Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Atebion sy'n seiliedig ar natur ac addasu ar yr arfordir

Beth yw'r cyfleoedd ar gyfer cyflenwi atebion sy'n seiliedig ar natur ac addasu ar yr arfordir, gan gefnogi Cymru i fod ag arfordir sy'n gynaliadwy ac yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd?

Storm ar Bae Treaddur

Llun gan John Briggs

Mae'r Datganiadau Ardal yn crynhoi trafodaethau o'r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym yn addasu ein cynlluniau ynglŷn â digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd pandemig y coronafeirws.

 

Sylwch fod yr holl feysydd parcio, mannau chwarae a blociau toiledau yng ngwarchodfeydd a choedwigoedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gau o 23 Mawrth 2020.

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein prif dudalen ynghylch y coronafeirws.

Pam y thema hon?


Mae arfordir helaeth Cymru yn hynod bwysig i bobl Cymru. Mae'n ymestyn am 2,740 km ac mae 60% o'r boblogaeth yn dewis byw ar, neu'n agos at, yr arfordir.  Mae'n lle pwysig ar gyfer bioamrywiaeth, ac mae 75% o'r arfordir wedi’i ddynodi fel safle o bwysigrwydd amgylcheddol. Mae hefyd yn cefnogi hamdden a thwristiaeth, sy'n hwb enfawr i lesiant ac economïau lleol. Mae'r arfordir yn adnodd gwerthfawr sy'n gofyn am reolaeth ofalus a chynaliadwy i barhau i gyflenwi'r buddion hyn nawr ac yn y dyfodol.

Pâr o Gerddwyr Ar Lwybr Arfordirol Cymru Ym Morthor, Penrhyn Llos lle mae Bryniau Gwyrdd Garw yn Cyfarfod Y Môr© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru​

Dylai ein harfordiroedd newid yn naturiol dros amser. Fodd bynnag, mae ymyriad dynol wedi cael effaith ar yr hyn sy'n digwydd yno. Mae llawer o gymunedau arfordirol o amgylch Cymru yn dibynnu ar amddiffynfeydd arfordirol i'w hamddiffyn yn erbyn llifogydd llanwol ac erydiad. Amcangyfrifir y cafodd difrod gwerth £3 biliwn ei osgoi yn ystod gaeaf 2013/14, diolch i'n hamddiffynfeydd arfordirol.

Bydd y newid yn yr hinsawdd yn arwain at lefelau'r môr yn codi a rhagor o stormydd. Ar hyn o bryd, nid yw arfordir Cymru yn wydn yn amgylcheddol, yn gymdeithasol nac yn economaidd i'r pwysau hyn. Mewn rhai lleoedd, ni fydd bellach yn gynaliadwy i gynnal yr amddiffynfeydd presennol yn yr hirdymor. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni gynllunio i addasu gan y bydd rhai cymunedau, ffyrdd, rheilffyrdd, cyfleustodau, ffermydd, a seilwaith a busnesau eraill ar yr arfordir yn eu cael eu hunain mewn perygl.

Tai ger yr arfordir yn ystod storm ym Mae Trearddur, Ynys MônLlun gan John Briggs

Mae Cynlluniau Rheoli Traethlin yn gynlluniau lefel uchel sy'n nodi lle y dylem barhau i amddiffyn yr arfordir a lle y byddai'n fwy cynaliadwy i addasu dros amser. Maent yn rhannu'r arfordir yn adrannau llai sy'n cael eu hadnabod fel 'unedau polisi'. Maent yn esbonio sut y dylai'r unedau polisi gael eu rheoli dros y tymor byr (2005–2025), y tymor canolig (2025–2055) a'r hirdymor (2055–2105) trwy neilltuo un o'r polisïau rheoli canlynol i bob cyfnod o amser:

  • Cynnal y Llinell drwy gynnal neu newid y safon bresennol o amddiffyniad

  • Symud y Llinell drwy estyn amddiffynfeydd newydd i'r môr (nid yw hyn wedi’i wneud yng Nghymru)

  • Adlinio a Reolir, sy'n galluogi'r draethlin i symud yn ôl ac ymlaen, gyda gwaith rheoli i reoli neu gyfyngu’r symud

  • Dim Ymyrraeth Weithredol, lle nad oes buddsoddiad mewn amddiffynfeydd arfordirol a chaniateir i brosesau naturiol ddigwydd

Mae'r ffigur isod yn dangos y polisïau rheoli a ffefrir ar draws y tri chyfnod o amser. Mae'n dangos y newid arfaethedig yn glir o barhau i amddiffyn i ddull mwy ymaddasol mewn rhai lleoliadau.

