11 Gorffennaf 2019
Lleoliad: Swyddfa CNC, Maes Y Ffynnon, Penrhosgarnedd, Bangor, LL57 2DW
Amser: 09.00 - 13.00
Ar ddiwedd y cyfarfod bydd y Cadeirydd yn derbyn cwestiynau oddi wrth aelodau o’r cyhoedd.
Byddem yn hapus i dderbyn unrhyw gwestiwn rydych yn bwriadu gofyn yn y cyfarfod o flaen llaw. Ein hymrwymiad ar y diwrnod yw gwrando ac ymateb i unrhyw beth y gallwn neu fynd a'r cwestiwn i ffwrdd gyda ni a danfon ateb atoch faes o law. Anfonwch bob cwestiwn cyn 10 Gorffennaf. Fel arall, bydd modd ichi ofyn cwestiynau ar y diwrnod.
Bydd yr holl gwestiynau a godwyd yn ystod y sesiwn hon yn cael eu cofnodi fel atodiad i’n cofnodion a gyhoeddir ar ein gwefan.
Os hoffech fynychu cyfarfod, neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd.
- Croeso/Welcome
- Ymddieuriadau a Datganiadau o Fuddiant
- Adolygu’r cofnodion a Logiau Gweithredu Cyfarfod Cyhoeddus Mis Mawrth
- Adroddiad yr Iaith Gymraeg 2018/19
- Adroddiad Perfformiad Corfforaethol 2018/19
- Strategaeth Iechyd a Lles
- Strategaeth Grantiau
- Diweddariad Datganiadau Ardal
- Newid Hinsawdd
- Cloi’r Cyfarfod
- Unrhyw gwestiynau/sylwadau gan y cyhoedd
Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig
Papurau Cyhoeddus - Gorffennaf - 2019
PDF [8.7 MB]
Cofnodion y Bwrdd wedi eu cadarnhau Dydd Iau 11 Gorffennaf 2019
PDF [345.3 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf