Sut rydyn ni’n sgorio ceisiadau am grantiau cyflawni gwaith adfer mawndir
Mae hwn yn gynllun grant cystadleuol. Bydd pob prosiect hefyd yn cael ei sgorio ar gyfer nifer o gwestiynau allweddol o'r ffurflen gais. Bydd prosiectau wedyn yn cael eu blaenoriaethu yn ôl y sgôr a'r cyllid yn cael ei ddyrannu.
Meini prawf hanfodol
Rhaid i gais fodloni'r rhain er mwyn symud ymlaen i’r cam lle pennir sgôr iddo:
- Rhaid i'r cynnig fynd i'r afael ag un neu ragor o themâu'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
- Rhaid i'r mawndiroedd fod yng Nghymru, a dim ond yr elfen Gymreig o unrhyw gynigion trawsffiniol fydd yn cael eu hystyried
- Mae'r cais a gyflwynir i CNC yn gofyn am rhwng £50,000 - £250,000
- Mae tystiolaeth wedi'i chynnwys bod yr ymgeisydd wedi cyflawni o leiaf un prosiect adfer mawndiroedd yn ystod y degawd diwethaf neu wedi cyflwyno cadarnhad ysgrifenedig o gymorth technegol gan bartner sydd â phrofiad o adfer mawndiroedd ar lawr gwlad ac sy'n gallu darparu cymorth technegol
Bydd ceisiadau y pennwyd sgôr ganolig neu uchel iddynt yn cael eu hystyried gyda'i gilydd gan y panel/panelau perthnasol.
Byddwn yn ceisio adeiladu portffolio cytbwys o brosiectau sydd, gyda’i gilydd, yn mynd i’r afael â themâu’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, gan sicrhau cydbwysedd rhwng ardaloedd daearyddol a rhwng prosiectau datblygu a chyflawni.
Byddwn yn gwneud gwiriadau cymesur o ddiwydrwydd dyladwy ar bob ymgeisydd. Ein tîm grantiau sy’n gwneud ein gwaith asesu ariannol. Mae asesiadau wedi’u teilwra yn ôl y math o bartner, yn cynnwys gwiriadau safonol o ddiwydrwydd dyladwy ac maent yn gymesur, a hynny ar sail gwerth a risg. Rydym yn ymdrin â’r canlynol:
- Adnabod eich ymgeisydd
- Iechyd ariannol
- Ffynonellau eraill o gyllid
- Ardaloedd o bryder arbennig
Ein cwestiynau asesu
- A yw gwerth y cais am grant rhwng £10,000 a £250,000? Os mai 'na' yw'r ateb, peidiwch â symud ymlaen.
- A yw'r ardal mawndir yn cael ei hadfer yng Nghymru? Os mai 'na' yw'r ateb, peidiwch â symud ymlaen.
- A oes dealltwriaeth glir o sut mae'r prosiect yn alinio â'r rhaglen grant hon? Os mai 'na' yw'r ateb, peidiwch â symud ymlaen.
- A yw'r prif ymgeiswyr wedi dangos tystiolaeth eu bod wedi cyflawni o leiaf un prosiect adfer mawndir yn ystod y degawd diwethaf, neu ddarparu cadarnhad o gymorth technegol gan bartner sydd â phrofiad o adfer mawndiroedd ar lawr gwlad - ac sy'n gallu darparu cymorth technegol? Os mai 'na' yw'r ateb, peidiwch â symud ymlaen.
- A yw’r prosiect yn cynnig gwerth am arian – a yw’n darparu’r gweithgareddau, yr allbynnau a’r canlyniadau cywir? Os yw’r prosiect ar gyfer cyflawni gwaith adfer mawndir, beth yw’r gost fesul hectar? (Cost fesul hectar = cyfanswm cost y prosiect mewn £/nifer yr hectarau wedi’u hadfer).
