Cyfarfod y Bwrdd 12 Gorffennaf 2018

Lleoliad: Ystafell y Cefnfor, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Amser: 9:30 - 14:50 

Ar ddiwedd y cyfarfod bydd y Cadeirydd yn derbyn cwestiynau oddi wrth aelodau o’r cyhoedd. 

Byddem yn hapus i dderbyn unrhyw gwestiwn rydych yn bwriadu gofyn yn y cyfarfod o flaen llaw. Ein hymrwymiad ar y diwrnod yw gwrando ac ymateb i unrhyw beth y gallwn neu fynd a'r cwestiwn i ffwrdd gyda ni a danfon ateb atoch faes o law. Anfonwch bob cwestiwn cyn 9 Gorffennaf. Fel arall, bydd modd ichi ofyn cwestiynau ar y diwrnod.

Bydd yr holl gwestiynau a godwyd yn ystod y sesiwn hon yn cael eu cofnodi fel atodiad i’n cofnodion a gyhoeddir ar ein gwefan.

Os hoffech fynychu cyfarfod, neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd.

Agenda

  1. Croeso
  2. Cyflwyniad lleol – problemau, cyfleoedd a heriau ynghlwm â rheoli adnoddau naturiol yr ardal leol
  3. Diweddariad cyllid
  4. Materion llywodraethu: Cofnodion a materion sy’n codi o gyfarfodydd is-bwyllgorau statudol blaenorol ac adroddiadau eraill
  5. Adolygiad o'r defnydd o arfau tanio ar dir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru
  6. Rheolaethau pysgota newydd ar gyfer afonydd trawsffiniol Afon Dyfrdwy ac Afon Gwy
  7. Cau'r cyfarfod yn ffurfiol
  8. Adolygiad/sylwadau gan y cyhoedd
Diweddarwyd ddiwethaf