Cyfarfod y Bwrdd 20 Mawrth 2025

Mae croeso i aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno ymuno arsylwi ar y sesiwn gyhoeddus drwy Dimau ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb rhyngweithiol gyda'r Bwrdd ar ôl i'r eitemau ffurfiol orffen. Cofiwch y gall amseru agenda newid ar y diwrnod ac felly i sicrhau bod cwestiynau'n cael eu clywed, cyflwynwch y rhain ymlaen llaw erbyn dydd Llun am 5pm i Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Byddwch yn ymwybodol y gall yr amseroedd ar yr agenda newid ar ddiwrnod y cyfarfod, felly cyflwynwch unrhyw gwestiynau ymlaen llaw at sylw Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i sicrhau eu bod yn cael eu clywed.

Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: Wrth ymuno â’r cyfarfod, cliciwch ar y tri dot (‘Mwy’) ger eicon y camera, sgroliwch drwy’r rhestr i glicio ar ‘Cyfieithu ar y Pryd’ a dewiswch naill ai ‘Iaith wreiddiol’ i glywed y Gymraeg neu ‘’Saesneg’ i glywed cyfieithiad o’r Gymraeg.

Amser y cyfarfod: 09:00 – 12:40

Agenda

Amser Eitem

9am (5 munud)

Materion rhagarweiniol

Eitem 1. Dechrau’r cyfarfod 

  • Croeso
  • Datgan buddiannau
  • Egluro trefn y cyfarfod

Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd)

Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau o fuddiant

9.05am (5 munud)

Eitem 2. Adolygu’r cofnodion a chofnod y camau gweithredu

2A. Adolygu cofnodion y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ar 23 Ionawr

2B. Adolygu’r cofnod o gamau gweithredu cyhoeddus

Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd)

Crynodeb: CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod blaenorol a’r cofnod o gamau gweithredu

9.10am (10 munud)

Gosod y sefyllfa

Eitem 3. Yr wybodaeth ddiweddaraf gan y cadeirydd 

Noddwr a chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd)

Crynodeb: NODI diweddariad y cadeirydd i’r bwrdd

9.20am (10 munud)

Eitem 4. Adroddiad gan y Prif Weithredwr

Noddwr a chyflwynydd: Ceri Davies, Prif Weithredwr Dros Dro

Crynodeb: NODI’R sefyllfa bresennol a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r bwrdd ar y prif weithgareddau

Cyfeirnod y papur: 25-03-B11

9.30am (20 munud)

Llywodraethu, Risg a Sicrwydd

Eitem 5. Adroddiadau diweddaru’r pwyllgorau a’r fforymau 

Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion y pwyllgorau

  • Y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg
  • Y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth
  • Y Pwyllgor Cyllid – 6 Chwefror a 5 Mawrth (ar lafar)

Cyfeirnod y papur: 25-03-B24

  • Y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd – 11 Chwefror (Cyfarfod ar y cyd o’r Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd a’r Pwyllgor Ystad Tir)
  • Y Pwyllgor Ystad Tir – 11 Chwefror

Cyfeirnod y papur: 25-03-B12

  • Y Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid – 19 Chwefror

Cyfeirnod y papur: 25-03-B13

  • Y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig – 13 Chwefror

Cyfeirnod y papur: 25-03-B14

  • Fforwm Rheoli Tir Cymru – Dim cyfarfod

Cyfeirnod y papur: 25-03-B23

  • Fforwm Pysgodfeydd Cymru
  • Fforwm Rheoli Dŵr Cymru – Dim cyfarfod
  • Fforwm Mynediad Cenedlaethol Cymru
  • Grŵp Galluogi’r Sector Amgylcheddol (Ar lafar)

Crynodeb: NODI’R wybodaeth ddiweddaraf gan bwyllgorau’r bwrdd a fforymau CNC, o fewn a thu allan, a’r cyfarfodydd a gynhaliwyd

9.50am (30 munud)

Cynllunio strategol

Eitem 6. Trafodaeth strategol: Rheoleiddio mewn cyfnod o dwf 

Noddwr: Dom Driver, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflwynydd: Nadia De Longhi, Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu; Martin Cox, Pennaeth Gweithrediadau; Ruth Jenkins, Pennaeth Datblygiadau Cynllunio a Mȏrol

Crynodeb: Trafodaeth strategol am oblygiadau ein hamgylchedd gweithredu newidiol i gyflawni'r buddion a ragwelir yn ein Cynllun Corfforaethol a rheoli ein risgiau strategol.

10.20am (20 munud)

Cyflawni ein cynllun

Eitem 7. Adroddiad perfformiad cyllid 

Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Cyflwynydd: Rob Bell, Pennaeth Cyllid

Crynodeb: CYMERADWYO’R sefyllfa ariannol ddiweddaraf

Cyfeirnod y papur: 25-03-B17

10.30am (20 munud)

Eitem 8. Diweddariad chwarterol ar ddangosfwrdd perfformiad y cynllun busnes

Noddwr: Y Tîm Gweithredol

Cyflwynydd: Ceri Davies, Prif Weithredwr Dros Dro

Crynodeb: CYMERADWYO diweddariad chwarterol y trydydd chwarter ar ddangosfwrdd perfformiad y cynllun busnes

Cyfeirnod y papur: 25-03-B18

10.50am (20 munud)

Eitem 9. CNC ar X (Twitter gynt)

Noddwr: Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol

Cyflwynydd: Meinir Wigley, Pennaeth Cyfathrebu a Thrawsnewid Digidol

Crynodeb: CYMERADWYO’R dull

Cyfeirnod y papur: 25-03-B19

11.10am (15 munud)

Egwyl

11.25am (30 munud)

Eitem 10. Chwaraeon modur ar y tir sydd yng ngofal Cyfoeth Naturiol Cymru

Noddwr: Dom Driver, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu

Cyflwynydd: Rachel Chamberlain, Pennaeth Dros Dro Stiwardiaeth Tir; Dave Liddy, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Cynllunio Hamdden ar yr Ystad

Crynodeb: Trafod gweithrediad y strategaeth y cytunwyd arni’n ddiweddar

Cyfeirnod y papur: 25-03-B20

11.55pm (0 munud)

Trafodaeth trwy eithriad

Eitem 11. Adroddiad chwarterol llesiant, iechyd a diogelwch 

Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Cyflwynydd: Charlotte Morgan, Rheolwr Llesiant, Iechyd a Diogelwch

Crynodeb: CYMERADWYO adroddiad trydydd chwarter llesiant, iechyd a diogelwch

Cyfeirnod y papur: 25-03-B21

11.55am (5 munud) Eitem 12. Unrhyw fater arall

12pm (10 munud)

Eitem 13. Sut wnaethon ni berfformio yn y cyfarfod hwn?

Noddwr: Syr David Henshaw, Cadeirydd

Crynodeb: Adolygiad o’r cyfarfod

12.10pm

Cau’r cyfarfod

12.20pm (20 munud)

Sesiwn holi ac ateb ar gyfer y cyhoedd

12.40pm

Cau’r cyfarfod cyhoeddus

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf