Cyfarfod y Bwrdd 13 Gorffennaf 2022
Os hoffech arsylwi ar ein cyfarfod Bwrdd, cysylltwch â nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a gofynnwch am fynediad i'r cyfarfod. Bydd cyfieithu ar y pryd ar gyfer Cymraeg ar gael, rhowch wybod i ni os oes angen hyn arnoch yn eich e-bost.
Cynhelir y sesiwn gyhoeddus Bwrdd CNC ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 13 Gorffennaf 2022.
Mae croeso i aelodau’r cyhoedd sy’n i arsylwi’r sesiwn gyhoeddus ymuno ar Teams. Byddwch yn ymwybodol os gwelwch yn dda bod amseroedd ar yr agenda yn gallu newid ar y diwrnod.Nid oes sesiwn holi ac ateb gyhoeddus wedi'i threfnu y tro hwn. Ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol, mae Tîm Gweithredol CNC yn parhau i ystyried atebion posibl i wella'r broses, a fydd yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid i bennu'r gwelliant gorau a mwyaf cyfrifol yn gymdeithasol.
Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd nrwboardsecretariat@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Er mwyn gweld beth a fydd yn cael ei drafod, gweler yr agenda isod: (gall newid)
Amser y Cyfarfod - 12:35AM i 16:55PM - 13 Gorffennaf 2022
Amser |
Eitem |
---|---|
12.35 (5 mun) |
1. Cyfarfod Agored
Noddwr a Chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) Crynodeb: NODI unrhyw ddatganiadau o fuddiant. |
12.40 (5 mun) |
2. Adolygu’r Cofnodion a’r Cofnod Camau Gweithredu 2A. Adolygu Cofnodion Cyfarfod Cyhoeddus 26 Mai 2B. Adolygu'r Cofnod Camau Gweithredu Cyhoeddus Noddwr a Chyflwynydd: Syr David Henshaw (Cadeirydd) CYMERADWYO cofnodion y cyfarfod diwethaf a'r cofnod camau gweithredu. |
12.45 (5 mun) |
3. Diweddariad gan y Cadeirydd Noddwr a Chyflwynydd: Syr David Henshaw Crynodeb: NODI diweddariad y Cadeirydd i'r Bwrdd. |
12.50 (15 mun) |
4. Adroddiad gan y Prif Weithredwr Noddwr a Chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr Crynodeb: NODI'r sefyllfa bresennol a diweddaru'r Bwrdd ar weithgareddau allweddol. Cyfeirnod y Papur: 22-07-B07 |
13.05 (20 mun) |
5. Adroddiadau Diweddaru gan y Pwyllgorau Noddwyr a chyflwynwyr: Cadeiryddion y Pwyllgorau Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Ansawdd – 9 Mehefin a 8 Gorffennaf Cyfeirnod y Papur: 22-07-B08 Y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth – 7 Mehefin Cyfeirnod y Papur: 22-07-B09 Y Pwyllgor Cyllid -10 Mehefin Cyfeirnod y Papur: 22-07-B10 Y Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd - 1 Gorffennaf Y Pwyllgor Pobl a Thaliadau - 24 Mehefin Cyfeirnod y Papur: 22-07-B11 Y Pwyllgor Ardaloedd Gwarchodedig - 21 Mehefin Cyfeirnod y Papur: 22-07-B12 Fforwm Rheoli Tir Cymru Cyfeirnod y Papur: 22-07-B13 Crynodeb: NODI'r diweddariadau gan bwyllgorau'r Bwrdd, y tu mewn a'r tu allan i unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd. |
13.25 (15 mun) |
6. Diweddariad ar Gyllid Noddwr: Rachael Cunningham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Cyflwynydd: Rob Bell, Pennaeth Cyllid Crynodeb: NODI'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf Cyfeirnod y Papur: 22-07-B14 |
13.40 (30 mun) |
7. Adroddiad Diwedd Blwyddyn Dangosfwrdd Perfformiad y Cynllun Busnes 2021/22 Noddwr a Chyflwynydd: Clare Pillman, Prif Weithredwr Mynychwyr: Caroline Hawkins, Rheolwr Cynllunio Corfforaethol, Perfformiad ac Asesu Strategol, Sarah Williams, Pennaeth y Strategaeth Gorfforaethol a'r Swyddfa Rheoli Rhaglenni; Sue Ginley, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Cynllunio Corfforaethol a Pherfformiad Crynodeb: CYMERADWYO Adroddiad Diwedd Blwyddyn Dangosfwrdd Perfformiad y Cynllun Busnes 2021/22 Cyfeirnod y Papur: 22-07-B15 |
14.10 (15 mun) |
Egwyl |
14.25 (20 mun) |
8. Cyfraniad CNC at y Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol ar gyfer Adnoddau Dŵr a Gwella Ansawdd Dŵr (PR24) Noddwr: Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu Cyflwynwyr: Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru; Ruth Johnston, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Strategaeth Ddŵr; Natalie Hall, Rheolwr, Adfer o Lifogydd Crynodeb: TRAFOD cynllun busnes cwmni dŵr Ofwat a chyfraniad CNC at y Rhaglen Amgylchedd Genedlaethol ar gyfer Adnoddau Dŵr a Gwella Ansawdd Dŵr (PR24) Cyfeirnod y Papur: 22-07-B16 |
14.45 (40 mun) |
9. Diweddariad ar Ansawdd Dŵr Noddwr: Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu Cyflwynwyr: Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru; Ruth Johnston, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Strategaeth Ddŵr; Natalie Hall, Rheolwr, Adfer o Lifogydd Crynodeb: Trafod y diweddariad ar waith presennol yn ymwneud ag ansawdd dŵr Cyfeirnod y Papur: 22-07-B17 |
15.25 (10 mun) |
Egwyl |
15.35 (45 mun) |
10. Rheoleiddio'r gwaith o reoli Adar sy'n Bwyta Pysgod: Argymhellion Noddwr: Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu Cyflwynwyr: Nadia De Longhi, Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu; Ben Wilson, Prif Gynghorydd, Pysgodfeydd; Sarah Wood, Rheolwr Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau Crynodeb: CYMERADWYO yr argymhellion ar gyfer rheoleiddio'r gwaith o reoli Adar sy'n Bwyta Pysgod Cyfeirnod y Papur: 22-07-B19 |
16.20 (10 mun) |
11. Adroddiad Blynyddol 2021/22 ar yr Iaith Gymraeg Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Cyflwynydd: Lyn Williams, Cynghorydd Polisi Iaith Gymraeg Crynodeb: CYMERADWYO Adroddiad Blynyddol 2021/22 ar yr Iaith Gymraeg Cyfeirnod y Papur: 22-07-B20 |
16.30 (10 mun) |
12. Eitemau Cyhoeddus a Phreifat ar Agenda'r Bwrdd Noddwr: Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol Cyflwynydd: Victoria Painter, Rheolwr Llywodraethu a Risg; Daniel Haighway, Contractwr, Llywodraethu a Risg Crynodeb: CYMERADWYO y meini prawf ar gyfer eitemau cyhoeddus a phreifat ar agenda'r Bwrdd Cyfeirnod y Papur: 22-07-B21 |
16.40 (5 mun) |
13. Newidiadau arfaethedig i'r Cynllun Statudol a Chyfreithiol (SaLS) Noddwr: Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyflwynydd: Colette Fletcher, Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd Crynodeb: CYMERADWYO newidiadau i'r SaLS ar gyfer Bwrdd Busnes y Gwasanaethau Corfforaethol Cyfeirnod y Papur: 22-07-B22 |
16.45 (5 mun) |
14. Rhagolwg y Bwrdd Noddwr: Syr David Henshaw Cyflwynydd: Colette Fletcher, Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd Cyfeirnod y Papur: 22-07-B23 |
16.50 (5 mun) |
15. Unrhyw Fater Arall a) Adroddiad ar Berfformiad Cyllid hyd at fis Mawrth 2022 Crynodeb: Er gwybodaeth Cyfeirnod y Papur: 22-07-B24 |
16.55 |
Diwedd y Cyfarfod |