- A gafwyd y caniatadau neu'r cydsyniadau perthnasol neu a wnaed cais amdanynt? Neu, os nad yw’r cydsyniadau gennych eto, a oes cynllun clir ar gyfer eu cael? Dylech roi manylion y cydsyniadau y gwnaed cais amdanynt neu sut y byddwch yn cael unrhyw gydsyniadau sydd eu hangen. Gall hyn gynnwys gohebiaeth â chorff cydsynio cyn ymgeisio. Mae angen gwneud cais am ganiatadau a chydsyniadau gennym ni ar wahân i unrhyw gais am grant.
- A yw'r cynnig yn seiliedig ar dystiolaeth o ansawdd da? Pa mor dda mae'r dystiolaeth a nodwyd wedi’i defnyddio i lywio dyluniad y cynnig?
- A yw’r allbynnau a’r canlyniadau a ragwelir yn realistig?
- Ydyn nhw wedi amlinellu’n glir sut byddant yn mesur cynnydd yn erbyn y canlyniadau?
- Sut bydd y canlyniadau'n cael eu cynnal ar ôl i'r prosiect ddod i ben? A yw'r partner allanol wedi ystyried costau parhaus, sut y cânt eu hariannu ac a ydynt yn rhesymol?
- Os na allwn ni ariannu'r prosiect hwn beth yw'r goblygiadau? A fyddai ôl-effeithiau difrifol pe na baem yn ei gefnogi, a fyddai'r prosiect yn mynd yn ei flaen pa un bynnag?
- A yw'r gweithgareddau a nodir yng nghynllun y prosiect yn realistig, yn gyraeddadwy ac yn unol ag amcanion y prosiect? A allent gyflawni'r canlyniadau a nodwyd?
- A yw'r amserlenni neu'r cyfnodau hawlio yn realistig ac yn gyflawnadwy? Y dyddiad olaf ar gyfer hawlio fydd 31 Mawrth 2026.
- A yw trefniadau llywodraethu’r oes prosiect yn ddigonol, yn gymesur â'i faint a'i risg, i gyflawni'r gwaith?
- A yw risgiau wedi'u nodi'n briodol ac a oes mesurau lliniaru priodol ar waith?
- Pwy yw'r partneriaid eraill sy'n ymwneud â'r prosiect hwn ac a ydynt yn berthnasol ac yn briodol?
- A yw'r cynnig yn ystyried sut y bydd pobl o gefndiroedd amrywiol ac â phob gallu yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y prosiect?
- Pa mor dda y mae’r cynnig yn ystyried, yn defnyddio ac yn hyrwyddo’r Gymraeg?
- A yw'r costau manwl ar eich dadansoddiad o gostau’r prosiect a lanlwythwyd yn rhesymol ac yn gyraeddadwy?
- Beth yw ansawdd y cynnig yn ei gyfanrwydd?
Sut ydym ni’n sgorio tystiolaeth
Tystiolaeth a ddarparwyd |
Sgôr |
Sylw |
Mae'r cynnwys yn gyson, yn gynhwysfawr, yn gymhellol ac yn uniongyrchol berthnasol i'r cynllun grant ym mhob ffordd ac yn gredadwy iawn. |
10 |
Hyderus iawn |
Mae'r cynnwys yn ddigonol (mewn termau ansoddol), yn argyhoeddi ac yn gredadwy. |
8 |
Hyderus |
Ceir mân fylchau yn y cynnwys, neu nid yw'n argyhoeddi yn hollol, ac mae ei hygrededd a pherthnasedd ychydig yn brin. |
6 |
Mân bryderon |
Mae bylchau cymedrol yn y cynnwys ac felly nid yw'n argyhoeddi. |
4 |
Pryderon cymedrol |
Mae bylchau mawr yn y cynnwys, nid yw'n argyhoeddi mewn sawl ffordd, nid oes iddo hygrededd a/neu mae'n amherthnasol i'r cynllun i raddau helaeth. |
2 | Pryderon mawr |
Mae'r cynnwys yn gamarweiniol, yn amherthnasol neu'n anghymwys. |
1 |
Annerbyniol |