Cyfarfod y Bwrdd 17 Gorffennaf 2024

Mae croeso i aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno ymuno arsylwi ar y sesiwn gyhoeddus drwy Dimau ac yna cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb rhyngweithiol gyda'r Bwrdd ar ôl i'r eitemau ffurfiol orffen. Cofiwch y gall amseru agenda newid ar y diwrnod ac felly i sicrhau bod cwestiynau'n cael eu clywed, cyflwynwch y rhain ymlaen llaw erbyn dydd Llun am 5pm i Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Byddwch yn ymwybodol y gall yr amseroedd ar yr agenda newid ar ddiwrnod y cyfarfod, felly cyflwynwch unrhyw gwestiynau ymlaen llaw at sylw Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i sicrhau eu bod yn cael eu clywed.

Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd: Wrth ymuno â’r cyfarfod, cliciwch ar y tri dot (‘Mwy’) ger eicon y camera, sgroliwch drwy’r rhestr i glicio ar ‘Cyfieithu ar y Pryd’ a dewiswch naill ai ‘Iaith wreiddiol’ i glywed y Gymraeg neu ‘’Saesneg’ i glywed cyfieithiad o’r Gymraeg.

Amser y cyfarfod: 14:00 – 16:30

Agenda

Amser Eitem

14:00 (5 munud)

Eitem 1. Dechrau’r cyfarfod
  • Croeso
  • Datganiadau o fuddiant
  • Eglurhad am drefn y cyfarfod

Noddwr a chyflwynydd: Yr Athro Steve Ormerod (Dirprwy Gadeirydd)

Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau o fuddiant

14:05 (5 munud)

Eitem 2. Adolygu’r cofnodion a chofnod y camau gweithredu

2A. Adolygu cofnodion y cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ar 23 Mai

2B. Adolygu cofnod y camau gweithredu cyhoeddus

Noddwr a chyflwynydd: Yr Athro Steve Ormerod (Dirprwy Gadeirydd)

Crynodeb: CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod blaenorol a chofnod y camau gweithredu

14:10 (5 munud)

Eitem 3. Diweddariad gan y Cadeirydd

Noddwr a chyflwynydd: Yr Athro Steve Ormerod (Dirprwy Gadeirydd)

Crynodeb: NODI diweddariad y Cadeirydd i’r Bwrdd

14:15 (15 munud)

Eitem 4. Adroddiad gan y Prif Weithredwr

Noddwr a chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr

Crynodeb: NODI y sefyllfa bresennol, a diweddaru’r Bwrdd ar weithgareddau allweddol

Cyfeirnod y Papur: 24-07-B10

14:30 (20 munud)

Eitem 5. Diweddaru adroddiadau pwyllgorau a fforymau

Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion pwyllgorau

  • Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg – 4 Mehefin

Cyfeirnod y Papur: 24-07-B11

  • Y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth
  • Y Pwyllgor Cyllid – 13 Mehefin

Cyfeirnod y Papur: 24-07-B12

  • Y Pwyllgor Rheoli Risg Llifogydd

Cyfeirnod y Papur: 24-07-B13

  1. Y Pwyllgor Ystad Tir
  2. Y Pwyllgor Pobl a Chwsmeriaid – 6 Mehefin

Cyfeirnod y Papur: 24-07-B14

  • Y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig – 28 Mehefin
  • Fforwm Rheoli Tir Cymru
  • Fforwm Pysgodfeydd Cymru
  • Fforwm Rheoli Dŵr Cymru
  • Fforwm Mynediad Cenedlaethol Cymru

Crynodeb: NODI y diweddariadau gan bwyllgorau’r Bwrdd a fforymau CNC, y tu fewn a’r tu allan, a’r cyfarfodydd a gynhaliwyd

14:50 (15 munud)

Eitem 6. Adroddiad Perfformiad Cyllid

Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Cyflwynydd:Rob Bell, Pennaeth Cyllid

Crynodeb: CYMERADWYO y sefyllfa ariannol ddiweddaraf

Cyfeirnod y Papur: 24-07-B15

15:05 (20 munud)

Eitem 7. Dangosfwrdd perfformiad y cynllun busnes ac adroddiad diwedd blwyddyn perfformiad mewnol 2023-2024

Noddwr a chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr

Yn bresennol: Sarah Williams, Pennaeth Strategaeth Gorfforaethol a Swyddog Rheoli Portffolios; Sue Ginley, Prif Gynghorydd Arbenigol, Cynllunio Corfforaethol a Pherfformiad

Crynodeb: CYMERADWYO dangosfwrdd perfformiad y cynllun busnes ac adroddiad diwedd blwyddyn perfformiad mewnol 2023-2024

Cyfeirnod y papur: 24-07-B16

15:25 (15 munud)

Egwyl

15:40 (10 munud)

Eitem 8. Adroddiad blynyddol llesiant, iechyd a diogelwch 2023-2024

Noddwr a chyflwynydd: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol

Crynodeb: CYMERADWYO adroddiad blynyddol llesiant, iechyd a diogelwch 2023-2024

Cyfeirnod y papur: 24-07-B17

15:50 (5 munud)

Eitem 9. Unrhyw fater arall

15:55

Diwedd y cyfarfod

15:55 (20 munud)

Holi ac ateb cyhoeddus

16:15

Diwedd y cyfarfod cyhoeddus

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf