Afon Dyfrdwy

Prosiect gwerth £6.8 miliwn yw Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy i drawsnewid Afon Dyfrdwy a'i dalgylch drwy adfer yr afon a'i hamgylchoedd i'w cyflwr naturiol. Bydd hyn yn dod â sawl mantais i'r amgylchedd, yn benodol gwella niferoedd yr eogiaid, lampreiod a misglod perlog i'w helpu i fod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol.

Afon Dyfrdwy yw'r afon fwyaf yn y Gogledd ac mae ganddi ddalgylch o fwy na 1,800 km². Mae ymhlith yr afonydd sy’n cael eu rheoleiddio fwyaf yn Ewrop, ac ynghyd â Llyn Tegid, mae wedi'i dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).

O'i rhagnentydd yn ucheldiroedd Eryri, mae Afon Dyfrdwy yn disgyn drwy Lyn Tegid, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Ar ôl llifo drwy gwm eang i Gorwen, mae'n disgyn i'r dwyrain drwy fro odidog Llangollen, o dan Ddyfrbont Pontcysyllte – sy’n Safle Treftadaeth y Byd - cyn torri trwy droedfryniau ger Bangor Is-coed, ac yna ymlwybro i'r gogledd drwy Wastadedd Sir Gaer i'w chyfyngiad llanwol ger Caer.

Prif ddefnyddiau Afon Dyfrdwy yw ffermio, yn benodol pori gwartheg a defaid; echdynnu dŵr i gyflenwi dŵr i 2.5 miliwn o bobl; twristiaeth, gan gynnwys genweirio hamdden, canŵio a mordwyaeth; a chadwraeth natur.

Y camau gweithredu rydym yn eu cymryd

  • diddymu cyfyngiadau ar bysgod yn ymfudo a chysylltedd ecolegol ehangach

  • adfer neu wella prosesau, nodweddion a chynefinoedd ffisegol afonol naturiol yn o leiaf 55 km o afon

  • gwella arferion rheoli tir amaethyddol a choedwigaeth i leihau mewnbwn maethynnau a gwaddod i'r Ardal Cadwraeth Arbennig

  • cychwyn ar waith rheoli cadwraeth ar gyfer y fisglen berlog, sydd mewn perygl difrifol

  • sefydlu a meithrin perthnasau cadarnhaol tymor hir gyda rhanddeiliaid allweddol yn ystod cyfnod y prosiect ac ar ôl hynny

Gwaith cadwraeth

Ein cynnydd hyd yma:

  • Plannu 15,000 o goed wrth ochr yr afon
  • Sefydlogi 730 metr o’r lan yn naturiol
  • Cyflwyno 4,250 tunnell o raean i'r afon
  • Codi 36 cilometr o ffensys i greu coridorau ar lan yr afon
  • Ailgyflwyno 1,000 tunnell o glogfeini i'r afon
  • Tynnu neu addasu 7 rhwystr i helpu pysgod i ymfudo

Pysgod yn ymfudo

Byddwn yn diddymu pum cored yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn Afon Dyfrdwy a’i hisafonydd ac yn gosod datrysiadau i helpu pysgod ymfudo mewn chwe chored arall. BHyd yma, rydym wedi tynnu tri rhwystr yn gyfan gwbl ar Afon Tryweryn, Morlas a Meloch, ac wedi newid tair cored arall, gan gynnwys dwy yn Llangollen ac un yn Nant Gwryd yn Nyffryn Ceiriog. Mae rhai o'r strwythurau hyn yn waith ychwanegol i dargedau gwreiddiol y prosiect.

Bydd hyn yn cynyddu mynediad ar gyfer y pysgod ac yn gwella hydromorffoleg mewn 33 cilomedr o afon, a fydd yn fanteisiol i'r holl gynefinoedd a rhywogaethau.

Adfer yr afon

Adfer yr afon

Byddwn yn gwella cynefinoedd mewn rhan dros 6 km o hyd o’r afon, gan gynnwys ychwanegu miloedd o dunelli o raean, cerrig a deunydd pren. Rydym eisoes wedi rhoi 5,500 tunnell o ddeunydd yn yr afon yn ystod hanner cyntaf y prosiect, gyda mwy i ddod dros y ddwy flynedd nesaf.

Bydd o leiaf 35 km o dir ar hyd y glannau yn cael ei adfer drwy bori a reolir, ffensys a phlannu, a bydd 2 km o amddiffynfeydd glannau ac argloddiau artiffisial hanesyddol yn cael eu gwaredu neu eu torri. Hyd yn hyn, rydym wedi cwblhau dros 36 cilomedr o ffensys ac wedi plannu 15,000 o goed.

Rheoli tir

Byddwn wedi gwella seilwaith coedwigaeth drwy osod croesfan afon a uwchraddio 11 o gwlferi draeniau coedwigaeth, a fydd yn lleihau'r perygl o lygredd mewn 600 hectar o goedwigaeth yn nalgylch yr Ardal Cadwraeth Arbennig.

Drwy weithio'n agos gyda ffermwyr, byddwn yn helpu i wella arferion amaethyddol i leihau mewnbwn maethynnau, cemegion a gwaddod i'r Ardal Cadwraeth Arbennig.

Rheoli cadwraeth ar gyfer y fisglen berlog, sydd mewn perygl difrifol 

Gan ddefnyddio stoc misglod perlog Afon Dyfrdwy, byddwn yn magu mewn caethiwed a rhyddhau misglod perlog ifanc i gynefin addas. Byddwn yn parhau gyda'r rhaglen hon ar ôl i'r prosiect gael ei gwblhau nes bod y boblogaeth yn cael ei hailsefydlu.

Gweithio gyda'n cymuned leol

Gweithio gyda'n cymuned leol

Bydd y cymunedau sy'n byw ar hyd Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid wrth wraidd y prosiect. Byddwn yn gweithio'n agos gyda phobl leol i sicrhau eu bod yn deall gwerth biolegol, cymdeithasol ac economaidd y cynefinoedd a rhywogaethau, yr afon a'r Ardal Cadwraeth Arbennig o safbwynt eu pwysigrwydd hanesyddol a phresennol. Ein gobaith yw y bydd pobl yn teimlo mwy o ymdeimlad o berchnogaeth a chyfrifoldeb cymunedol dros Afon Dyfrdwy ac yn sicrhau bod etifeddiaeth y prosiect yn parhau am flynyddoedd lawer i ddod. Byddwn yn annog pobl i gymryd rhan cymaint â phosib drwy gynnal dros hanner cant o ddigwyddiadau yn ystod oes y prosiect, gan gynnwys teithiau ar hyd yr afon a sgyrsiau amdani, gweithdai, diwrnodau agored, a rhaglenni gydag ysgolion.

Canlyniadau'r prosiect

  • adfer prosesau a morffoleg afonol naturiol

  • cynefinoedd a rhywogaethau wedi’u symud tuag at statws cadwraeth ffafriol

  • gostyngiad mewn llygredd yn yr afon gyda manteision ar gyfer bioamrywiaeth a dŵr yfed

  • gwella poblogaethau eogiaid a physgod eraill

Dysgu mwy am ein prosiect

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol

Chwiliwch @LIFEAfonDyfrdwy ar FacebookTwitter ac Instagram

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr chwarterol

Rhifyn 8, Hydref 2023
Rhifyn 7, Haf 2023
Rhifyn 6, Gwanwyn 2023
Rhifyn 5, Gaeaf 2023
Rhifyn 4, Hydref 2022
Rhifyn 3, Haf 2021
Rhifyn 2, Gwanwyn 2021
Rhifyn 1, Gaeaf 2020

Darllenwch ein newyddion a’n blogiau

Cyfraddau goroesi pysgod ifanc yn cael hwb gan waith gwella Afon Dyfrdwy
Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy yn casglu lluniau prin o lysywod pendoll 'cyn-hanesyddol' wrth i'r tymor silio ddechrau ar Afon Dyfrdwy

CNC yn lansio prosiect LIFE Afon Dyfrdwy gwerth £6.8 miliwn
Tynnu’r gored fawr gyntaf fel rhan o brosiect LIFE Afon Dyfrdwy
Deorfa Bysgod Rithwir LIFE Afon Dyfrdwy
Lluniau anhygoel o eogiaid yn y tymor silio gan ffotograffydd bywyd gwyllt (Saesneg yn unig)
Astudiaeth Achos: System acwstig olrhain pysgod ar waith (Saesneg yn unig)
Astudiaeth Achos: Coredau Llangollen, Dam Removal Europe (Saesneg yn unig)
Gwneud Cored yn Dda ar gyfer Cadwraeth ac yn Ddiogelach ar gyfer Hamdden (Saesneg yn unig)

Dathlu Diwrnod Mudo Pysgod y Byd ar Afon Dyfrdwy
Gwaith i gael gwared ar rwystr yn Afon Dyfrdwy yn annog eogiaid i ymfudo
Disgyblion Ysgol Bro Tryweryn yn gofalu am ddeorfa frithyll yn y dosbarth
Disgyblion Ysgol O M Edwards, Llanuwchllyn i ofalu am ddeorfa frithyll yn yr ysgol

Gwyliwch ein fideos

Cored Caer: Pysgod ifanc yn mynd trwy hollt ar ôl gwaith gwella
Llysywod pendoll y nant yn silio ar y Ddyfrdwy uchaf
Beth yw Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy?
Lansio prosiect LIFE Afon Dyfrdwy
Tynnu cored Afon Tryweryn
Portffolio fideo
Eogiaid yn y Ddyfrdwy
Llysywen bendoll yn silio
Diwrnod Afonydd y Byd
Fideo tros-amser adeiladu croesfan Penaran
Pysgod yn ymdrechu i fyny drwy gored Erbistog
Llysywod pendoll y môr yn silio ar afon Dyfrdwy

Gwrandewch ar ein straeon

Cerdd: Taith Afon Dyfrdwy
Podlediad Eryri: Afon Dyfrdwy

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth, neu i gysylltu ag aelod o'r tîm, e-bostiwch lifedeeriver@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Cyllid

Ariennir prosiect LIFE Afon Dyfrdwy (LIFE18 NAT/UK/000743) gan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Dŵr Cymru a Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Bydd y prosiect, a ddechreuodd ym mis Medi 2019, yn cael ei gynnal tan fis Rhagfyr 2024.

Diweddarwyd ddiwethaf