Rydym am glywed gennych

Rydym yn awyddus i glywed eich syniadau am sut y gall tirweddau dynodedig gyfrannu at broses y Datganiadau Ardal.

Cysylltwch â ni os oes diddordeb gennych mewn rhannu eich syniadau, er enghraifft ynghylch rhagoriaeth mewn rheolaeth gynaliadwy, datblygu agendâu dysgu cyffredin a chyfathrebu'n fwy eang. Gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio: EPP.Planning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Byddwn yn ceisio dod nôl atoch o fewn 10 niwrnod gwaith.

Pobl yn cerdded ar Fannau Brycheiniog

Tirweddau dynodedig a Datganiadau Ardal


Mae tirweddau dynodedig, sy'n cynnwys Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), yn cwmpasu oddeutu 25% o dir Cymru. Er bod gan Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ddibenion statudol gwahanol, gyda'i gilydd maent yn ceisio:

  • cadw a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth
  • hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer deall a mwynhau eu nodweddion arbennig

Mae gan bob tirwedd dynodedig ddyletswydd statudol i lunio cynllun rheoli bob pum mlynedd y mae’n rhaid iddo ystyried Datganiadau Ardal o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Bwriad y dudalen hon yw gweithredu fel cyflwyniad i broses y Datganiadau Ardal, ynghyd â'r heriau a chyfleoedd cysylltiedig a themâu sy'n dod i'r amlwg, a sut mae hyn yn ymwneud â thirweddau dynodedig. Wrth i'r themâu hyn gael eu datblygu ar y cyd, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru'n alinio'n gwaith – ynghyd â dulliau fel cyllid grant – â’r gwaith o’u cyflawni.

Mae Llywodraeth Cymru'n rhagweld y bydd tirweddau dynodedig yn dod yn enghreifftiau o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gyda'r potensial i chwarae rôl weithredol wrth weinyddu Cynllun Ffermio Cynaliadwy Cymru yn y dyfodol ac mewn cymorth rheoli tir arall.

Cydweithio


Mae proses y Datganiadau Ardal yn cynnwys ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid. Bydd rhai o'r rhain yn dod o ardaloedd daearyddol ehangach neu gymunedau newydd o ddiddordeb.

Wrth i'r Datganiadau Ardal ddatblygu, ein nod yw hwyluso safbwyntiau a syniadau newydd sy'n ymwneud â rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Dyma broses barhaus a byddwn yn ceisio gweithio'n agos gyda Pharciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol wrth ddatblygu ein hymatebion ar y cyd i themâu'r Datganiadau Ardal.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi cynnal sawl digwyddiad ar y cyd gyda Pharciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol i archwilio'r cysylltiadau rhwng Datganiadau Ardal a chynlluniau rheoli. Gwnaeth y digwyddiadau hyn dynnu sylw nid yn unig at fanteision rhannu data ynghylch ecosystemau gwydn a'r manteision maent yn eu darparu, ond hefyd at bwysigrwydd cynlluniau rheoli a thirweddau dynodedig fel partneriaid cyflawni allweddol ym mhroses y Datganiadau Ardal. Wedi'r cyfan, rydym yn rhannu sawl blaenoriaeth debyg fel gwella'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, gwella atafaeliad carbon, a gwella llesiant cymunedau a chyfleoedd ar gyfer hamdden.

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r heriau a'r blaenoriaethau a nodir drwy'r Datganiadau Ardal.

Darganfod themâu’r Datganiadau Ardal


Gallwch weld disgrifiad o'r themâu gwahanol sy'n dod i’r amlwg ledled Cymru yma:

Sut i ddefnyddio Datganiadau Ardal


Mae Datganiadau Ardal yn rhoi cyfleoedd ar gyfer dysgu a gweld safbwyntiau gwahanol, gyda'r nod cyffredinol o fynd i'r afael â’r argyfyngau cyfredol yn yr hinsawdd ac ym myd natur. O ran tirweddau dynodedig, gallai hyn fod yn berthnasol i waith cynllunio ar y cyd, yn ogystal â chysylltiadau â chynllunio datblygu a chynlluniau llesiant.

Gall Datganiadau Ardal gael eu defnyddio i ddarparu cyd-destun rhanbarthol ar gyfer cynlluniau rheoli, sydd eisoes yn ceisio cydbwyso blaenoriaethau cenedlaethol a lleol. Y nod yw gweithio ar y cyd yn fwy gyda phartneriaid a rhanddeiliaid, gan fynd i'r afael â materion gyda'n gilydd ond mewn modd gwahanol.

Rydym yn ceisio rhannu ein data a'n tystiolaeth ategol drwy borth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru. Gall hyn helpu i lywio polisïau a chamau gweithredu sy'n ymwneud ag Adroddiad Cyflwr y Parc a/neu Adroddiad Cyflwr yr AHNE. Bydd gwybodaeth, cyngor ac offer perthnasol newydd ar gael drwy'r porth Gwybodaeth amgylcheddol Cymru.

Ffurflen adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf