Blwyddyn ers i’r trên nwyddau ddod oddi ar y cledrau yn Llangennech

I nodi blwyddyn ers i’r trên nwyddau ddod oddi ar y cledrau, a’r tân a’r gollyngiad diesel dilynol yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin, gadewch inni edrych yn ôl ar sut y gwnaeth partneriaid gydweithio ac osgoi trychineb amgylcheddol.

Daeth y trên oddi ar y cledrau tua 11.15pm ddydd Iau, 26 Awst, 2020, gan arllwys oddeutu 300,000 litr o ddiesel o 10 wagen a chychwyn tân.

Cymerodd y tân 33 awr i’w ddiffodd gyda'r gwasanaethau brys yn gweithio trwy gydol y nos.

Delwedd yn dangos dadreilio trên

Mae'r ymgyrch adfer, a gydlynwyd gan CNC gydag ystod eang o sefydliadau partner a chontractwyr arbenigol, wedi bod ymhlith y mwyaf heriol erioed ers trychineb y Sea Empress 25 mlynedd yn ôl.

Mae timau daear o Network Rail, Cyfoeth Naturiol Cymru, Adler and Allan, Jacobs ac asiantaethau partner eraill wedi gweithio cyfanswm o 37,500 awr er mwyn diogelu'r amgylchedd lleol, tynnu'r wagenni enfawr o'r safle ac atgyweirio darn mawr o reilffordd a ddifrodwyd.

Effeithiodd y dasg o gau'r rheilffordd a'r gwaith adfer ar fusnesau lleol, diwydiant, twristiaeth, preswylwyr ac wrth gwrs yr amgylchedd.

Erbyn hyn mae'r llinell reilffordd wedi ei hadfer a'i hailagor, ond mae ôl-effeithiau'r gollyngiad diesel yn parhau i gael eu monitro, a bydd hyn yn digwydd am flynyddoedd i ddod.

Y digwyddiad

Am 11.15pm ar 26 Awst 2020, fe ddaeth trên nwyddau oedd yn teithio o Aberdaugleddau i Theale oddi ar y cledrau ar reilffordd Ardal Abertawe ger Llangennech yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd y trên nwyddau yn cludo 25 o wagenni tanc, a phob un yn cynnwys hyd at 100,000 litr o ddiesel.

Daeth deg o'r wagenni oddi ar y cledrau gan ollwng 330,000 litr o ddiesel, a chafodd hanner hynny ei losgi mewn tân mawr.

Gellid gweld tân a mwg am filltiroedd o gwmpas y ddamwain.

Roedd dau griw ar y trên a diolch byth na chafodd neb o’r naill na'r llall eu hanafu.

Rhoddwyd parth gwaharddiad 800 metr ar waith a symudwyd 300 o drigolion yn hwyr gyda’r nos gan y gwasanaethau brys.

Cymerodd 33 awr i'r gwasanaeth tân ac achub ddiffodd y tân.

Cyflawnwyd yr ymateb brys a'r ymgyrch adfer ddilynol i gyd yng nghanol pandemig byd-eang Covid-19 a'r holl gyfyngiadau roedd hynny’n eu rhoi ar y gwaith.

Y safle

Digwyddodd y ddamwain ar safle o bwysigrwydd rhyngwladol, o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Gadwraeth Arbennig Cilfach Tywyn, safle cadwraeth Ramser ac ardal sydd ar gyrion Gwaith Trin Dŵr Mwyngloddio Morlais sy’n eiddo i’r Awdurdod Glo.

Ardal Cadwraeth Arbennig Cilfach Tywyn

Mae'r safle'n cwmpasu 4,000 hectar o bysgodfa gocos a reoleiddir sy'n cefnogi 36 o gasglwyr trwyddedig a nifer o gasglwyr cregyn gleision a physgodfeydd eraill yn yr ardal.

Mae'n bysgodfa sydd wedi bod yn adfer yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi profi problemau yn y gorffennol gyda digwyddiadau llygredd eraill, pla parasitiaid ac roedd ar y trywydd iawn ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

Cynllun Trin Dŵr Mwyngloddio Morlais yr Awdurdod Glo

Mae hwn yn gynllun cwbl oddefol, sy’n dibynnu ar all-lif dŵr mwyngloddio artesiaidd o hen siafft awyr. Mae wedi’i leoli ar hen safle Glofa Morlais, ond mae wedi'i gysylltu â rhwydwaith mawr o weithfeydd mwyngloddio segur dan ddŵr sy’n ymestyn tua'r tir am gilometrau, mae'n un o'r cynlluniau trin dŵr mwynglawdd mwyaf yng Nghymru.

Mae'r rhwydwaith yn cysylltu â dau lagŵn gwaddodi mawr a thri gwely cyrs mewn ardal lle ceir hen domen rwbel.

Cyn i'r cynllun trin dŵr hwn ddod yn weithredol yn 2002, roedd dŵr y pwll glo yn effeithio ar Afon Morlais ac Aber Loughor gyda ffrwd ocr fawr, weladwy (oren).

Mae bellach yn gollwng yn unol â chaniatâd CNC ac nid oes unrhyw effeithiau gweladwy.

Parhaodd y system trin dŵr mwyngloddio i weithredu'n effeithiol drwyddi draw, gan ddiogelu Afon Morlais yn erbyn llygredd dŵr mwyngloddio er gwaethaf y llifoedd uchaf erioed ym mis Chwefror.

Mae coed a blannwyd i gymryd lle'r rhai a gollwyd yn y tân yn gwneud yn dda ac mae seilwaith y safle wedi'i atgyweirio a'i uwchraddio i safon 'well nag o'r blaen'.

Mae rhywfaint o waith ar y safle yn dal i fynd rhagddo. Mae rhyng-gipwyr olew yn dal i fod ar waith i ddiogelu gollyngiadau i Afon Morlais a disgwylir i'r gwaith monitro wythnosol ar yr halogiad olew gweddilliol yn y ddaear barhau am y tro.

Canlyniad y digwyddiad

Unwaith y diffoddwyd y tân a phan ganiataodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fynediad i'r safle, gwnaed pob ymdrech gan yr asiantaethau dan sylw i atal unrhyw lygredd pellach, gyda phwyslais ar adfer a chyfyngu’r diesel a hynny mor agos â phosibl at ardal y digwyddiad.

Tynnwyd tua 400,000 litr o ddiesel o'r wagenni a'u cludo i Puma Energy. Yna, codwyd y wagenni a ddaeth oddi ar y cledrau ac fe’u tynnwyd oddi yno gan graen. Lle bu angen, cludwyd cydrannau’r wagenni i Farnborough, er mwyn i’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd allu eu harchwilio.

Erbyn 8 Medi roedd yr holl wagenni wedi'u symud o'r safle. Fe'u harchwiliwyd â chamera teledu cylch cyfyng cyn eu symud er mwyn sicrhau nad oedd tanwydd gweddilliol y tu mewn. Roedd pob un ohonynt yn hollol wag felly nid oedd unrhyw berygl o ollyngiadau pellach wrth eu cludo ar y ffordd yn ôl i'w perchnogion.

Penododd DB Cargo gontractwyr amgylcheddol arbenigol, sef Adler and Allan, a phenodwyd Jacobs gan Network Rail i gefnogi'r adferiad amgylcheddol.

Cloddiwyd ffosydd bob ochr i safle'r ddamwain er mwyn helpu i ddal y gollyngiad a lleihau halogiad yr aber.

Gosodwyd argaeau dros dro, rhwystr swigen aer pwysedd uchel 150m a matiau amsugnol, yn ogystal â gwaith sgimio er mwyn cyfyngu gymaint â phosibl ar lif y diesel.

Monitro a Modelu

Roedd llawer iawn o wybodaeth a data yn dod i mewn ac yn cael ei asesu fesul awr ac yn ddyddiol.

Galwyd ynghyd Grŵp Amgylchedd Cymru ar adeg y digwyddiad a buont yn gweithio i fonitro a modelu'r effaith ehangach ar yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd. Defnyddiwyd y wybodaeth hon i arwain camau gweithredu sefydliadau er mwyn ceisio lleihau effeithiau oddi ar y safle ar bobl ac ar fyd natur.

Roedd diesel yn effeithio ar ardaloedd o amgylch Crofty, gogledd Gŵyr, Pwll, Doc y Gogledd, ac i fyny'r afon o Bont Llwchwr.

Bu Cefas yn darparu adroddiadau modelu dyddiol gan fesur ffrwd y mwg yn seiliedig ar y gwynt a’r llanw ac yna gweithio allan ble yn eu tyb nhw oedd yr ardaloedd mwyaf tebygol lle deuai’r diesel i'r lan. Dywedodd y gwaith hwn wrthym fod mwy na 70% o'r diesel a ollyngwyd naill ai wedi anweddu neu wedi bioddiraddio.