""

Lle bo newidiadau a gynlluniwyd i 'Adlinio a Reolir' neu 'Dim Ymyrraeth Weithredol', bydd adrannau o'r arfordir yn colli eu hamddiffyniad presennol. Bydd angen gwneud penderfyniadau anodd ac mae angen gwaith sylweddol i gasglu tystiolaeth, ymgysylltu a buddsoddi mewn adnoddau i ddechrau paratoi ar gyfer addasiad arfordirol.

Lle bydd amddiffynfeydd yn cael eu cynnal, fel mewn lleoliadau mwyaf poblog, mae gennym ddewisiadau ynglŷn â sut caiff hyn ei gyflawni.  Gallwn ddewis y math o amddiffynfa ein bod wedi ei dewis yn y gorffennol, fel morgloddiau ac argorau (a elwir weithiau yn seilwaith 'caled' neu 'lwyd'). Neu, gallwn edrych ar ddefnyddio 'seilwaith gwyrdd', a adnabyddir hefyd fel 'atebion sy'n seiliedig ar natur'.

Mae atebion sy'n seiliedig ar natur yn cynnig amddiffynfeydd arfordirol ond, yn wahanol i atebion traddodiadol, gallant ddarparu nifer o fuddion eraill. Er enghraifft, gallwn ail-lenwi traethau neu amddiffyn morfeydd heli fel ffordd o amddiffyn ein harfordir. Ar yr un pryd, gall y dull hwn greu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, amddiffyn storfeydd carbon, darparu mannau i ni eu mwynhau, a denu twristiaid i hybu economïau lleol. Mae morfeydd heli, yn enwedig, yn gynefinoedd pwysig ac yn storfeydd carbon hynod o effeithlon, sy'n eu gwneud o bosib yn ddefnyddiol iawn yn ein hymdrechion i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd. 

Ceir hefyd 'dulliau hybrid' a all bontio'r bwlch rhwng seilwaith gwyrdd a seilwaith llwyd. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys gosod adeileddau ar ochr amddiffynfa bresennol sy'n wynebu'r môr er mwyn trapio gwaddod ac annog morfa heli i ledaenu. Mae'r forfa heli hon wedyn yn amddiffyn yr amddiffynfa yn ogystal â chyflenwi buddion eraill i'r ecosystem.

Blenny gan ddefnyddio strwythur artiffisial agen “blwch post” y gellir ei ychwanegu at ddatblygiadau morol i ddarparu cynefin ar gyfer bywyd morol. Mae anemonau hefyd yn tyfu dros y strwythurLlun gan Ally Evans

Mae nifer o enghreifftiau o sut i ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur ac atebion hybrid ar yr arfordir ond, yn anffodus, nid yw eto'n arfer cyffredin yng Nghymru. Mae llawer o waith ymchwil yn cael ei gynnal i geisio deall pam. Mae’r prosiect Ecostructure yn ymchwilio i ddatrysiadau posib ac yn gweithio'n uniongyrchol hefyd gyda datblygwyr a chymunedau lleol i ystyried opsiynau a chodi ymwybyddiaeth.

Mae ein harfordir, yn ogystal â'r rhywogaethau, cynefinoedd a chymunedau sy’n cael eu cynnal ganddo, yn wynebu newid sylweddol. Rydym ar adeg hanfodol lle mae gwir gyfle gennym i asesu'r hyn sydd ei angen i gefnogi'n hardaloedd arfordirol i addasu a dod yn fwy gwydn. Mae'r hyn rydym yn ei wneud nawr yn gallu dod â buddion i natur a'r bobl sy'n byw ar ein harfordir. Mae'r thema hon yn archwilio sut rydym yn gallu cyflawni buddion lluosog wrth i ni baratoi ar gyfer y newidiadau hyn ac addasu iddynt.

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?


Gyda'n partneriaid, rydym yn cydnabod bod nifer o rwystrau i'w goresgyn i gyflawni arfordiroedd cynaliadwy:

Sut y gallwn wella dealltwriaeth y cyhoedd o ran y materion hyn?

Rydym yn gwybod bod bron 100 o safleoedd o gwmpas Cymru lle bydd angen cynllunio addasu manwl. Fodd bynnag, nid yw nifer o bobl a chymunedau a all fod mewn perygl yn ymwybodol o'r angen i addasu neu sut y gallai effeithio arnynt.

Yn ogystal, gallai mwy gael ei wneud i esbonio sut olwg allai fod ar atebion sy'n seiliedig ar natur mewn gwirionedd, lle y gellir eu defnyddio'n effeithiol, a'r buddion y gallent eu cynnig.

A allwn helpu i symleiddio gofynion cymhleth cyfreithiol?

Mae achosion yng Nghymru lle mae adlinio a reolir wedi dechrau digwydd, naill ai wedi'i gynllunio neu mewn ymateb i ddigwyddiadau naturiol – fel hynny yn Cwm Ivy yng ngogledd Penrhyn Gŵyr. Mae'r achosion hyn wedi ein dangos bod deddfwriaeth wrthgyferbyniol ynghylch hawliau tramwy cyhoeddus, priffyrdd, treftadaeth, a mwy o bosib, a allai ein hatal rhag rheoli gwaith adlinio'r arfordir lle y cynlluniwyd.

A all ddarparu cyllid a chymell helpu?

Gall y newidiadau enfawr sydd eu hangen er mwyn addasu ar yr arfordir fod yn hynod gostus i’r llywodraeth, awdurdodau lleol, Network Rail, awdurdodau priffyrdd, tirfeddianwyr a'r cyhoedd. Rydym yn gwybod bod angen i ni archwilio opsiynau o ran cyllid i gefnogi gwaith addasu ar yr arfordir.

Mae angen mwy o gymorth hefyd i helpu i ddod o hyd i gyllid ar gyfer atebion sy'n seiliedig ar natur. Mae angen i ni allu gwerthfawrogi eu buddion ehangach fel y gellir eu hymgorffori yn y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â’r amddiffynfeydd sy’n cael eu dewis gennym.

Delwedd o aber Mawddach gyda'r bont reilffordd ar draws o Barmouth i Fairbourne. Mae'r ddelwedd yn dangos pa mor agos yw'r traciau trên i ymyl yr arfordir yn yr ardal honLlun gan Amy Martin

Beth sydd angen arnom i ddeall risgiau a buddion atebion sy'n seiliedig ar natur yn well?

Mae angen i ni gasglu mwy o dystiolaeth ar ba fathau o atebion sy'n seiliedig ar natur sy'n bosib o amgylch Cymru a dechrau eu defnyddio lle bo'n briodol. Trwy ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur, byddwn yn datblygu hyder wrth eu defnyddio ac yn sicrhau eu bod yn cael eu hystyried yn wirioneddol ochr yn ochr ag atebion traddodiadol.

Lluniau cyn ac ar ôl. Llun cyn yn dangos cerbydau yn pwmpio a symud tywod am ran o raglen rhoi maeth i’r traeth yn Bae Colwyn. Llun ar ôl y dangos y datblygiad wedi ei orffen hefo pobol yn mwynhau y traeth fel canlyniad i'r rhaglen i rhoi maeth i’r traeth yn ogystal a’r wal mwy traddodiadal yn y cefn.Llun gan Llywodraeth Conwy a John Briggs

Sut y gallwn wella mynediad at wybodaeth ac arweiniad?

Mae angen i ni ei gwneud yn haws i bobl gael gwybodaeth ynglŷn ag atebion sy'n seiliedig ar natur. Byddai hyn yn cynnwys safleoedd a allai fod yn addas i'w defnyddio. Gallai fod angen hyfforddiant hefyd i helpu i weithredu mesurau’n lleol a chynyddu’r defnydd ohonynt.

Sut dylem gynllunio a blaenoriaethu ein gwaith i gyflenwi gwaith addasu ar yr arfordir?

Mae angen i ni ddatblygu ffordd ar y cyd o gytuno a blaenoriaethu pa leoliadau sydd angen cynllunio manwl yn gyntaf. Gallwn wedyn weithio gyda'n gilydd i gyflenwi'r cynlluniau manwl hynny, gan sicrhau ein bod yn myfyrio ar gynnydd, llwyddiannau a heriau i helpu i ni symud ymlaen.

Ymchwydd storm arfordirol ym Mae Colwyn gydag amddiffynfeydd arfordirol i'w gweld.Llun gan John Briggs

Wedi i ni nodi a dechrau archwilio’r heriau hyn, gwnaethom gytuno ar weledigaeth ar gyfer y thema hon ar y cyd:

“Mae gan Gymru arfordir cynaliadwy a gwydn drwy gyflenwi gwaith addasu arfordirol yn unol â Chynlluniau Rheoli Traethlin ac atebion sy'n seiliedig ar natur fel rhan o reolaeth arfordirol, lle bo hynny’n bosibl."

Gwnaethom gydnabod bod nifer o leoliadau o gwmpas Cymru y bydd rhaid inni barhau i’w hamddiffyn yn y dyfodol. Mae hyn yn rhoi nifer o gyfleoedd i ystyried defnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur ar gyfer ein hamddiffynfeydd arfordirol. Fel grŵp, gwnaethom gytuno y byddai llwyddiant ar gyfer atebion sy'n seiliedig ar natur fel a ganlyn:

  • Lle rydym wedi buddsoddi mewn amddiffynfa arfordirol, mae atebion sy'n seiliedig ar natur wedi cael eu hystyried a'u gweithredu lle bo'n briodol. Byddem yn monitro'r defnydd uwch hwn i wirio bod yr atebion wedi bod yn llwyddiannus

  • Mae rhwystrau sy'n atal y defnydd o atebion sy'n seiliedig ar natur wedi cael eu lleihau

Gyda 50% o leoliadau o amgylch Cymru yn bwriadu symud i ffwrdd o amddiffynfeydd traddodiadol ac ystyried 'Adlinio a Reolir' o'r arfordir neu 'Dim Ymyrraeth Weithredol' erbyn 2055, rydym yn cydnabod bod angen gwaith sylweddol i alluogi'r newid hwn i ddigwydd. Fel grŵp, gwnaethom gytuno y byddai llwyddiant ar gyfer addasiad arfordirol fel a ganlyn:

  • Mae polisïau tymor byr Cynlluniau Rheoli Traethlin (2005–2025) wedi cael eu gweithredu NEU mae dealltwriaeth glir o'r rhwystrau sy’n atal gweithredu ac mae blaengynllun yn ei le

  • Rydym wedi dechrau cynllunio polisïau tymor canolig Cynlluniau Rheoli Traethlin (2025–2055) i addasu ein harfordir. Mae rhanddeiliaid eisoes wedi cael eu nodi ac maent yn ymwybodol o'r angen am newid

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?


Rydym wedi gweithio gyda Fforwm Grwpiau Arfordirol Cymru a'r pedwar grŵp arfordirol unigol yng Nghymru i archwilio a datblygu'r thema hon. Ynghyd â Cyfoeth Naturiol Cymru, mae aelodau’r grwpiau’n cynnwys awdurdodau morol lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Network Rail, ac ymddiriedolaethau archeolegol.

Mae'r grwpiau hyn yn dod ag ystod o randdeiliaid ynghyd sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu a gweithredu Cynlluniau Rheoli Traethlin. Maent wedi bod yn hanfodol wrth gytuno ar weledigaeth a rennir ar gyfer y thema hon yn ogystal â nodi a blaenoriaethu camau gweithredu i’w chyflawni.

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r grwpiau hyn ac rydym yn ddiolchgar am eu cyfraniadau hyd yn hyn. Yn y dyfodol, hoffem ehangu ein gwaith ymgysylltu a siarad â'r cyhoedd, yn enwedig â chymunedau sy'n debygol o gael eu heffeithio. Hoffem hefyd siarad â pherchnogion asedau a thirfeddianwyr eraill ar yr arfordir, fel: darparwyr seilwaith (cwmnïau cyfleustodau), perchnogion parciau carafanau, darparwyr hamdden, ffermwyr, awdurdodau porthladd, a mwy.

Mae gan yr holl Ddatganiadau Ardal ar y tir hydoedd o arfordir a byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r materion o dan y thema hon. Byddwn yn gweithio yn enwedig o agos gydag ardaloedd sy'n cynnwys y cymunedau hynny sy’n wynebu’r perygl mwyaf.

Beth yw'r camau nesaf?


Gwnaethom nodi ar y cyd y camau isod i'n helpu i gyflawni'n gweledigaeth o lwyddiant a rennir. Bydd y camau gweithredu hyn yn cynnwys aelodau o Fforwm Grwpiau Arfordirol Cymru a grwpiau arfordirol unigol, ond gallai gael eu harwain hefyd gan eraill. Rhagdybiaeth allweddol sydd wedi cael ei gwneud gennym wrth nodi'r camau hyn yw y byddai adnoddau ar gael, ond rydym yn cydnabod y gallai hyn barhau i fod yn heriol. 

Gwella dealltwriaeth y cyhoedd o'r mater:

  • Cwmpasu a chyflenwi cyfathrebiadau ar y lefel genedlaethol, awdurdod lleol a chymunedol i helpu i wella dealltwriaeth o risgiau prosesau arfordirol a'r angen i addasu

  • Cwmpasu a chyflenwi cyfathrebiadau ehangach ynglŷn ag addasu arfordirol y tu hwnt i ymarferwyr arfordirol. Gall y rhain fod yn estyniadau o sianeli sydd eisoes yn bodoli (e.e. Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus) neu lwybrau hollol newydd

  • Gwneud data sy’n ymwneud ag addasu arfordirol ac atebion sy'n seiliedig ar natur mor agored a hygyrch â phosibl. Gallai un enghraifft fod i ddefnyddio byrddau gwybodaeth rhyngweithiol lleol mewn ardaloedd perthnasol

Gwella mynediad i ganllawiau a gwybodaeth:

  • Cefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu pecyn cymorth addasu arfordirol a fydd yn llywio'r dull ar gyfer cynllunio addasu manwl ac ymgysylltu cymunedol

  • Datblygu canllawiau i lywio a chefnogi atebion sy'n seiliedig ar natur, gan gynnwys mapio ardaloedd o gyfleoedd a hyfforddiant ar gyfer y rhai sy’n gwneud penderfyniadau

Mynd i'r afael â'r gofynion cyfreithiol cymhleth a all fod yn rhwystr sy’n atal gwaith gweithredu:

  • Ymgymryd ag ymarfer cwmpasu manwl i ddeall yr ystod lawn o faterion deddfwriaethol sy'n rhwystro gwaith addasu ar yr arfordir a lle mae dyheadau gwrthgyferbyniol

Gwella dealltwriaeth ynglŷn â'r buddion a risgiau sy'n ymwneud ag atebion sy'n seiliedig ar natur:

  • Gwella gwybodaeth ar risgiau, oes cynlluniau a gofynion cynnal a chadw sy'n ymwneud ag atebion sy'n seiliedig ar natur. Adolygu’r wybodaeth ar risgiau yn Rhaglen Ymchwil a Datblygu ar y Cyd Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ac archwilio sut i wneud yr wybodaeth hon yn fwy hwylus i ddefnyddwyr

Cefnogi cynllunio a blaenoriaethu gwaith allweddol:

  • Datblygu gweledigaeth a rennir gyda grwpiau arfordirol ar leoliadau lle mae angen gweithredu gwaith addasu arfordirol, wedi’i llywio gan bolisïau mewn Cynlluniau Rheoli Traethlin

  • Creu methodoleg i flaenoriaethu lleoliadau sydd angen cynllunio manwl ar gyfer addasu arfordirol. Nodi a gweithio gyda rhanddeiliaid lleol i gytuno ar restr o leoliadau â blaenoriaeth ar raddfa leol

  • Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol, datblygu a gweithredu cynlluniau addasu arfordirol lleol (graddfa prosiect) a manwl ar gyfer unedau polisi’r Cynlluniau Rheoli Traethlin â blaenoriaeth yn y tymor byr (2005–2025). Dylai'r rhain fod ar waith ar gyfer y lleoliadau sydd â'r flaenoriaeth uchaf yn y tymor canolig (2025–2055)

  • Cyfoeth Naturiol Cymru i rannu gwybodaeth ar safleoedd posib ar gyfer Adlinio a Reolir sy’n cael eu hystyried gan y Rhaglen Genedlaethol Creu Cynefinoedd i wella cydweithio yn y gwaith o gyflenwi'r rhaglen

  • Sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Lleol yn dangos lleoliadau lle mae angen gwaith addasu arfordirol i atal datblygiadau amhriodol

Penderfynu sut mae cyllid a chymhellion yn gallu helpu i gefnogi’r gwaith o weithredu polisïau Cynlluniau Rheoli Traethlin ac atebion mwy seiliedig ar natur:

  • Ystyried sut y gall achosion busnesau ym maes amddiffyn arfordirol gael eu llywio neu eu sgorio mewn perthynas â chyflenwi yn erbyn nodau llesiant

  • Diwygio mesur drafft Llywodraeth Cymru, sef mesur 13 o’r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Genedlaethol, i adrodd yn benodol ar atebion arfordirol sy'n seiliedig ar natur

  • Archwilio a datblygu'r canlynol i gefnogi addasu arfordirol ac atebion sy'n seiliedig ar natur:

    •  Cyllid traws-sector (adrannau’r llywodraeth a thrydydd partïon)

    • Opsiynau cyllid tymor byr i helpu i gyflenwi cynlluniau i ddatblygu gwybodaeth a phrofiad (e.e. cyllid wedi’i neilltuo)

    • Gwybodaeth i gefnogi’r gwaith o ddatblygu achosion busnes ar gyfleoedd cyllid partneriaeth i gyflawni prosiectau ar y cyd

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Rydym wedi bod yn ymgysylltu â Fforwm Grwpiau Arfordirol Cymru yn rhagweithiol i ddatblygu'r camau gweithredu o dan y thema hon. Cytunodd y grŵp ar weledigaeth hirdymor a rennir ar gyfer arfordir Cymru. Gyda'i gilydd, dylai'r camau rydym wedi eu nodi yma helpu i gyflawni Cynlluniau Rheoli Traethlin ac atal datblygiadau anghynaliadwy ar yr arfordir.

A moth feeding on an intertidal plant, specially adapted to survive in saline conditions such as a saltmarsh. This image was taken at Cwm Ivy where managed realignment has naturally occurred.Llun gan yr National Trust

Mae'r camau rydym wedi eu nodi yn ceisio galluogi rheoli addasol o arfordir Cymru mewn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd a phrosesau arfordirol. Rydym am annog atebion sy'n seiliedig ar natur mewn amddiffynfeydd arfordirol i harneisio buddion lluosog fel llesiant, dal carbon ac adeiladu gwydnwch ein hecosystemau arfordirol.

Rydym wedi nodi'r angen i wneud tystiolaeth gyfredol yn fwy hygyrch i'r rheini sydd ei hangen. Mae angen hefyd i ni wella'r dystiolaeth ar gostau a buddion i gefnogi defnydd mwy o atebion sy'n seiliedig ar natur a gwaith addasu ar yr arfordir.

Ffocws allweddol ein camau yw codi ymwybyddiaeth a chyfranogiad cyhoeddus, yn enwedig yn y cymunedau hynny sy'n debygol o gael eu heffeithio’n fwyaf gan y newid yn yr hinsawdd ac addasu arfordirol yn y dyfodol.

Sut all pobl gymryd rhan?


Dim ond dechrau'r daith yw'r thema hon wrth i ni weithio gyda phobl yng Nghymru i wella'r gwaith o reoli ein harfordiroedd a'n moroedd. Os hoffech fod yn rhan o'r broses hon, cysylltwch â ni. Gallwch hefyd anfon neges e-bost uniongyrchol atom yn: marine.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.