiant arall (lle mae aelod y Tîm Gweithredol yn dymuno datgan unrhyw fuddiant arall yn ôl ei ddisgresiwn ei hun)
Bydd y Gofrestr yn cael ei hadolygu’n barhaus gan y Tîm Llywodraethu.
Tabl Datganiad o Fuddiannau gan y Tîm Gweithredol ym mis Mai 2024
| Enw | Swydd | Buddiant | Unigolyn | Rôl | 
|---|---|---|---|---|
| Clare Pillman | Prif Weithredwr | Tir / Eiddo | Personol | Preswylydd mewn ardal a allai gael ei hystyried ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd arfaethedig | 
| Clare Pillman | Prif Weithredwr | Aelodaeth weithredol neu anweithredol o Fwrdd, Pwyllgor neu Ymddiriedolaeth | Personol | Aelod o Fwrdd Opera Cenedlaethol Cymru | 
| Ceri Davies | Cyfarwyddwr Gweithredol, Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu | Aelodaeth weithredol neu anweithredol o Fwrdd, Pwyllgor neu Ymddiriedolaeth | Personol | Ymddiriedolwr Cadwch Gymru'n Daclus | 
| Ceri Davies | Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu | Arall | Personol | Aelod o Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff | 
| Prys Davies | Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol | Dim buddiannau i’w datgan | n/a | n/a | 
| Gareth O’Shea | Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau | Dim buddiannau i’w datgan | n/a | n/a | 
| Rachael Cunningham | Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol | Dim buddiannau i’w datgan | n/a | n/a | 
| Sarah Jennings | Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol | Dim buddiannau i’w datgan | n/a | n/a |