Caewyd y pysgodfeydd cregyn am saith wythnos fel rhagofal yn dilyn cyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Roedd gwaith monitro yn yr ardal yn cynnwys:

  • Monitro dŵr wyneb bob dydd ar y safle ac o amgylch yr aber mewn hyd at 20 o leoliadau.
  • Arolygon SCAT (Techneg Asesu Glanhau Traethlin) dyddiol o amgylch yr aber.
  • Archwiliadau o’r awyr dros yr ardal gan Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau
  • Monitro dŵr daear ddwywaith yr wythnos.
  • Arolygon ecoleg a briffiau gwylio ecolegol.
  • Arolygon cocos misol dros yr hydref a'r gaeaf.
  • Cefnogaeth peirianneg sifil a strwythurol trwy gydol y prosiect.
  • Cafodd symudiad y diesel yn y tir ei fonitro trwy 42 twll turio ar draws tir Network Rail a'r Awdurdod Glo.

Y gwaith adfer

Gwnaed gwaith adfer i dynnu ac ailosod 12,000 metr ciwbig o bridd oedd wedi'i halogi â diesel gan y contractwyr amgylcheddol arbenigol Adler and Allan a Jacobs.

Rhannwyd y safle halogedig yn gelloedd gan y cynllun adfer. Cloddiwyd pob cell yn ofalus, gan dynnu hyd at 30 metr ciwbig o bridd halogedig ar y tro. Cafodd ei symud o'r safle mewn lori a'i drin yn ddiogel mewn cyfleuster rheoli gwastraff trwyddedig ger Merthyr Tudful.

Llanwyd yr ardaloedd a gloddiwyd â deunyddiau chwareli glân a gafwyd o chwareli yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro ac a ddewiswyd yn benodol i weddu i'r priodweddau cemegol a ffisegol sy'n ofynnol ar gyfer y safle a'r SoDdGA a'r ACA o'i amgylch.

Roedd gweithio’n agos gyda’r Awdurdod Glo yn hanfodol er mwyn cadarnhau’r ffordd fwyaf diogel posibl o gael gwared â llygredd o’u tir heb amharu ar y lagwnau trin dŵr mwyngloddio, nac achosi i unrhyw ddŵr mwyngloddio ddianc o hen Lofa Morlais. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys cael gwared ar yr haen uchaf o dir lle cafodd dŵr tân halogedig ei bwmpio yn ystod y digwyddiad a hynny mewn ardal o goetir i'r gogledd-ddwyrain o safle'r digwyddiad, yn ogystal â gwaith cloddio dyfnach ar safle'r digwyddiad ei hun. Parhaodd Cynllun Trin Dŵr Mwyngloddio Morlais yr Awdurdod Glo i weithredu fel arfer trwy gydol hyn i gyd.

Gweithiodd contractwyr bedair awr ar hugain y dydd i gwblhau'r gwaith cymhleth a hynny mewn ffordd mor ddiogel ac mor gyflym â phosibl. Bu'n rhaid iddynt oresgyn sawl her, gan gynnwys llifogydd ar y safle yn ystod tywydd garw.

Mae’r gwaith i atal a chynnwys y diesel yn parhau, ynghyd â gwaith monitro parhaus ar yr amgylchedd a'r pysgodfeydd cyfagos.

Amddiffyn bywyd gwyllt

Dyluniwyd yr holl weithrediad adfer i leihau'r effeithiau ar fywyd gwyllt lleol, ar wahân i gau pysgod cregyn rhagofalus nid oedd unrhyw effeithiau sylweddol ar bysgod nac adar gwyllt. Hanner ffordd trwy'r ymgyrch adfer, gwelwyd bod morlo ifanc wedi mynd mewn i'r ffos ddeheuol safle'r ddamwain, y tu allan i’w diriogaeth gyfarwydd, a chafodd ei ddychwelyd yn ddiogel gan yr RSPCA.

Yn ystod arolwg cychod fe wnaeth Adler ac Allan hefyd achub gwiwer hanner ffordd ar draws yr aber!

Adfer y rheilffordd

Caewyd pen deheuol llinell Calon Cymru, sy'n rhedeg o'r Amwythig i Abertawe, trwy Lanelli am chwe mis.

Yn ystod wythnosau olaf yr ymgyrch adfer, bu Network Rail yn gweithio i osod tua 530 metr o drac newydd sbon cyn ailosod y signalau a ddifrodwyd yn y tân.

Dechreuodd gwasanaethau cludo nwyddau eto ar y rheilffordd trwy Langennech yn hwyr ddydd Gwener 5 Mawrth, gyda gwasanaethau teithwyr yn ailgychwyn ddydd Llun 8 Mawrth.

Yr Effaith

Gwelwyd effeithiau pellgyrhaeddol ar yr amgylchedd – ar dir ac yn y môr, ar gymuned Llangennech, busnesau lleol, yn enwedig y pysgodfeydd cregyn, twristiaeth a diwydiant.

Mae'r rhan fwyaf o'r effeithiau hyn bellach wedi'u goresgyn ac ailgydiwyd mewn gweithgareddau, er bod gwaith a chefnogaeth i rai o'r grwpiau hyn yn parhau.

Pysgodfeydd cregyn

Mae gwelyau cocos Cilfach Tywyn yn un o'r rhai mwyaf cynhyrchiol yn y DU, yn economaidd ac yn ddiwylliannol.

Caewyd y gwelyau fel rhagofal diogelwch a hynny am saith wythnos tan ganol mis Hydref.

Cynhaliwyd gwaith samplu a monitro helaeth a nododd rowndiau cychwynnol o waith dadansoddi cocos a chregyn gleision yn yr ardal ar gyfer halogiad olew gweddilliol eu bod o fewn terfynau statudol, sy’n cael eu gosod er mwyn amddiffyn iechyd defnyddwyr ac ansawdd y cynnyrch.

Fel rhagofal, dadansoddwyd rowndiau pellach o samplau yn ystod yr wythnosau yn dilyn y digwyddiad. Daeth y canlyniadau hynny yn ôl o fewn terfynau statudol a chaniatawyd i'r pysgodfeydd cregyn ailagoryn amodol ar fonitro parhaus.

Parhaodd y rhaglen o archwilio a monitro pysgod cregyn dros gyfnod y gaeaf er mwyn sicrhau diogelwch ac ansawdd parhaus pysgod cregyn a gynaeafir o'r ardal.

Datblygwyd cynllun di-log gan Lywodraeth Cymru, yn seiliedig ar gyngor technegol gan CNC o golledion tebygol i ddeiliaid trwydded unigol ac a weinyddir gan yr Awdurdodau Lleol, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Abertawe i fynd i’r afael â chaledi’r ceiliogod nad oeddent yn gallu gweithio’r gwelyau cocos am y saith wythnos hynny o'r cau.

Gweithio mewn partneriaeth

Gan fod hwn yn ddigwyddiad amgylcheddol yn bennaf, CNC fu’n arwain ac yn cadeirio’r adferiad trwy'r holl gamau hyd at ailagor y rheilffordd ym mis Mawrth 2021.

Arddangosodd ystod eang o bartneriaid waith tîm gwych wrth gydweithio i oresgyn llawer o heriau a lleihau'r effeithiau trwy Grŵp Cydlynu a Thactegau Adferiad sy'n gweithredu o fewn fframwaith Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed Powys.

Yn eu plith roedd cynrychiolwyr o CNC, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Abertawe, Network Rail, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Awdurdod Glo.

Buont yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn lleihau unrhyw botensial ar gyfer effaith y digwyddiad ar y gymuned leol, yr amgylchedd a'r economi.

Sefydlwyd Grŵp Adfer ar gyfer Rhanddeiliaid er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl a chynnig cefnogaeth i'r rhai yr effeithiwyd arnynt i oresgyn effaith y digwyddiad hwn. Cadeiriwyd y grŵp hwn gan Nia Griffith AS.

Y Dyfodol

Mae'r gwaith o fonitro'r safle yn parhau.

Mae rhyng-gipwyr diesel yn dal i fod ar waith er mwyn amddiffyn gollyngiadau i Afon Morlais a bydd gwaith monitro wythnosol ar yr halogiad olew gweddilliol yn y ddaear yn parhau am y tro.

Bydd monitro pysgod cregyn hefyd yn parhau am o leiaf dwy flynedd arall.​

Bydd y gwaith hwn yn cael ei adolygu'n gyson gyda phartneriaid perthnasol.

Yr Ymchwiliad

Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) yn ymchwilio i achos y ddamwain a'r tân a'r gollyngiad diesel yn dilyn hynny.

Cyhoeddwyd canfyddiadau rhagarweiniol a chyngor brys ynghylch cynnal a chadw ac archwilio wagenni ganddynt ym mis Tachwedd 2020.

Bydd canfyddiadau llawn yr ymchwiliad yn cael eu cyhoeddi'n fuan.

Mae ymchwiliad CNC i achos y llygredd amgylcheddol yn parhau.

Llinell Amser

26 Awst 2020 - digwyddiad

28 Awst 2020 – y tân wedi’i ddiffodd a’r safle'n ddiogel ar gyfer dechrau’r ymchwiliad a gwaith adfer.

22 Medi 2020 – RAIB yn cyhoeddi’r adroddiad cychwynnol

13 Hydref 2020 - ailagor pysgodfeydd cocos a physgod cregyn

Tach 2020 – dechrau ar raglen gloddio 12 wythnos

Ion 2021 - dechrau adfer y rheilffordd

5 Mawrth 2021 - ailagor y rheilffordd

 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf